Ro’n i ar fy ffordd i ‘ngwely neithiwr pan sylwais i ar ddau lyfr ar lawr y parlwr, Y Pla gan Wiliam Owen Roberts a’r Dŵr Mawr Llwyd gan Robin Llywelyn. Felly, yn lle cyfri defaid i fynd i gysgu, mi ddechreuais gyfri’r beirdd/awduron/dramodwyr oedd yn y coleg yn Aber yn yr un cyfnod â mi yn fras (1978 – 1981):
Wiliam Owen Roberts
Robin Llywelyn
Twm Morys
Iwan Llwyd
Bethan Gwanas
Myrddin ap Dafydd
Sêra Moore Williams
Mari Rhian Owen
Jeremy Turner
Siôn Aled
Margiad Roberts
Llion Jones
Emyr Lewis
Angharad Dafis
Siân Reeves
Geraint Lewis
Gerwyn Williams
Wedyn, fe ddechreuais i ar y rhai sydd wedi bod yn gwneud bywoliaeth reit amlwg ym myd teledu/radio yng Nghymru mewn rhyw ffordd neu’i gilydd:
Garry Owen
Gwyn Elfyn
Edwina Williams Jones
Karl Davies
Tim Hartley
Sion Tecwyn
Sian Pari Huws
Gwyn Williams
Catrin Beard
Llion Williams
Anna Fôn
Ann Fôn
Glenda James
Wendi Puw
Wyn Williams
Susan Waters
Derwyn Williams
Betsan Llwyd
Rhian Morgan
Irfon Jones
Aled Eurig
Huw Eurig
Aneirin Huws
Emyr Davies
Catrin MS Davies
Alun Elidyr
Owain Pennar
Rhian Cadwaladr
Alun ap Brinley
Sioned Wiliam – fwy yn Lloegr
Tomos Morgan ?
Ac mae’n siwr bod ‘na eraill na feddylies i neu na wyddwn i amdanynt.
Dwi ddim yn siwr oes ‘na arwyddocâd i hyn. Ydi’r ffigurau ‘na’n uwch nag arfer? Oedden ni’n genhedlaeth fwy creadigol na’r cyffredin? A ddaeth cnwd tebyg o Fangor neu Gaerdydd? Daeth llawer o’r uchod trwy adrannau Cymraeg a Drama Aber. Ai iddyn nhw mae’r diolch?
A oedd haearn yn hogi haearn? A oedd y ffaith fod S4C ar gychwyn yn help?
Difyr, te?
Dwi am ddechre cyfri cyfieithwyr y tro nesa fyddai’n ffaelu cysgu!
[...] This post was mentioned on Twitter by Blogiadur, Siân Eleri Roberts. Siân Eleri Roberts said: Aber 1978-81 – Cenhedlaeth greadigol? http://siantirdu.wordpress.com/2010/11/28/cyfnod-toreithiog/ [...]