Mae’r blogiau ‘ma fel bysus Llundain – dim byd am fisoedd ac wedyn dau wrth gwt ei gilydd.
Wrth ddarllen gwefan Ekklesia ddoe, fe ddes i ar draws postiad ar fater arall dwi wedi bod yn mwydro dipyn amdano wrth roi dillad ar lein yn ddiweddar.
Mae casgliad o fudiadau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan, Michael Gove, i ofyn iddo ddod ag addoliad gorfodol i ben mewn ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys mudiadau Cristnogol, rhai’n cynrychioli crefyddau eraill a rhai seciwlar.
Po fwyaf dwi’n meddwl am y peth, dwi’n rhyfeddu fwyfwy bod addoliad gorfodol yn cael bod yn rhan o fywyd ysgol o gwbl. Mae rhywbeth yn amhriodol amdano. Fel y dywed Simon Barrow, cyd-gyfarwyddwr Ekklesia: “The notions of compulsion and worship are mutually exclusive, and seeking to enforce prayers by law is offensive to the non-conformist Christian conscience, as well as to many of other faith traditions and to non-believers.”
Dyma rai pwyntiau dw i wedi bod yn meddwl amdanyn nhw:
1) Mae ysgolion i bawb, nid Cristnogion yn unig – y trethdalwyr sy’n talu amdanyn nhw
2) Mae hawl i eithrio plant o’r gwasanaethau ond mae hynny’n greulon – mae pethau eraill yn digwydd yn y gwasanaeth hefyd ac mae’n bwysig cael pawb at ei gilydd i fagu ysbryd o gymuned
3) Mae’n syndod, mewn ffordd, bod Anghydffurfwyr wedi bod o blaid addoliad gorfodol mewn ysgolion:
a) am y bydden nhw ishe amddiffyn y ddysgeidiaeth yn y capeli
b) am eu bod o blaid rhyddid i addoli
4) Mewn gwasanaethau ysgolion, yn aml dydi’r “neges” ddim yn “Gristnogol” – gellid cael yr un neges foesol mewn cyfarfod digrefydd – hyd yn oed gyda darlleniadau o’r Beibl
5) Erbyn hyn, ychydig o athrawon sy’n mynd i gapel neu eglwys ac felly mae’n chwithig eu bod nhw’n (gorfod) paratoi addoliad i ddisgyblion
6) Gall gwasanaethau â dim ond negeseuon moesol neu negeseuon ar gyrion Cristnogaeth roi camargraff i blant beth yw Cristnogaeth mewn gwirionedd
7) Byddai gweinidogion, gweithwyr Cristnogol ac eraill yn dal i gael mynd i ysgolion i gyflwyno neges – dweud be maen nhw’n gredu a pham – ac arwain trafodaethau heb i’r plant orfod cymryd rhan mewn addoliad
8 Gallai rhoi’r gorau i addoliad gorfodol mewn ysgolion roi hwb i eglwysi (sef cartref naturiol addoliad) gymryd eu cenhadaeth o ddifri.
9) Sut fyddai rhieni Cristnogol yn teimlo pe bai’r gyfraith yn newid i orfodi hybu anffyddiaeth neu grefydd arall mewn ysgolion?
10) All y drefn bresennol ddim bod yn effeithiol iawn yn annog addoliad neu byddem yn gweld mwy o’i ffrwyth yn y capeli a’r eglwysi.
Ceir arweiniad gan Estyn i arolygwyr ysgolion ynghylch addoli ar y cyd yn y fan hyn. Mae’n amlygu rhai o’r anawsterau a all godi.
Fe ddes i ar draws trafodaeth ddifyr iawn ar y pwnc ar fforwm Cristnogaeth21 yn trafod bwriad Llywodraeth y Cynulliad yn Ionawr 2009 i roi hawl i bobl ifanc dros 16 oed i beidio â mynd i wasanaethau crefyddol yn yr ysgol.
Yn ddiddorol iawn, er bod llefarydd ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi mynd i berorasiwn gan alw’r bwriad yn “gweithred o frad gan Lywodraeth y Cynulliad, sy’n taflu 1,500 o flynyddoedd o ddiwylliant Cymru i’r gwynt”, roedd nifer o Gristnogion yn cymryd agwedd wahanol.
Felly, ydi hi’n bryd gwahanu’r “gorfodi” a’r “addoli” yn ein hysgolion – er lles pawb?
[...] rhesymol iawn wrth ymateb i sylwadau’r Annibynwyr ynghylch stampiau Nadolig, ac hefyd wrth sôn am addoliad gorfodol mewn ysgolion. Dyma ychwanegu rhywfaint at ei sylwadau [...]
Radical iawn, Mrs Robaits. Ond cytuno pob gair, wrth gwrs.
Un pwynt bach yn codi o’r blogiad ar y stampia ond yr un mor berthnasol fan hyn: be sy’n gwneud iti feddwl fod yr anghydffurfwyr yn anghydffurfio y dyddiau hyn?! Ers cyfnod y Rhyfel Byd 1af aeth y pedwar enwad yn gydymffurfwyr gan blygu i alwad y llywodraeth a DLG am gofrestru milwyr. Daethant yn rhan o’r sefydlaid ac yn rhan o fyd-crêd (Christendom) lawn cymaint ag Eglwys Loegr.
Teg awgrymu mai’r dyna’r un sefyllfa heddiw lle mae eu cysylltiad efo’r Cynullaid a’r Blaid bach mewn cwestiwn?
Diolch, Dyfed.
Dwi’m yn meddwl ei fod mor radical â hynny – jest bod rhywun wedi mynd i gymryd y peth yn ganiataol, am wn i. Mae disgwyl i athrawon a phlant – bach neu fawr – weddio a “pharchu neu fawrygu bod neu bŵer dwyfol” mewn sefydliad gwladol yn od iawn pan ti’n meddwl amdano. Bosib bod lot o Gristnogion yn credu hynny ond eu bod nhw’n gyndyn o godi’r mater.
Beth ti’n feddwl wrth “cysylltiad efo’r Cynulliad a’r Blaid bach”? Ai bod pobl yn disgwyl i’r rheiny fod yn sefydliadau “Cristnogol”?
[...] This post was mentioned on Twitter by Siân Eleri Roberts, Siân Eleri Roberts. Siân Eleri Roberts said: Wedi blogio am yr assembly – na, nid hwnna, addoliad gorfodol mewn ysgolion http://siantirdu.wordpress.com/2010/11/23/yn-oesoesoes-amen/ [...]
Trafodaeth yn datblygu yn maes-e – fan hyn http://maes-e.com/viewtopic.php?f=25&t=28790
Cytuno 100%. Un o’r brif ddadleuon i mi yw’r ffaith fod gwasanaethau ysgol ac hefyd gwersi addysg grefyddol yn euog o roi camargraff ym meddwl plant o beth yw gwir efengyl Iesu Grist. Hefyd wrth gwrs mae’r hen egwyddor ymneulltuol o wahanu eglwys a gwladwriaeth yn peri i berson sylwi fod gwasanaethau ysgol yn hurt. Mae ymateb yr Annibynwyr i bethau fel hyn yn anghyson gyda’i athrawiaeth hanesyddol ar y pwnc.