Beth fyddai orau gennych chi ei weld mewn pentref?
Capel mawr hardd yn dal 700 o bobl, galeri helaeth, gwaith coed cywrain ar y seti, y pulpud a’r sêt fawr, a’r ffenestri a’r to yn ddiddos. Ond y gynulleidfa fach wedi’i llethu gan gyfrifoldeb gofalu am yr adeilad ac yn methu symud ymlaen â’i chynlluniau i ddatblygu’r achos am fod yr adeilad yn llyncu eu holl adnoddau.
Cwrt taclus, o flaen festri sy’n dal tua 100 o bobl. Yn ogystal â’r oedfaon a’r cyfarfodydd arferol, mae gwaith plant, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol yn cael eu cynnal o dan arweiniad gweinidog neu weithiwr cyflogedig.
I’w roi ar ei symlaf – gallai cadw’r capel ar ei draed ladd yr achos Cristnogol.
Dyna’r sefyllfa sy’n wynebu llawer o eglwysi anghydffurfiol heddiw – ac mae’n ymddangos nad oes ganddyn nhw lais yn y mater.
Fe wnaeth Vaughan Roderick drydar yn ddiweddar ei fod yn “Casau’r ystrydeb nad adeilad yw’r Eglwys.” gan esbonio, “Buildings mean something.” (Rhagfyr 1). Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn torri ei galon am fod capel y Tabernacl, Cwm-gors lle bu ei dadcu’n weinidog am 40 mlynedd, yn cau.
Daeth hyn drannoeth cyfarfod rhwng aelodau ein heglwys ni a swyddog cadwraeth a ddywedodd, fwy neu lai, nad oedd gennym ddewis ond pwmpio arian i mewn i’n capel enfawr ni er na fydd mo’i angen byth eto fel y mae. Gan ei fod wedi’i restru gan CADW, chawn ni ddim o’i dynnu i lawr. Fe gawn ni ei werthu neu ddarganfod defnydd arall iddo. Ond pwy brynith gapel mawr ynghanol pentre heb le parcio, o gofio bod capel arall, mwy hwylus, ar werth yn y pentre ers dwy flynedd? A beth all rhywun ei wneud â’r adeilad o gofio am gyfyngiadau llym CADW? Hyd yn oed tyse rhywun yn cael syniad am rywbeth i’w wneud ag e, byddai’n rhaid buddsoddi cannoedd o filoedd i’w wneud yn ffit at unrhyw ddefnydd arall. Mae rhai’n rhyw led obeithiol y daw diwygiad ac y bydd angen capel mawr eto ond hyd yn oed pe bai hynny’n digwydd, go brin mai capel traddodiadol â chorau coed sefydlog a sêt fawr a phulpud a galeri fyddai ei angen. Felly, mae’n edrych yn debyg bod disgwyl i’r eglwys daflu arian i mewn i gadw’r adeilad yn ddiogel ac yn daclus am gyfnod amhenodol nes bod rhyw swyddog yn rhywle yn penderfynu y cawn ni stopio. Erbyn hynny, beryg y bydd hi’n rhy hwyr ar yr achos.
Oni fyddai’n well i ni gael defnyddio’r arian er lles yr achos Cristnogol a’r gymuned?
Felly, er mod i’n cytuno â Vaughan, sydd hefyd wedi blogio am ei deimladau, bod capeli yn agos at galonnau’r Cymry a’i bod yn drist gweld capel yn cau, o’n safbwynt i, mae’r achos a phobl y pentre yn golygu mwy nag adeilad.
Mae Vaughan yn “teimlo bod gan rywun ddyled a dyletswydd i aelodau ‘r teulu – hyd yn oed y rhai sydd wedi ein gadael” ac mae hyn yn deimlad cryf yn ein cymdeithas. Does dim sicrwydd y byddai Cwrdd Eglwys yn penderfynu dymchwel y capel hyd yn oed pe bai gennym ryddid i wneud hynny – o barch i’r “hen bobol”. Fy nadl i yw bod yr “hen bobol” wedi gwneud beth oedd yn addas iddyn nhw ar y pryd. Roedden nhw’n cwrdd mewn beudy neu barlwr tra oedd hwnnw’n addas, yna’n codi capel bach, yna gapel chydig bach mwy ac wedyn capel anferth, fel yr oedden nhw’n gweld yn dda ar y pryd. Oni fydden nhw’n dymuno i ni wneud beth sy’n addas i ni, heddiw?

Cyhoeddwyd gan siantirdu 


