Denu cymar i Drefor

Neithiwr, fe fues i mewn Gwasanaeth Nadolig yng Nghanolfan Trefor. Roedd plant yr ysgol gynradd yn cymryd rhan ac roedden nhw’n ardderchog – gwasanaeth graenus iawn. Mae’r plant wedi arfer cymryd rhan mewn bore coffi cymunedol bob mis ac mae hynny’n sicr yn lles i’w hyder nhw wrth gymryd rhan yn gyhoeddus.

Un peth wnaeth fy nharo wrth edrych ar blant hŷn yr ysgol – tua 15 ohonyn nhw – oedd bod o leiaf un o rieni y rhan fwyaf ohonyn nhw yn dod o Drefor.

O gyfri’r rhai oedd adre’n sâl neithiwr, dwi’n meddwl mai dim ond rhyw ddau o’r oedran yma na chafodd eu mam na’u tad eu magu yn Nhrefor. Dwi’n meddwl bod rhieni’r ddau yn ddi-Gymraeg. Dau hefyd sydd â’r ddau riant yn dod o Drefor felly mae tua 12 o’r rhieni (tua 6 tad a 6 mam) wedi denu cymar i fyw i Drefor.

Mae hynny i’w weld yn sefyllfa reit iach i mi – parhad yr hen deuluoedd a gwaed newydd hefyd. Mae’n golygu hefyd bod neiniau a theidiau gan lawer o’r plant o fewn cyrraedd a’u bod nhw’n nabod eu cymdogion. Mae hynny’n lles o ran safon eu Cymraeg llafar, swn i’n feddwl.

Mae pawb o’r rhieni a fagwyd yn Nhrefor yn siarad Cymraeg (wrth gwrs!). Mae cymar pawb ond rhyw ddau o’r rheiny’n siarad Cymraeg – a phawb o’r rhai sydd yn siarad Cymraeg yn dod o gylch o tua 12 milltir o Drefor. (Neb o lefydd egsotig fel Pencader!)

Ydi hyn yn nodweddiadol o bentrefi cefn gwlad Cymru? Byddai’n ddiddorol gwybod faint o’r criw a fagwyd yma gyda’r rhieni hyn sydd wedi symud o’r pentre a faint ohonyn nhw sydd wedi symud i bentrefi ei gwŷr/gwragedd.

Swn i’n meddwl bod sefyllfa’r Gymraeg yn od o gryf yma.

Mae nifer o’r tadau yn gweithio iddyn nhw eu hunain ym myd adeiladu neu feysydd cysylltiedig neu’n gweithio i fusnesau bach yn yr un math o feysydd. Ychydig o’r tadau sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus – mwy o’r mamau. Ychydig, os o gwbl, sy’n ffermio nac yn gweithio yn y chwarel. Wrth edrych yn fras, dwi’n meddwl bod y rhieni bron i gyd yn gweithio mewn llefydd gwahanol – dim dibyniaeth ar un cyflogwr fel y Gwaith slawer dydd, neu ffatri fawr. Gall hynny fod yn beth da mewn amgylchiadau economaidd anodd. Mae hefyd yn rheswm pam nad oes teuluoedd cyfan yn symud i mewn, am wn i.

Dydw i ddim yn gwybod beth yw’r sefyllfa gyda’r plant llai. Do’n i ddim yn gallu gweld y rheiny’n glir yn y cyngerdd neithiwr a dwi’n dechrau colli nabod arnyn nhw.

Un Ymateb i Denu cymar i Drefor

  1. blogmenai yn dweud:

    Digon tebyg ydi cefndir y plant llai hefyd mi dybiwn.

    Mae Trefor yn anarferol yng nghyd destun Dwyfor – mae’n fwy tebyg i bentref yn Arfon i’r graddau ei fod yn ol ddiwydiannol. Mae’r Gymraeg yn gryfach yn ardaloedd trefol ac ol ddiwydiannol Arfon nag ydyw mewn llefydd mwy gwledig ym Meirion a Dwyfor – y tu allan i Fangor wrth gwrs.

    Yn nhref Caernarfon a’r pentrefi mawr megis Bontnewydd, Bethel a Llanrug sy’n sownd ynddi mae’r Gymraeg yn gwneud orau mi dybiwn i. Mae mewnlifiad i’r llefydd hyn (ag eithrio ward Peblig yng Nghaernarfon) – ond mewnlifiad Cymry Cymraeg o lefydd gwledig ydi o.

    Mae Trefor yn fwy tebyg i bentrefi sydd ychydig ymhellach o Gaernarfon – llefydd fel Deiniolen neu Benygroes (ond ei fod yn llai wrth gwrs). Mae’r Gymraeg yn gryf yn y llefydd hyn hefyd – ond cohesion cymdeithasol mewnol y pentrefi hynny sy’n cynnal y Gymraeg yno – nid mewnlifiad o gefn gwlad.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: