Alcohol a’r Urdd – Ymateb i’r Ymateb

Pan glywais i sôn am werthu alcohol gyda bwyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, fy ymateb cyntaf oedd “Twt! I beth? Os na chawn ni ddiwrnod yn Steddfod yr Urdd heb lasiaid o win, gwae ni.”

Ond wrth i’r ddadl boethi, rwy’n ailystyried. Rwy’n gwybod am yr hafoc mae goryfed yn ei achosi ac, fel mam i dri yn eu harddegau, mae’n fater o’r pwys mwyaf i mi. Ac rwy’n deall consyrn pobl fel Wynford Ellis Owen ac Alun Lenny o ystyried eu hanes dirdynnol nhw.

Yr hyn sy’n mynd dan fy nghroen i yw ffordd y gwrthwynebwyr o roi’r argraff mai dim ond nhw sy’n poeni am les ieuenctid Cymru ac mai dim ond trwy eu cadw rhag alcohol mae gwneud hynny.  Maen nhw’n swnio fel pe bai gan yr Urdd rhyw gynllwyn anfad. Hyd y gwela i, mae Cyngor a Phwyllgor Gwaith yr Urdd yn bobl synhwyrol sy’n caru lles ieuenctid Cymru – dim ond eu bod yn anghytuno sut i fynd o’i chwmpas.

Mae’n wir fod ‘na agwedd afiach yng Nghymru at ddiod – “You don’t know how to drink, only how to get drunk” – sut i ddod dros hyn yw’r broblem.

Ydi gwahardd yn gweithio? Nadi. Felly, mae alcohol yma i aros. Sut i feithrin agwedd aeddfed ato yw’r her.

Ysgrifennodd Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill lythyr agored at bwyllgor rheoli Urdd Gobaith Cymru.

Rwy’n cytuno â phwynt 6, y gallai caniatáu gwerthu alcohol “gadarnhau’r neges na all rhieni Cymru na’i hoedolion ifanc … fwynhau Gŵyl … heb orfod cael cyfle i yfed alcohol” ond mae lle i ddadlau bod gweld oedolion yn yfed ychydig o win neu gwrw gyda phryd yn dysgu plant i yfed yn gall.

Mae nifer o’r pwyntiau eraill yn afresymol neu’n amherthnasol.  Nid yw yfed yn rhesymol yn “groes i’r nod o hyrwyddo iechyd a lles” (pwynt 4) a’r nod wrth gyflwyno diod mewn amgylchiadau gwâr yw osgoi dibyniaeth (pwynt 5).

Mae pwynt 8:

“Pe symudid ymlaen gyda’r bwriad i werthu alcohol ar faes yr Eisteddfod, ni fyddai na pharch na sylw yn cael ei roi gan ddisgyblion i unrhyw raglen iechyd/cymdeithasol … i ‘addysgu’ am beryglon alcohol. Y cwestiwn amlwg ac anodd i’r athro fyddai – “Os ydi alcohol mor fygythiol i bobl ifanc yn arbennig, pam felly ei fod ar gael yn Eisteddfod yr Urdd?”

yn afresymol a byddai’n hawdd i unrhyw athro gwerth ei halen ei ateb.

Pwynt 9, Ai deiliad y drwydded sy’n penderfynu ar yr oed?  Yng Ngŵyl y Faenol, roedd cyfyngiad oed o 21.

Pwyntiau 11 a 12,  Rwy’n cymryd bod canllawiau ynghylch goryfed wrth ofalu am blant a does bosib nad oes gan athrawon a gwirfoddolwyr ryw fath o synnwyr o gyfrifoldeb?

Cafwyd datganiadau gan gyrff ac unigolion. Meddai Huw Powell Davies ar Wal grŵp Dim Alcohol ar Faes Eisteddfod yr Urdd ar Facebook:  (a)

“Buom yn trafod y mater yma efo clwb ieuenctid y capel … Yr ymateb oedd: ‘so what – ‘dio ddim byd i’w wneud efo ni – ‘dyden ni ddim yn cael yfed beth bynnag! …O’u hatgoffa mai eu mudiad nhw ydy’r Urdd, …yr oedd ieuenctid ein clwb yn tybio y dylid bod yn gwrando ar eu llais fel aelodau, ac na fyddai hyn yn cyfrannu dim gwerth i’r eisteddfod iddyn nhw.”

(b) Mae’n dweud wedyn:

” …Aelodau’r Urdd sy’n bwysig – nid eu lyshiwrs o rieni.”

(c) Ac wedyn

“…fe fydd trwydded i werthu alcohol yn caniatau gwerthu pob gwirod alcoholaidd ar faes yr eisteddfod yn gyfan. Mater o amser wedyn cyn y caiff hwnnw ei ddefnyddio i’w lawn botensial.”

Ond (a) dim ar gyfer yr ieuenctid y byddai’r diodydd ac a oes awgrym o hwp fach i ddod i’r penderfyniad ‘cywir’?!  (b) Ydi cael glasiaid o win gyda bwyd yn gwneud rhywun yn “lyshiwr”.  (c) Ydych chi wir yn credu bod yr Urdd yn dymuno “gwerthu pob gwirod alcoholaidd ar faes  yr eisteddfod yn gyfan”?

Mewn datganiad gan y Presbyteriaid, yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, hola Ifan Roberts (P) “…mae’n anghyfreithlon gwerthu diodydd meddwol i blant, felly mae angen gofyn : pwy yn union sy’n mynd i yfed yr alcohol yma ar faes yr Eisteddfod?”  Wel, oedolion, siwr iawn!   Mae’n ŵyl i bawb a gwaith ymchwil yr Urdd yn dangos y byddai llawer o oedolion yn mwynhau gwin neu gwrw gyda’u bwyd ar ddiwrnod allan.

Mae Geraint Tudur, (A) yn sôn am reoli pris ac argaeledd alcohol. Fyddai’r alcohol ddim ar gael i bobl ifanc oherwydd cyfyngiadau oed a byddai’n ddrud – tua £3.50 am botel fach o win neu botel o gwrw/seidr 500ml. Er mwyn cael diod byddai angen prynu pryd o fwyd hefyd – soniodd Aled Siôn am ‘drefn brisio wahanol’ – sef ‘drutach’ (?!) ac roedd pryd yn costio rhwng £9 a £15 ym Mhafiliwn Blas yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Rwy’n cymryd y byddai lle bwyta arall ar gael i’r ‘werin’.

Dywed Peter Thomas (B) “Yr wyf yn gresynu fod swyddogion ac aelodau Cyngor Urdd Gobaith Cymru yn  gwbl anystyriol o effeithiau andwyol alcohol ar ein cymdeithas ynghyd a’i oblygiadau troseddol.”  Eto, ‘swn i’n dweud bod hyn yn annheg – nid ar chwarae bach y daeth Cyngor yr Urdd i’r penderfyniad hwn.

Dwi’n dal yn meddwl bod Eisteddfod yr Urdd yn iawn heb alcohol – ond, er gwaetha dadleuon y gwrthwynebwyr. Dwi yn deall pryderon pobl ond dw i ddim yn meddwl bod y ffordd o ddadlau’n helpu’r drafodaeth a dwi ddim yn meddwl bod y penderfyniad mor dyngedfennol ag yr hoffai rhai pobl i ni feddwl.

11 Ymateb i Alcohol a’r Urdd – Ymateb i’r Ymateb

  1. Rhys Llwyd yn dweud:

    O gael dewis fuasw ni’n pleidleisio’n erbyn cael Alcohol yn steddfod yr Urdd jest oherwydd mod i wedi cael llond bôl o’r yfed mawr mae’r Cymry Cymraeg yn meddwl sy’n rhaid gwneud bob tro maen nhw’n cyfarfod gyda’i gilydd boed mewn theatr, gig, noson lenyddol, gem rygbi neu ‘steddfod.

    Ond dwi’n meddwl fod Ifan, Geraint a Peter wedi gwneud cam gwag wrth fynd mor filitaraidd ar y mater oherwydd mae e jest yn gwneud i’r Eglwysi ymddangos fel pobl sy jest yn dweud “NA” ac yn twt-twtio.

    Problem ysbrydol yw problem gor-yfed y Cymry yn ei hanfod. Dyna ddylai Ifan, Geraint a Peter fod yn ei ddweud ond maen debyg eu bod nhw’n ofn. Gwae ni os ydy’r Eglwys yn rhoi barn gyhoeddus heb ddelio a’r gwraidd sef yr ysbrydol.

    Croeso i fyd y blogiau Sian!

  2. Catrin Beard yn dweud:

    Llongyfarchiadau ar ddechrau’r blog – ac ar bostiad (?) difyr dros ben. Mae’n amlwg fod gen ti ddillad deallus iawn os mai dyma’r math o beth maen nhw’n gwrando arno wrth gael eu gosod i sychu🙂
    Mi edrychaf i mlaen at bicio mewn i ddarllen yn rheolaidd
    Cx

  3. Gethin Rhys yn dweud:

    Cytunaf yn llwyr mai dadl (6) y Cyngor yw’r ddadl orau – mae yna werth mewn gallu mwynhau heb yfed alcohol. Fe fûm i eleni yn gweini ym mar di-alcohol y Cyngor/Cytûn ar y maes yng Nghaerdydd ac fe fwynheais wneud. Ond neges gymysg sydd gan y bar hwnnw hefyd – mae’n defnyddio optics a choctêls i ddynwared bar alcoholaidd! Felly fe ellid dweud ei fod yn fodd i raddio i’r peth go iawn yn 18 mlwydd oed. Mae’r pwnc yn fwy cymhleth nag y mae rhai yn ceisio’i wneud.
    A chytunaf yn llwyr â Rhys – mae cyhoeddi eto fyth y ddelwedd negyddol o Gristnogaeth – “Thou shalt not on the wall” chwedl Dylan Thomas – yn tanseilio unrhyw wrandawiad i neges bositif a chadarnhaol ein ffydd. Sy’n mynd â ni’n ôl at ddadl (6) – mae hi’n bosibl mwynhau heb alcohol. Beth am ddangos hynny i’n hieuenctid?
    (O.N. Fe redodd y bar di-alcohol allan o ddiodydd hanner ffordd drwy’r wythnos. ‘Fyddai Brains byth wedi caniatáu i hynny ddigwydd yn eu bar nhw! Mae’n rhaid i ni fod mor drefnus a mor benderfynol â’r bragwyr os oes neb i’n cymryd ni o ddifri).
    Grêt cael blog arall Cymraeg. Dal ati!

  4. siantirdu yn dweud:

    Diolch.
    Dwi ddim yn siwr am ddeallusrwydd y dillad, Catrin – mewn trwy un lawes a mas trwy’r llall yw hi, beryg!
    Diolch yn fawr iawn am yr ymateb – siomedig yw’r ymateb i flogs Cymraeg – hyd yn oed rai ardderchog fel un Vaughan Roderick, menaiblog, rhysllwyd.com ac, wrth gwrs, http://gutodafydd.wordpress.com/ !
    Mae hyn wedi bod yn fy nghorddi ers oes – bron bob tro dwi’n darllen neu’n clywed cyfraniad gan un o’r ‘gwrthwynebwyr’ mae arna i eisiau bwrw ‘mhen yn erbyn wal – a dwi’n cytuno â nhw yn y bôn!
    Pethe fel “Mae’r Urdd wedi croesi’r llinell/aberthu ei hegwyddorion”, “Dyw’r frwydr ddim drosodd o bell ffordd”. Chware i’r galeri, braidd.
    Mae goryfed yn broblem enfawr ond tybed ydi’r Urdd yn darged hawdd.

    Wrth gwrs mae gan yr Urdd broblemau:
    1) Mae ‘na syniad ymhlith cefnogwyr llawr gwlad yr Urdd bod y ‘sefydliad’ yn ganolog yn amharod i wrando a braidd yn smyg. Dw i ddim yn gwbod ydi hyn yn wir ai peidio ond mae’r canfyddiad yn rhan o’r broblem hon.
    2) Mae maes Eisteddfod yr Urdd yn gallu bod yn lle diflas i oedolion a phobl ifanc dros rhyw 13 oed (hyd yn oed gyda’r erchyllffair!). Mae sôn am greu mwy o ymdeimlad o ŵyl – byddai hynny’n braf!

  5. siantirdu yn dweud:

    Ie Rhys – un peth sy gas gen i yw ‘cyflwynwyr tu ôl i’r llwyfan’ sy’n siarad â’r rhai sy newydd glywed eu bod nhw wedi ennill eu cystadleuaeth yn y Steddfod neu’r Wyl Gerdd Dant ac yn cymryd yn ganiataol bod yfed yn rhan o’r ‘dathlu’.

  6. John Elfyn yn dweud:

    “…un peth sy gas gen i yw ‘cyflwynwyr tu ôl i’r llwyfan’ sy’n siarad â’r rhai sy newydd glywed eu bod nhw wedi ennill eu cystadleuaeth yn y Steddfod neu’r Wyl Gerdd Dant…”
    Ia, ia ac ia. ‘Dwi’n gwybod nad ydi hyn yn berthnasol i’r drafodaeth (yn enwedig gan nad ydw i wedi cynnwys y dyfyniad yn llawn) ond mae’r peth yn haeddu sylw. Rydw inna wedi cael llond bol ar gwestiynau arwynebol, plentynaidd a diddychymyg llawer o’r cyflwynwyr yma sy’n methu meddwl am ddim byd arall i’w ofyn – fel tasa pobol yn cystadlu dim ond er mwyn cael dathlu.
    Teimlo’n well rwan. Balch o weld dau (ta dwy?) flog difyr, newydd o’r pen acw.

  7. siantirdu yn dweud:

    Wel, mae Cyngor Ceredigion wedi caniatau cais yr Urdd.
    Awr gyfan i drafod y peth ar Taro’r Post ddoe – yr un bobl yn dweud yr un pethau ag oedden nhw fisoedd yn ôl. Aled Siôn â’i ‘carfan’ a’i ‘adnodd’ ac Alun Lenny a’i ‘argaeledd’.
    Mae Glyn Evans wedi blogio am y peth yma – http://www.bbc.co.uk/blogs/cylchgrawn/2010/01/ir_diawl_ar_gasgen_gwrw.shtml ac mae’n holi a fydd buddugoliaeth yr Urdd ‘werth cost yr holl anniddigrwydd’. Mae’n werth holi faint o anniddigrwydd sy ‘na mewn gwirionedd – fyse pawb yn cydnabod mae’n siwr nad yw’r math o bobl sy’n ffonio Taro’r Post yn cynrychioli’r boblogaeth yn gyffredinol. Swn i’n meddwl nad yw’r rhan fwyaf o bell ffordd o’r bobl fydd yn mynd i Steddfod yr Urdd yn ymwybodol o’r mater o gwbl – a tysen nhw, fyse dim lot o ots ‘da nhw.
    Mae’r gwrthwynebwyr yn canmol y Llywodraeth am gymryd camau i reoli yfed ond eto mae’r camau sydd gan yr Urdd yn gaethach o lawer na’r rheiny. Os ydw i wedi deall yn iawn, fydd criw o ffrindiau 23 a 24 oed ddim yn cael glasiaid o win gyda’u bwyd os ydyn nhw’n cadw’n gaeth at y rheolau!
    Dydi sôn am bobl yn “gwylio Eisteddfod yr Urdd trwy waelod potel win” ddim yn lot o help!

  8. siantirdu yn dweud:

    Erbyn hyn, mae Wynford Ellis Owen yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i beidio ag ariannu’r Urdd os ydyn nhw’n mynd ymlaen â’r cynllun i werthu alcohol yn yr Eisteddfod. Mae’n “ymdrech munud olaf i achub yr Urdd rhag ei hunan”. Mae’r dyn fel ci ag asgwrn. Mae’r mater wedi mynd trwy’r sianeli priodol. Daeth yn amser ei ollwng.
    Mae gan Angharad Mair bwynt digon dilys yn ei herthygl yn Golwg yr wythnos yma. Mae’n dweud bod yr Athro Gerard Hastings, arbenigwr ar effaith marchnata ar gymdeithas yn enwedig o safbwynt iechyd, wedi canfod bod “pobol ifanc yn fwy tebygol o fod yn yfwyr ac yn yfwyr mawr po fwyaf mae’r gymdeithas o’u hamgylch yn dangos bod yfed yn gyffredin ac yn dderbyniol … a’i bod yn … rhaid gwneud alcohol yn llai canolog i fywydau pobol, a’i ddad-normaleiddio er lles pobol ifanc.”
    Ond mae hyn ynghanol gosodiadau eithafol ac ysgubol fel dweud bod yr Urdd “wedi gwerthu eu heneidiau” a bod “elw yn bwysicach na buddiannau ein plant a’n pobol ifanc”.
    Mae’r gwrth-ddadleuwyr yn gallu bod yr un mor euog, hefyd – mae Guto wedi mynd dros ben llestri braidd yn ei flog e ar y mater – http://gutodafydd.wordpress.com/2010/01/29/fedr-rhywun-gael-gair-caredig-yng-nghlust-wynford-elis-owen/
    Pam na all pobl ddadlau’n rhesymol?

  9. Menna Machreth yn dweud:

    Diolch Sian am y blog hwn.

    Dwi’n poeni ein bod ni’n euog o’n cyhuddiad ein hunain braidd wrth ymateb yn chwyrn at gonsyrn yr Annibynwyr. Mae eu consyrn yn ddilys ond mae natur y drafodaeth yn gynyddol gynyddol anoddefol ar bob ochr erbyn hyn. Mae gan bawb yr un diddordeb yn y diwedd sef diogelu lles plant Cymru, ceisio harnesu’r diwylliant binge drinking, ond mwynhau alcohol yn gyfrifol ar yr un pryd. Fi’n siwr gallai’r drafodaeth fod yn llawer mwy buddiol o ganolbwyntio ar y nod yma – ‘aligning’ ein diddordebau. Mae tuedd gan y cyfryngau a Taro’r Post yn enghraifft flaenllaw, o begynnu dadleuon yn eithafol oherwydd dyna sy’n gwneud ‘stori’ sef cwympo mas. Dyw hyn ddim yn fuddiol yn y diwedd i’r drafodaeth ei hun. Weithiau dyw hyn ddim yn bosib – e.e. pan wnaeth cymdeithas yr Iaith gyfarfod a’r CBI sbel yn ôl (shock horror) – ond dylai hyn ddim fod yn wir yn achos Cristnogion a pobl sydd a diddordeb yn lles a iechyd ein cymdeithas.

    Pwynt arbennig o dda am bobl ifanc yn cael eu dylanwadu gan yr yfed o’u cwmpas. Mae’n embarrassing gweld yr bobl meddw ar faes y Eisteddfod ac mae Maes B allan o gontrôl yn llwyr gyda plant 13/14! Credu fod hynna’n achos llawer mwy o bryder na alcohol i oedolion mewn bwyty yn Steddfod yr Urdd.

    Diolch am y blog

  10. siantirdu yn dweud:

    Diolch Menna – pwyntiau doeth a dilys (fel arfer!)

  11. siantirdu yn dweud:

    Blogiadau da a gwerthfawr o ddau safbwynt gwahanoll gan Dyfed Wyn Roberts – http://dyfedwynroberts.org.uk/y-blog-cymraeg.php – a Dylan Llyr – http://dylanllyr.blogspot.com/2009/10/gwin-mr-urdd.html

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: