Achub cam yr amhersonol

Yn ddiweddar, dechreuodd rhywun edefyn o dan y teitl “pucker Welsh” ar ForumWales yn cwyno bod y Gymraeg wedi mynd yn anodd ei deall.  Un o Fôn ydoedd ond bu’n byw yn Lloegr am flynyddoedd cyn dychwelyd i’r Ynys i fyw.

Ei gwyn oedd na allai ddeall Cymraeg cyhoeddus.  Bu mewn darlith ar hanes capeli, meddai, a deall bron ddim.  Roedd Cymraeg ysgrifenedig yn rhy anodd iddo hefyd gan fod pobl yn defnyddio geiriau dieithr fel brwdfrydig, cyfreithiol, anhygoel a tuedd rhywiol. Roedd ei ffrindiau’n cytuno ag ef, meddai. Roedden nhw bob amser yn darllen yr ochr Saesneg mewn dogfennau dwyieithog ac yn llenwi ffurflenni yn Saesneg.

Doedd hyn ddim yn sioc fawr i mi.  Mae’n siwr i’r dyn yma fynd trwy’r system addysg Saesneg ac nad oedd ganddo lawer o ddiddordeb mewn darllen Cymraeg pan oedd yn ifanc. Yna, bu i ffwrdd am flynyddoedd. Does ryfedd felly bod ei Gymraeg braidd yn rhydlyd.

Mae’n hen stori bod llawer o Gymry Cymraeg naturiol yn troi at ddarllen y Saesneg os oes dewis. Grym arfer ac ofn dogfennau swyddogol sy’n gyfrifol i raddau helaeth mae’n siwr.  Do’n i ddim yn poeni’n ormodol am hyn.

Yna, yr wythnos ddiwetha, fe ges gip ar y Western Mail dros frecwast a chael blas ar golofn Hafina Clwyd.  Dim byd anghyffredin – ysgrif ddigon twt am arwyddocâd gemwaith.

Ganol bore, dyma neges ymddangos ar wefan gyda dolen i’r erthygl honno gan ddweud “dydi o’n SICR ddim yn steil newyddiadurol Cymraeg” a bod yr iaith yn “wltra cywir = anodd”. Doeddwn i ddim yn deall. Nid stori newyddion oedd hon lle mae angen cymryd llawer o wybodaeth i mewn yn sydyn. Colofn wadd ydoedd, lle mae cyfle i draethu’n weddol faith a hamddenol.  Welwn i ddim byd yn arbennig o anodd amdani. Holais y bostwraig beth roedd hi’n ei weld yn anodd a dywedodd bod yr iaith yn “debyg iawn i lot o’r cyfieithu rhy gywir sy o gwmpas”.

Ydi hi’n dweud y dylai cyfieithu fod yn anghywir? Go brin.

Tybed ai cyfieithu rhy llythrennol mae’n ei olygu?

Mae’r llyfr Cymraeg Clir yn rhoi enghraifft e.e. Cyfieithu:

“Children in the 6 to 8 year-old age range are naturally still orientated towards their own homes and families.”

fel

“Mae plant yn yr amrediad oedran 6 i 8 oed yn naturiol wedi eu cyfeiriadu tuag at eu cartrefi eu hunain a’u teuluoedd”

yn hytrach na rhywbeth fel

“Mae bywyd plant 6-8 oed yn troi o amgylch eu cartrefi a’u teuluoedd.”

Mae hynny’n gallu gwneud darn Cymraeg yn anodd i’w ddeall.

Ond beth sy’n anodd am y darn hwn?  Mae Hafina Clwyd yn defnyddio:

a) ffurfiau ffurfiol y ferf “bod” fel “yr wyf”, “nid wyf”, “wyf innau”, “yr oeddwn innau”, a “fûm i ddim”;

b) berfau amhersonol:  “agorwyd arddangosfa”, “gwnaed fy modrwy”, “aed â ni”, “eglurir mai dylanwad Affricanaidd …”,

c) ffurf fer y ferf, “yr hyn a wna yw ..”, “pethau olaf y dymunwn eu gwisgo”, “cawsom fargen”, “darganfyddais” (nid “darganfûm”, sylwch),

ch) ambell air gweddol ddierth: “muriau”, “amheus o ddilysrwydd y gosodiad”, “heglog”, “lifft guddiedig”, “werthfawrocaf”, “chwilfrydig”.

Ai dyma sy’n gwneud yr iaith yn anodd?

Nawr dyma broblem.  Hyd y galla i gasglu, mae’r un a gwynodd yn ferch ifanc broffesiynol o ardal Gymraeg sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n sgrifennu Cymraeg anffurfiol yn ddidrafferth. Dyma’r union fath o bobl y bydden ni’n dymuno iddyn nhw ddarllen yr ochr Gymraeg ar daflenni dwyieithog a llenwi ffurflenni Cymraeg.

Os nad yw pobl fel hi’n gyfforddus â dogfennau Cymraeg, pwy sydd?  Ydi hi ei hunan yn gweld yr iaith yn anodd ‘ta meddwl am bobl eraill mae hi?

Ydi ffurfiau byr a ffurfiau amhersonol berfau yn achosi trafferth i bobl erbyn hyn?

Rhaid dweud fy mod i’n reit hoff o’r amhersonol – mae’n dwt ac yn daclus.

Disgwylir i’r gwaith gael ei wneud yfory.

Credir bod y lleidr wedi dianc.

Be well?  Mae Cymraeg Clir yn ein hannog i osgoi’r amhersonol ac mae’n siwr bod rheswm dros hynny weithiau, ond mae’n gallu bod yn handi iawn, yn enwedig os yw lle’n brin.

Beth felly mae pobl sy’n ysgrifennu Cymraeg a chyfieithwyr i fod i’w wneud? Yn sicr mae angen meddwl am y gynulleidfa ond weithiau wyddon ni ddim pwy yw’r gynulleidfa. Allwn ni ddim anelu at bobl ag oedran darllen o 9 neu 10 trwy’r amser neu fydd y Gymraeg yn mynd yn beth tila a di-liw.

Roedd ffrind o gyfieithydd yn arfer dweud y dylem gyfieithu fel yr ydyn ni’n gweld yn dda ac mai problem y darllenwyr oedd hi os nad oedden nhw’n deall.

Mae’n hawdd dweud y dylai’r darllenwyr wneud rhywfaint o ymdrech i ddeall y Gymraeg ond faint sy’n mynd i wneud hynny os oes ‘na ddewis?

Mae ‘na rywfaint o snobyddrwydd o chwith ymhlith y Cymry Cymraeg hefyd gyda rhai’n ymffrostio nad ydyn nhw’n darllen Cymraeg.  Ymddangosodd sylw o dan erthygl Hafina Clwyd ar y we (nid gan y sawl a gododd y mater i ddechrau):

“Ymserchaf yn llawen yn eich erthygl. Erthgyl fel nas gwelwyd ei bath yn eich papur cenedlaethawl erioed. Canys anarferawl yw gweled ieithwedd gywrain a difrycheulyd megis yr hyn a sgrifbiniwyd uchod. Hyderaf taw ond dechreu yw’r hyn a gyflwynir gerbron eich darllenwyr, ac na fydd achos pellach i fyned at fratiaith newydd bapurau ereill, eithr gwared ni rhag drwg. Amen.”

I be? Doedd ‘na ddim byd yn yr erthygl oedd yn haeddu’r fath wawd. Doedd ‘na ddim ymdrech o gwbl i sgrifennu Cymraeg mawreddog, chwyddedig. Mae yna frawddegau syml fel “Fel bron pob merch yr wyf yn mwynhau gwisgo tlysau ac y mae pob modrwy sydd gen i yn adrodd rhyw stori neu’i gilydd.”  Darllenais trwy’r erthygl i chwilio am frawddeg anodd i’w dyfynnu ond welais i ‘run.  Os na chaiff colofnydd ysgrifennu ysgrif mewn iaith raenus a synhwyrol, gwae ni!

Ydi’r ffaith ei bod wedi dod yn ffasiwn i ysgrifennu Cymraeg anffurfiol – Cymraeg gweddol lafar – ar y we – ar fforymau fel maes-e a gwefannau fel bebo, facebook a twitter yn golygu bod Cymraeg safonol, graenus, wedi mynd yn ddierth i bobl ac nad ydyn nhw’n teimlo’i fod yn perthyn i’w byd nhw?

Ydi pobl sy’n darllen ac yn ysgrifennu Cymraeg yn weddol hawdd yn byw mewn bybl sydd ar fin byrstio?

11 Responses to Achub cam yr amhersonol

  1. Trefor Williams yn dweud:

    Os gen ti ddolen i gysylltu â’r erthygl wreiddiol?

  2. Nic Dafis yn dweud:

    Cytuno â ti cant y cant, Siân, yn enwedig ynglyn â’r “snobyddrwydd o chwith”. Mae ‘na bleser pur mewn darllen (a chlywed) Cymraeg naturiol fel hyn, ac mae wfftio’r peth yn awtomatig yn adweithiol iawn.

    Mae adwaith ar yr ochr arall, wrth gwrs, sy’n gweld pob defnydd o’r gair “so” fel hoelen arall yn arch yr iaith. Anobaith yw pendraw’r agwedd yna. Ac mae perygl mawr, fel yn achos y ddadl yn erbyn gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd, bod termau y ddadl ei hun yn gweithio’n ei herbyn.

    Mae rhaid colli’r siege mentality ar y naill llaw, a’r meddylfryd tw cwl ffor scwl ar y llall.

    Gwych iawn gweld dy weld di’n blogio. Cam yn y cyfeiriad iawn, os gwelais i un erioed. Dw i’n dysgu mwy am yr iaith gan ddarllen blogiau pobl sy’n sgwennu’n dda nag o unrhywle arall. Jedi’r Iaith wyt ti. 😉

  3. siantirdu yn dweud:

    Diolch Nic – braf cael anogaeth gan hen law – llaw hen iawn ym myd y blogiau!

    Dwi’n meddwl dy fod ti wedi taro’r hoelen ar ei phen fan hyn:
    “Ac mae perygl mawr, fel yn achos y ddadl yn erbyn gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd, bod termau y ddadl ei hun yn gweithio’n ei herbyn.”

  4. Sioned yn dweud:

    Fi di’r hogan dan sylw yn yr erthygl, mae’n ddrwg gen i am godi gymaint o stwr, wps!

    Mae lot o’m sylwadau yn deillio o fod ar cwpl o gyrsiau Cymraeg clir yn sgil fy swydd. Be dwi’n gweld, ar ddogfennau swyddogol ydi cyfieithu ‘over-zealous’ braidd, defnyddio brawddegau a ffurfiau sy’n eitha anhyblyg i’r darllenydd arferol sydd wedi cael addysg uwchradd Gymraeg (ond dim pellach).

    Mae oedran darllen arferol Prydain yn isel, ac yn y Gymraeg, yn is fyth o feddwl nad yw’r rhan fwyaf wedi cael cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg ffurfiol ers yn 15 – wele http://www.guardian.co.uk/uk/2006/jan/24/books.politics am ystadegau.

    Engrhaifft ddiweddar oedd addewid plismona ges i trwy’r post yma yn Nghaerdydd http://www.south-wales.police.uk/fe/master_w.asp?n1=9&n2=2988

    Falle doedd yr erthygl yn yr WM ddim yr un gorau i dynnu sylw iddo, gan modi heb ei weld o fewn ei gyd-destun (meddwl mai adolygiad oedd o, yn hytrach na colofn wadd!).

  5. siantirdu yn dweud:

    Diolch Sioned

    Mae angen ein hatgoffa ni gyfieithwyr weithiau bod disgwyl i bobol ddarllen beth rŷn ni’n ei sgrifennu!

    Mae’n rhyfedd! Does neb yn meddwl ddwywaith wrth ddarllen geiriau fel citizen, neighbourhoods, access, priorities, vulnerable, designated ac availability yn Saesneg ond dyw cyfieithiad llythrennol ddim yn gorwedd mor esmwyth mewn darn Cymraeg cyffredinol.

    Dwi’n cofio cyfieithydd da yn sôn ei fod wedi cyfieithu darn o’r Saesneg i’r Gymraeg gan wneud iddo ddarllen yn llithrig a Chymreig a’i fod wedi darllen cyfieithiad eitha llythrennol o’r Gymraeg nôl wrth awdur y Saesneg a hwnnw’n dweud rhywbeth fel “If I wrote like that I’d be sacked for writing baby-talk”.

  6. bethangwanas yn dweud:

    Difyr! Difyr iawn, iawn. Mae’r pwnc yn fy mhoeni innau ers blynyddoedd.

    “Ydi pobl sy’n darllen ac yn ysgrifennu Cymraeg yn weddol hawdd yn byw mewn bybl sydd ar fin byrstio?”

    Wedi taro’r hoelen ar ei phen, Siân. Dwi wedi bod yn pregethu am hyn ers y 90au, pan sylweddolais i nad oedd fy ffrindiau yn darllen Cymraeg (dim cylchgronau heb sôn am lyfrau) a bod pobl yn gadael ysgol yn CASAU darllen Cymraeg am eu bod wedi eu gorfodi i ddarllen ac astudio llyfrau oedd yn fwrn i’w darllen – oherwydd yr arddull, nid y stori.

    Dyna pam mod i wedi mynd ati i sgwennu mewn ffordd (wps – bron a sgwennu ‘arddull’ yn fanna) hawdd iawn i’w darllen. Mae hyn wedi codi gwrychyn ambell snob llenyddol, ond tyff. Drwy fy mhrofiadau yn dysgu mewn ysgolion, yn sgwennu ac yn golygu, dwi wedi gweld y tu allan i’r bybl. A dwi’n credu’n gry (heb yr ‘f’, sylwer) bod modd sgwennu Cymraeg yn gywir – heb ddefnyddio ‘so’ ac ati – ac yn llafar fel bod modd i’r rhan fwya o Gymry, hwntws a gogs fedru dilyn y geiriau heb ormod o ymdrech. Ac wrth deipio hynna dwi’n sylweddoli mod i wedi addasu fy iaith i ddarllenwyr da fel ti, Nic a Sioned. Taswn i’n sgwennu hyn yn fy ngholofn Daily Post, mi fyddwn i wedi teipio ‘ac yn llafar fel bod y rhan fwya o Gymry, hwntws a gogs yn gallu dilyn y geiriau heb ormod o drafferth.’Pam? Am mod i’n gwybod bod y rhan fwya o ddarllenwyr y Daily Post yn gwerthfawrogi iaith ‘hawdd’ fel yna. Fel y dywedodd dysgwr wrth i ryw dro “You make us feel clever.’

    Mae Cymraeg cywir yn gallu torri calonnau. Trist, ond mae’n ffaith.

    Mae Hafina Clwyd yn sgwennwraig naturiol, brofiadol, ond dwi’n eitha siwr ei bod hithau yn addasu ei harddull ar gyfer ei dyddiadur yn y Wawr. Mi fydda innau’n sgwennu’n llawer mwy ‘llenyddol’ ar gyfer cynulleidfa mwy academaidd – am fod gen i ‘ego’ – a’r ego hwnnw ddim isio i mi ymddangos fel rhywun sydd ddim ond yn gallu defnyddio ‘baby talk’! Mae na elfen o snob ynddon ni i gyd, beryg …

    Ond mi fydda i wastad yn osgoi’r ffurf amhersonol ac yn annog yr awduron rydw i’n eu comisiynu a’u golygu i’w osgoi hefyd. Yn y byd llyfrau mae’n rhaid ceisio gwerthu llyfrau, a hawsa’n byd ydyn nhw i’w darllen, hawsa’n byd ydyn nhw i’w gwerthu. Ond mae’n dibynnu at ba gynulleidfa rwyt ti’n anelu wrth gwrs.

    Wedi deud hynna, dwi’n cytuno bod angen cadw’r iaith mwy ‘safonol a graenus’. Wel, ceisio ei chadw o leia. Ond mae pob iaith yn esblygu ac addasu dros y blynyddoedd, ac mae iaith leiafrifol yn mynd i orfod newid mwy os am oroesi. Mewn byd lle mae cymaint o Gymry Cymraeg yn darllen dim ond stwff Saesneg, dwi ddim yn gweld dyfodol llewyrchus iawn i ferfau amhersonol na’r ffurf fer.

    Difyr gweld dy fod ti’n defnyddio ‘ydi’ yn hytrach nac ‘ydy’ gyda llaw, Siân. Ffafrio’r i dot fydda innau hefyd – ac os oes na ‘ydy’ yn cael ei gyhoeddi yn fy ngwaith i, rhyw olygydd sydd wedi fy stîm rôlio i!

  7. siantirdu yn dweud:

    Diolch Bethan
    Ti’n iawn – Y gamp yw ysgrifennu’n ddealladwy heb wneud iddo swnio’n fabïaidd.

    Ond dw i ddim yn deall y busnes ‘ma o osgoi’r amhersonol a ffurfiau byr y ferf.

    Dyma ran o stori o Golwg360 heddiw (Dw i DDIM yn pigo ar Golwg360 – dyma’r stori newyddion gynta ffeindies i!!)

    “Fe wnaeth dros 500 o nofwyr mewn gwisg ffansi fentro i’r môr yn Ninbych y Pysgod heddiw fel rhan o draddodiad blynyddol i godi arian at achosion da.

    Daeth torf o tua 4,000 o bobl i’w cefnogi yn y digwyddiad poblogaidd sy’n cael ei drefnu gan gymdeithas nofwyr môr Dinbych y Pysgod. …

    “Fe wnaeth o leiaf 500 ddod ynghyd i ymdrochi eleni ac roedd y mwyafrif llethol o’r rheini mewn gwisg ffansi,” meddai Ruth Davies, llefarydd ar ran y digwyddiad. …

    Bydd yr arian sydd wedi cael ei godi o’r digwyddiad yn mynd at gyfres o elusennau lleol, ….”

    a dyma fersiwn yn cynnwys yr amhersonol a ffurfiau byr y ferf – Dw i ddim yn meddwl bod hon yn anos ei darllen – os rhywbeth, mae’n haws, ddwedwn i!

    “Mentrodd dros 500 o nofwyr mewn gwisg ffansi i’r môr yn Ninbych y Pysgod heddiw fel rhan o draddodiad blynyddol i godi arian at achosion da.

    Daeth torf o tua 4,000 o bobl i’w cefnogi yn y digwyddiad poblogaidd a drefnir gan gymdeithas nofwyr môr Dinbych y Pysgod. …

    “Daeth o leiaf 500 ynghyd i ymdrochi eleni ac roedd y mwyafrif llethol o’r rheini mewn gwisg ffansi,” meddai Ruth Davies, llefarydd ar ran y digwyddiad. …

    Bydd yr arian a godwyd o’r digwyddiad yn mynd at gyfres o elusennau lleol, ….”

    Rhywun yn cytuno? Anghytuno?

  8. bethangwanas yn dweud:

    Cytuno bod hynna’n well o lawer! Mae’n dibynnu sut ti’n defnyddio’r amhersonol, efo pa ferfau a pha mor aml. Codi, trefnu ayyb yn ferfau digon syml. Pethau fel ‘amcangyfrifir’ a ‘crybwyllwyd’sy’n dychryn pobl heb lefel A Cymraeg, neu sydd ddim wedi arfer darllen Cymraeg ers yr ysgol.
    Ti’n digwydd bod yn feistr(es) ar y gamp. Nid pawb sy’n llwyddo cystal.
    Mae’r gweisg wastad yn chwilio am olygyddion newydd gyda llaw … hola’r Cyngor Llyfrau os oes gen ti ddiddordeb.
    Nid yn gorfod bod yn waith llawn amser, dim ond fesul llyfr weithiau. Mae’n addysg, creda di fi!

    • siantirdu yn dweud:

      W! diolch. Wnes i olygu llyfr un waith – ond ro’n i’n treio’i wneud ar ben fy ngwaith arall a dw i ddim yn meddwl i mi wneud cyfiawnder â’r dasg. Ond fe wnes i fwynhau’r profiad.

      Ges i brofiad ardderchog o olygu a chrynhoi pan o’n i’n trafod y newyddion lleol ar Bapurau’r Herald slawer dydd. Daeth golygydd newydd nad oedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y golofn newyddion lleol ac roedd gofyn torri pethau fel “Mrs Jane Elizabeth Davies, Dolau, affectionately known by all her friends and neighbours as Jini Ty’n Ffridd, met with an accident while carrying out her domestic chores at her home and sustained a fractured leg” i lawr i “Jini Davies, Dolau has broken her leg” (Roedd gohebwyr y gwahanol bentrefi yn cael eu talu yn ôl y llinell – doedden nhw ddim yn hapus!)

      Mae’r amhersonol a ffurfiau byr y ferf yn handi iawn mewn amgylchiadau felly!

  9. Iwan Rhys yn dweud:

    Postiad a thrafodaeth ddifyr iawn, Sian. Rwy’n hoff iawn o’r stori am yr awdur Saesneg yn dweud “If I wrote like that I’d be sacked for writing baby-talk”.

    Mae hynny’n eironig yng nghyd-destun y drafodaeth hon, a’r awgrym na ddylai awduron/cyfieithwyr Cymraeg sgwennu’n flodeuog / “rhy gywir”. Dwi’n aml yn gweld bod awduron dogfennau/adroddiadau corfforaethol Saesneg yn ysgrifennu yn arbennig o flodeuog, gan lwyddo i ymestyn syniadau syml i bethau llawer mwy cymhleth, er mwyn gwneud i’r adroddiad swnio’n well a chlyfrach, mae’n siwr.

    Enghraifft ddiweddar welais i oedd “…those who experience the greatest degrees of poverty”. “…y rhai tlotaf.” ?!

Gadael sylw