Her i Ymgynghorwyr Her

Mai 24, 2015

siantirdu:

Dwi ddim yn ailflogio’n aml ond mae angen i bawb weld hwn! Oes geiriau eraill y dylid eu cynnwys yn y rhestr? – Dwi’n cynnig “blaengaredd” fel enw – pan fydd “initiative” yn golygu “cynllun”.

Originally posted on Blog Glyn Adda:

Hwyrach – gobeithio – y bydd rhai o’r darllenwyr yn cofio eitem 29 Ebrill, lle gwnes ambell sylw ar swydd a oedd yn cael ei hysbysebu gan ‘gorff newydd uchel ei broffil’.  Ond  ’tawn i’n marw, dyma un arall yn GOLWG, 21 Mai.

her i uwch

Wedi dechrau drafftio rhyw bwt bach yn cyfeirio at y monitro, yr herio, yr ‘ymyrryd yn uniongyrchol’ a’r dyletswyddau aruthrol eraill, mi rois y gorau iddi mewn anobaith.  Mae hyn tu hwnt i alluoedd unrhyw ddychanwr sy’n fyw heddiw. Tyrd yn ôl, Jonathan Swift.

Ond dyma ichi beth a wnaf.  Bydd Blog Glyn Adda weithiau’n cynnwys cyfraniad gan awdur gwadd.  Felly y tro hwn, rwy’n addo y rhoddaf lwyfan agored ar yr hen flog i ysgrif, o’r hyd a fynner, yn gwrthddadlau’r gosodiad ‘fod y swydd hon yn rwtshi-ratsh ac yn gamddefnydd annuwiol o arian cyhoeddus’.  Beth amdani, aelodau tîm yr Ymgynghorwyr Her?

Ond mae un…

View original 93 yn rhagor o eiriau


Priodasau Un Rhyw

Ebrill 29, 2015

Dyma daflen y gwnes i ei llunio oherwydd y gofyn i Eglwysi’r Annibynwyr benderfynu a oeddent am ganiatau priodasau un rhyw. Gobeithio y bydd o help i eglwysi eraill.

taflen priodas gyfartal 3 colofn fersiwn2


Parod am oedfaon parod?

Ebrill 28, 2015

Wythnos arall ac oedfa ddi-bregethwr arall. “Peidiwch â phoeni,” medde fi. “Fe wna i addasu oedfa arall o’r CD.”

Screen shot 2015-04-28 at 10.16.57 AMRoeddwn i’n teimlo bod yr oedfa Duw Goleuni o’r gyfrol Dyrchafu’r Duw Byw ar y CD Cynnal Oedfa (Cyhoeddiadau’r Gair) wedi gweithio’n eithaf da gydag ychydig o addasu ac felly dyma benderfynu mynd ati o’u cwr a thaclo’r ail oedfa yn y gyfrol honno sef Duw Doethineb.

Roedd hon yn dechrau’n eithriadol o addawol ond roedd rhai o’r cyfeiriadau at fywyd y teulu’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus braidd – efallai mod i’n or-sensitif ond ro’n i’n teimlo y gallai rhai elfennau gael eu dehongli fel beirniadaeth ar deuluoedd unigol. Mae’n bosib yr af i nôl at hon eto achos mae ynddi stwff eithriadol o dda ond penderfynu ei gadael a wnes am y tro. (Roedd yr oedfa hon eto yn cynnwys stori bersonol am yr awdur yn ei ardd gyda 275 o falwod – tybed fyddai gan yr aelod cyffredin 275 o falwod yn ei ardd a’r ’mynedd i’w cyfri nhw?!!)

Reit, y nesaf! Duw Trugaredd. Stwff da eto ond ymdriniaeth braidd yn gymhleth o bechod ac aberth i rywun ei darllen os nad fe’i hunan oedd wedi’i ysgrifennu. Ro’n i’n ofni y byddwn i’n colli’r gynulleidfa – a minnau! Y ddwy nesa, Duw Cyfiawnder a Duw Cyfeillgarwch – efallai, ond dim cweit. Fyswn i, na’r rhan fwyaf o aelodau cyffredin ein capeli, am wn i, ddim yn gysurus yn sôn am “ffurf ramadegol yr adnod … yn yr iaith Roeg”! Dwi’n meddwl y dylai’r oedfaon yma fod o fewn dealltwriaeth y sawl sy’n debygol o’u defnyddio. Ond mae’n bosib y dof i nôl at y ddwy oedfa hyn hefyd ryw dro os bydd gen i amser i’w haddasu fel eu bod yn siarad fwy yn fy iaith i a’r gynulleidfa.

Nesa, Duw Ffyddlondeb. Yma eto, fel yn yr oedfa Duw Doethineb uchod, fyddwn i ddim yn teimlo’n gysurus yn sôn gymaint am anffyddlondeb o fewn y teulu. Mae’n siwr nad oes yr un gynulleidfa sydd heb ei brifo mewn rhyw ffordd gan hyn a hyd yn oed o drafod y peth yn sensitif, byddai arna i ofn i rywun feddwl bod yma ryw feirniadaeth ohonyn nhw’n bersonol. Fyddai’r stori am wraig yn dweud “…fyddai dim ots gen i dynnu cyllell allan a’i thrywanu” pe bai’n gweld cariad newydd ei gŵr ddim o lot o help dwi’m yn meddwl!

Penderfynu newid cyfeiriad a throi at un o’r llyfrau eraill. Coronwch Ef yn Ben! gan John Lewis Jones y tro hwn. Mae amryw o’r oedfaon hyn wedi’u bwriadu’n arbennig ar gyfer adegau neilltuol o’r flwyddyn a dyma sylwi ar un o’r enw Gwanwyn Duw. Fel roedd hi’n digwydd roedd yr oedfa hon yn ateb ein gofynion yn union! Roedd yn cymharu nodweddion gwanwyn naturiol â gwanwyn ysbrydol gyda darlleniadau, emynau a gweddïau perthnasol. Fe wnes i gyflwyniad PowerPoint i fynd gyda’r oedfa hon hefyd. O edrych yn ôl, mae’n debyg mod i wedi defnyddio gormod o luniau o’r gwanwyn naturiol – ond mae dipyn yn haws cael lluniau o ŵyn bach a briallu na chyfleu gwanwyn ysbrydol.

Screen shot 2015-04-28 at 10.19.08 AMFelly, i grynhoi, mae’r CD Cynnal Oedfa yn adnodd gwerthfawr i gynulleidfaoedd sydd heb bregethwr. O ’mhrofiad cyfyng i, fe lwyddwyd i ddefnyddio’r oedfa Gwanwyn Duw o’r llyfr Coronwch Ef yn Ben fwy neu lai “off the peg”. Dw i ddim yn gwybod a fyddai yr un peth yn wir am yr oedfaon eraill yn y llyfr hwnnw. Dw i ddim yn meddwl y byddai’n ddoeth agor Dyrchafu’r Duw Byw ar y funud olaf pe bai pregethwr yn ffonio ar fore Sul i ddweud ei fod yn sâl. O’r hyn a welaf i, mae angen cymryd tipyn o amser i addasu’r oedfaon yn y llyfr hwnnw fel eu bod yn gweddu i’r sawl sy’n cymryd rhan ac i’r gynulleidfa ac mae modd gwneud hynny’n hwylus trwy droi’r pdfs yn Word. Ond, o wneud yr ymdrech, mi allai dalu ar ei ganfed! Ac mae’r trydydd llyfr ar y CD, Yr Enw Mwyaf Mawr, yn dal heb ei dwtsh!


Pa mor barod yw oedfaon parod?

Ebrill 28, 2015

Ddau ddydd Sul o’r bron nawr, am wahanol resymau, rŷn ni wedi bod heb bregethwr. Rŷn ni’n eglwys freintiedig gan fod gennym ni nifer o aelodau sy’n gallu paratoi oedfaon i’w cynnal ond oherwydd salwch, gwyliau a phrysurdeb, doedd neb ar gael i wneud hynny.Screen shot 2015-04-28 at 9.16.37 AM Felly, dyma droi at y CD Cynnal Oedfa gan Gyhoeddiadau’r Gair. Dyma’r tro cyntaf i mi wneud hyn ac roedd yn dda gweld bod y CD (£11.99) yn cynnwys tri llyfr o oedfaon cyflawn – Dyrchafu’r Duw Byw gan Huw John Hughes, Yr Enw Mwyaf Mawr, hefyd gan Huw John Hughes, a Coronwch Ef yn Ben gan John Lewis Jones. Mae’r llyfrau hyn ar gael ar bapur hefyd – dipyn drutach na £11.99 am y tri. Dyma ddechrau yn y dechrau, yr oedfa gyntaf yn Dyrchafu’r Duw Byw – Duw Goleuni. Roedd yn dechrau’n ddigon addawol, gyda darlleniadau byr a Geiriau Agoriadol i gyflwyno’r mater. Ro’n i’n teimlo efallai bod brawddeg fel “Nid canfod y goleuni trwy chwilio amdano neu trwy ymddisgyblu’n ysbrydol i ymgyrraedd ato wnawn.” braidd yn uchel ael o feddwl mai aelodau cyffredin cynulleidfaoedd sydd i fod i ddefnyddio’r oedfaon hyn ond yna cafwyd gweddi ardderchog, emyn, a darlleniad byr. Grêt. Myfyrdod sydd nesa – yn trafod Gnosticiaeth, y Docetiaid a dysgeidiaeth Cerinthws. Nawr te, un peth yw i weinidog sydd wedi astudio’r pethau ’ma ac sy’n gwybod am beth mae e’n sôn i ddechrau traethu am ddysgeidiaeth Cerinthws (er mai digon chydig sy’n gwneud hynny erbyn hyn) ond druan â Mrs Jones, Tŷ Pen yn treio bustachu ei ffordd trwy syniadau am ddrygioni’r corff ac a oedd gan Iesu gorff o gwbl! Rwy’n cydnabod bod lle i addysgu mewn oedfa ond rwy hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig bod y sawl sydd yn addysgu o leia’n swnio fel tyse fe’n gwybod am beth mae e’n sôn! Y gŵr a minnau oedd am gymryd rhan a doedden ni ddim yn teimlo y gallen ni wneud cyfiawnder â Cerinthws, felly dyma benderfynu hepgor y darn yma! Gweddi wedyn – rhaid dweud bod y gweddïau yn effeithiol iawn. Wedyn yr Anerchiad. Ro’n i’n synnu gweld hanesyn yn dechrau “Rwy’n cofio mynd yn fachgen ifanc i gae pêl-droed un o dimau enwoca’r gynghrair yn Lloegr.” Os mai “gwasanaethau cyflawn” yw’r rhain, beth sydd i fod i ddigwydd yn y fan hyn? Ydi’r sawl sy’n cymryd rhan i fod i esgus mai iddo fe/hi y digwyddodd hyn ’ta ydi ei i fod i ddweud “Mae Huw John Hughes yn cofio mynd yn fachgen ifanc i gae pêl-droed un o dimau enwoca’r gynghrair yn Lloegr.” ac addasu’r stori i’r trydydd person? Y naill ffordd neu’r llall, mae’n colli rhywfaint o’i heffaith. Fel roedd hi’n digwydd, roedd gen i stori debyg oedd wedi digwydd i mi, felly roedd yn ddigon hawdd addasu. Yn yr un anerchiad, mae ganddo stori amdano’n mynd i ganolfannau antîcs. Mae’n siwr nad mewn llyfr o “oedfaon parod” mae lle hanesion personol fel hyn. Wedyn, at y diwedd, mae cyfres eitha maith o gwestiynau i’w trafod yn cynnwys “Sut ydych chi’n esbonio dirgelwch person Crist?” , “Beth yw eich ymateb chi i gred y Gnosticiaid?” a “Fedrwch chi feddwl am gilfachau tywyll yn eich bywyd chi?”. Waw! Dydw i ddim yn siwr ai diwedd oedfa fel hyn yw’r lle i drafod cwestiynau mawr fel hyn, chwaith – efallai mewn Ysgol Sul neu Seiat gyda rhywun go solet yn arwain! Screen shot 2015-04-28 at 9.25.48 AMYr hyn a wnes i oedd dewis rhai o’r cwestiynau eraill a’u cynnwys yn rhan o weddi gyda chyfle i’r gynulleidfa fyfyrio arnyn nhw mewn tawelwch am ychydig. Un o fanteision mawr y CD yw bod modd troi’r testun yn Word yn hawdd ac felly addasu fel y dymunwch. Fe wnes i baratoi cyflwyniad PowerPoint i fynd gyda’r oedfa ac rwy’n credu bod y cyfan wedi gweithio’n ddigon effeithiol gydag emynau, gweddïau a darlleniadau addas a neges ddealladwy a pherthnasol.


Profiadau annifyr â’r traed – yn Gymraeg yn unig!

Mai 9, 2014

Screen shot 2014-05-09 at 9.49.11 AM

Gweld ar Twitter bore ma bod @AlexpolisTigers wedi aildrydar linc at Gorgeous Illustrations of Untranslatable Words from Different Languages –

Mae rhai ohonyn nhw’n hyfryd iawn!

http://designtaxi.com/news/365461/Gorgeous-Illustrations-Of-Untranslatable-Words-From-Different-Languages/

A dyma fi’n meddwl pa eiriau anghyfieithiadwy sy gennym ni yn Gymraeg – heblaw am “hiraeth” ac “Eisteddfod”.

Digwydd meddwl am “sodlo” – hynny yw, damsgen ar sawdl rhywun wrth gerdded y tu ôl iddyn nhw.  Mae hwn yn digwydd yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru gyda’r diffiniad “to tread on someone else’s heels”.  Hen brofiad annifyr iawn yw cael rhywun yn eich sodlo!

Wedyn feddyliais i am air arall – hefyd i’w wneud â’r traed, a chwilio amdano o fewn rhyw dudalen i “sodlo”, sef “socsan”.  Rwy’n tueddu i feddwl am “sodlo” fel gair y de, a “socsan” fel gair y gogledd ond doedd dim sôn am “socsan” na “socsen” yn GPC.

Screen shot 2014-05-09 at 9.41.55 AMMae hwn yn brofiad annifyr hefyd – cerdded mewn cae gwlyb neu roi’ch troed mewn pwll dŵr ar y pafin fel bod y dŵr yn mynd dros eich esgid ac yn gwlychu’r traed gan neud i’ch sanau sgweltshan.

Tybed oes geiriau ar gael am y rhain mewn ieithoedd eraill?

Rhywun yn gallu meddwl am ragor?

 

Screen shot 2014-05-09 at 11.00.16 AMMethu rhoi lluniau wrth ymateb am ryw reswm ond ie, diolch, Nic. Ac mae ‘na enwau ar berthnasau hefyd

 

 

 

 

A do’n i ddim yn cofio am ystyr arall, ffigurol, socsan – diolch, Mererid.

Screen shot 2014-05-09 at 11.09.48 AM

 


Llanw mawr 3 Ionawr

Ionawr 3, 2014

Ers i mi gael gwybod bod diabetes arna i rwy’n ceisio gwneud tipyn o ymarfer corff. Fues i’n mynd i’r gampfa yng Nghaernarfon ddwywaith yr wythnos o dan y cynllun Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff. Roedd hwnnw’n olreit ond braidd yn syrffedus a gwastraffus ac roedd y miwsig Saesneg yn mynd o dan fy nghroen. Mae rhywbeth yn chwithig hefyd am yrru 20 munud bob ffordd i gampfa amhersonol a ninnau’n byw mewn ardal mor hardd. Felly, nawr dwi’n ceisio cerdded lawr i lan y môr o leia unwaith bob dydd a cherdded nôl lan y rhiw heb arafu nes mod i’n gweld ty Orme Villa yn gyfan (mae chydig bach mwy yn dod i’r golwg gyda phob cam!).

Mae rhywbeth gwahanol i’w weld bob dydd.  Er enghraifft, ddoe, roedd y tonnau yn debyg i’r tonnau ro’n i’n arfer eu gweld ar draeth Penbryn – tonnau iawn, siâp C. Heddiw, roedd rhaid mynd i lawr i weld y llanw mawr ac roedd yn werth ei weld. Doedd neb i weld yn cofio’r fath lanw er, i’w gymharu â llefydd eraill, roedd i weld yn eitha dof. Roedd awyrgylch braf yno.

Mae’r môr, fel tân, yn was da ond yn feistr drwg – wrth edrych draw am Parsel ffor’na roedd y tonnau i weld yn frwnt iawn. Af i i Ben’rallt yn y funud os alla i ffeindio welingtons cyfan i weld a oes difrod. Dyma dipyn o luniau:

Image

Image

ImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImageImage


Yn y Gwyll yn ymgolli … weithiau

Tachwedd 29, 2013

llun gwyllYchydig iawn o deledu fydda i’n wylio.  Rwy’n hoffi dramâu 9 o’r gloch nos Sul S4C a Stella a Borgen pan fyddan nhw ymlaen ond ychydig iawn fydda i’n ei wylio’n rheolaidd fel arall.

Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Gwyll. Drama Gymraeg sylweddol, gyffrous, fodern gydag actorion da, wedi’i ffilmio yn ardal yr hyfryd Aberystwyth!

Daeth y stori gynta ac ro’n i’n ei gwylio ar fy mhen fy hunan wrth smwddio (Protestant work ethic, alla i ddim cyfiawnhau eistedd am awr yn gwneud dim byd!). Cyflwyniad da i’r cymeriadau – ddaethon ni i’w nabod nhw (i’r graddau roedden ni i fod i’w nabod nhw) yn eitha sydyn. Golygfeydd dramatig. Stori’n eich tynnu chi i mewn. Cwpwl o acenion doji ond allwn i faddau hynny. Ond roedd hi braidd yn rhy arswydus at fy nant i. Yn wir, erbyn canol yr ail bennod, ro’n i’n teimlo mor anesmwyth, mi benderfynais nad o’n i am arteithio fy hunan bellach, jest am ei fod yn Gymraeg, ac fe sleifiais i’r gwely’n o slic a chuddio dan y dillad.

Ges i gwmni Elis a Megan i wylio’r ail stori.  Roedd hynny’n gwneud i mi deimlo’n fwy cyfforddus o lawer. Yn wir, ro’n i’n teimlo mor gyfforddus, fe gysgais i tua hanner ffordd trwy’r ail bennod a cholli’r diwedd. (Do’n i ddim yn smwddio – ro’n i’n eistedd ar y soffa fel trît am fod y plant gartre!) Y lluniau sydd wedi aros yn fy meddwl yw cymeriad Llion Williams yn dod rownd talcen byngalo a Mathias yn achub hen wraig o’r môr. Dwi ddim wedi ailwylio i weld pwy wnaeth.

Erbyn hyn, ro’n i’n rhyw ddechrau sylweddoli mai llofruddiaethau fyddai ym mhob pennod. Ro’n i’n cael hyn braidd yn anodd i’w lyncu ac yn meddwl ei fod dipyn yn ddiflas. Siwr y byddai swyddfa heddlu’n cael troseddau eraill difyr i’w datrys. Soniais ar twitter mod i’n gobeithio am amrywiaeth a chefais fy mherswadio mai cyfres fwrdwrs oedd hi gan @rhysllwyd a rhywun hollol ddierth o’r enw @nerpipi1: “Ma hwnna fel dweud ‘gobitho bydd rhywun tennau ar fat club wythnos nesa’! ‪#shutup”. Charming!

Fe gymerais eu cyngor nhw a bodloni i atal fy anghrediniaeth. Wedi’i cyfan, do’n i ddim yn cael trafferth i “gredu” yn Morse, slawer dydd. Ges i fwy o flas ar y drydedd stori. Ar fy mhen fy hunan eto. Wnes i eitha mwynhau hon ond roedd ’na wendidau eitha sylfaenol yn y plot. Sbwyliwr: Sut na fyddai menyw’r dafarn yn nabod sgrifen ei ffrind nac yn gwybod ei bod ar ei gwyliau yn Iwerddon pan anfonwyd y cerdyn?  Ches i mo’n argyhoeddi gan y pwl o ddryswch gafodd Mathias ar y dechrau chwaith. Ond roedd yn ddigon derbyniol.

Ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr at y stori olaf. Ro’n i’n disgwyl i ambell ddirgelwch am y cymeriadau gael ei ddatrys. Ro’n i wedi deall o twitter bod hon yn stori arswydus hefyd ac fe ofalais bod llwybr clir rhwng y teledu a’r gwely rhag ofn y byddwn i am sgrialu trwy’r tywyllwch!

Mi ddechreuodd yn dda – yn dda iawn! Roedd y golygfeydd agoriadol â’r ceffylau gwyn yn erbyn y dŵr a’r awyr las, ac wedyn ffrog goch Alys yn eithriadol o drawiadol. Ond wedyn, fe gollodd ei gafael. Doedd ymateb pobl i farwolaeth Alys ddim yn fy argyhoeddi i a doedd agwedd Mathias wrth holi pobl ddim yn taro deg chwaith. Doedd y plot ddim yn glynu – sbwylers eto: y ffôn, y model, y drws cudd, y gusan, y rhyw, yr ymateb i’r ymosodiad ar y gors, anwybodaeth am dad Alys (y ddau),etc .  Ro’n i mor siomedig! Ro’n i wedi paratoi i gael fy arswydo ac fe ges i’n siomi!

Ond wnes i hoffi’r olygfa Morseaidd yn y coleg, a’r cyfeiriadau at Blodeuwedd (oedd ’na ddehongliad od?), a’r olygfa ar y diwedd gydag Aneirin Hughes.   Mae ’na lot mwy i’w ddatgelu amdano fe – a’r prif gymeriadau i gyd o ran hynny. Ro’n i’n disgwyl y byddai cymeriad Geraint Lewis yn y bennod gyntaf yn rhedeg trwy’r gyfres i gyd. Gobeithio y daw nôl yn y gyfres nesa.

Ac yn y gyfres nesa – dwi’n gwybod nad yw dwyawr yn lot i ddatrys llofruddiaeth a bod ’na elfen o ddirgelwch i fod – ond swn i’n licio tysen nhw’n ymlacio dipyn bach. Does neb byth yn dweud “Mae’n oer/braf/wyntog.” / “On’d odyn ni wedi cael lot o fwrdwrs yn ddiweddar?” Byddai tipyn o banter a jôc neu ddwy yn dda hefyd.

Mae ’na ddigonedd o lefydd atmosfferig gyda chysylltiadau “Cymreig” i’w cyflwyno i gynulleidfa ddi-Gymraeg o hyd – y Llyfrgell Genedlaethol, eglwys Llanbadarn/Ystrad Fflur/Brogynin, ardal Goginan, Neuadd Pantycelyn, llu o blastai, ac enwau awgrymog ar gyfer llofruddiaethau fel Pen-bont Rhydybeddau!

Ond dwi’n dal yn dweud y byddai’n dda cael achos heblaw llofruddiaeth i’w ddatrys.


Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn