Derec sy’n Iawn

Nadolig Llawen! Dw i braidd yn flin!

Yn Steddfod Caerdydd y llynedd, fues i mewn sesiwn yn y Babell Lên lle’r oedd Emyr Lewis yn holi Wil Garn a Geraint Lewis am nofelau oedd ganddyn nhw ar y gweill. Roedd hi’n sesiwn arbennig o ddifyr ac ro’n i’n edrych ymlaen at ddarllen y ddwy nofel, yn enwedig un Geraint Lewis efallai am ei bod yn sôn am haf 1976. Hwn oedd yr haf pan oeddwn i’n 16 (yr un oedran â Geraint) – haf braf Lefel O, Twrw Tanllyd, gwyliau gyda ffrindiau yn y Cei a Steddfod Aberteifi.

Daeth nofel Wil, Petrograd, ac, yn ôl y disgwyl, fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn. Bu’n rhaid aros tan nawr am nofel Geraint, Haf o Hyd. Ro’n i wrth fy modd pan gyrhaeddais i Llên Llŷn i wneud fy siopa Dolig a’i gweld hi ar y bwrdd. Prynais i gopi’n bresant i fi’n hunan ac edrych mlaen at ei darllen prynhawn ‘ma.

Ond am siom! Dw i wedi darllen rhyw 50 tudalen ac mae’r stori’n grêt – dw i’n siwr y gwna i ei mwynhau hi. Ond mae’r iaith yn erchyll – dydi hi jest DDIM wedi cael ei golygu (gobeithio!). Mae’n LLAWN camgymeriadau gramadeg elfennol. Dw i ddim yn sôn am y darnau sgyrsiol, tafodieithol – mae’r rheiny’n dod drosodd yn dda – ond yn y naratif mae’r Gymraeg yn wael a’r arddull yn anghyson. Mae’n amrywio o fod yn sgwrsiol, naturiol i fod yn stiff o ffurfiol – weithiau yn yr un frawddeg.

Dechreuodd y clychau rhybudd ganu ar y dudalen gyntaf lle mae’n sôn am “y ceffylau gweryrol a ddeuai i lawr o’r ffermydd mynyddig”. Rhywun wedi edrych yn y geiriadur wrth geisio cyfieithu “neighing horses”? Mae ‘na amryw o enghreifftiau o hyn – ymadroddion sy’n swnio’n ddigon slic yn Saesneg wedi’u cyfieithu’n llythrennol mewn ffordd anghymreig – e.e. “fel aderyn syfrdan diffygiol”

Mae’r prif gymeriad yn dweud am ei dad “Nath e farw pan o’n i’n dri”. Go brin y bydde bachgen 16 oed yn ardal Tregaron yn 1976 yn dweud “tri oed”.

Yn y naratif, mae arddull anffurfiol fel “wrth iddo ddilyn fi lan grisiau’r selar” a “bennon ni lan yn eu procio nhw” ochr yn ochr â “Fel yr aeth yr wythnos rhagddi …” a “Tybiais ar y pryd taw ei henaint oedd yn gyfrifol am ei anallu i gynnal sgwrs”. Mae hyd yn oed yn digwydd yn yr un frawddeg “o’n i’n hollol ymwybodol taw lap wast oedd e mewn gwirionedd.”

Daw ffurfiau fel “Penderfynom fynd …” am yn ail frawddeg â phethau fel “Agoron ni ein bocsys” trwy’r amser.

Dw i’n sylweddoli bod angen amrywio arddull yn ôl y gofyn ond mae hyn jest yn anghyson. Byddai’n well penderfynu ar gywair ar gyfer adrodd y stori a chadw at hynny.

Mae ‘na lu o gamgymeriadau gramadeg fel “do’n i heb ddisgwyl”, “Ond mae’n debyg roedd gwir angen y jac codi baw”.

Onid delio â phethau fel hyn yw gwaith golygydd?

Dw i ddim yn deall sut mae’r drefn olygyddol yn gweithio – pwy sy’n gyfrifol am bethau fel hyn – Yr awdur? Y wasg? Y Cyngor Llyfrau?

Mae’r mater yma wedi bod yn fy mhoeni ers amser a dw i wedi meddwl blogio amdano ond do’n i ddim yn licio. Mae hyn wedi fy ngwthio i wneud.

Mae’r anghysondeb yma’n digwydd yn aml yn Martha, Jac a Sianco – brawddegau ffurfiol a rhyw ymadrodd tafodieithol wedi’i dowlu i mewn yn hollol anghymharus. Wedyn, ymadroddion fel “ffenestr frwnt” – naill ai “ffenestr front/fudr” neu “ffenest frwnt” – a “chwarddodd yn uchelach” – naill ai “chwarddodd yn uwch” neu “wherthinodd yn uchelach”, ac, yn Y Gemydd, hefyd gan Caryl Lewis – mae “glöyn byw” yn fenywaidd trwy’r nofel i gyd – rhywun wedi penderfynu newid “iâr fach yr haf” ac wedi gwneud search & replace heb ddarllen dros y nofel wedyn i gywiro’r cyd-destun, swn i’n feddwl.

Nid dim ond ar yr iaith y mae angen golygydd – mewn un nofel newydd (wna i mo’i henwi rhag ofn i mi ei difetha i chi) – roedd y plot yn dibynnu ar y ffaith fod gwraig ganol oed, oedd wedi bod yn briod ers o leiaf 20 mlynedd, wedi ‘anghofio’ sôn wrth ei gŵr ei bod yn gallu gyrru. Yna, ar ôl yr holl flynyddoedd, fe neidiodd i gar ynghanol dinas brysur a gyrru tua chan milltir. Wir?!

Fe wnes i fwynhau Fel Aderyn gan Manon Steffan Ros yn fawr iawn – mae’n nofel hyfryd, hyfryd – ond mae ‘na anghysonderau ‘ffeithiol’ a oedd yn torri ar draws rhediad y stori i mi. Roedd gwraig ffarm yn y tridegau (?) wedi bod yn gwneud sgons ac roedd rhimyn o flawd ar draws ei ffrog. Lle ‘roedd ei brat hi? Mae’n galw “gweill” yn “nodwyddau gwau”, mae un o’r cymeriadau’n “ficer” ac yn “weinidog” bob yn ail ac yn galw Duw yn “chi” wrth weddïo. Mae’r rhain i gyd yn bethau y byswn i’n disgwyl i olygydd sylwi arnyn nhw a’u cywiro.

Efallai mai camgymeriad golygyddol mwya’r flwyddyn yw penderfyniad y Lolfa i adael i Geraint Jones ysgrifennu Hunangofiant Malcolm Allen yn ei arddull arbennig ei hunan gan ddweud pethau fel “Trwy’r tawch yn y pellter gwelwn fy nghartref a Mam yn y drws yn pletio’i ffedog cyn ymhŵedd â’i llaw arnaf yn arwydd bod swper yn barod.” Adolygiad Glyn Evans yma: http://www.bbc.co.uk/blogs/cylchgrawn/2009/11/

Nid llais Malcolm Allen sydd i’w glywed yma ond llais Geraint Jones. Dyw hyn ddim yn deg â Malcolm Allen nac â’r darllenwyr.

Ddois i yma i jecio Twitter gynnau a gweld yr eitem yma gan Glyn Evans ar wefan Newyddion y BBC – “Hon oedd blwyddyn y nofelau ym myd y llyfrau”. Mae’n dyfynnu Derec Llwyd Morgan sy’n dweud bod angen “panel o olygyddion proffesiynol caled gyda phensiliau coch miniog dros ben . . . i roi sglein ar lyfrau cyn iddyn nhw gyrraedd y darllenwyr. ..Mae eisiau llymder golygyddol.”

Gwir iawn!

Dw i ddim yn licio cwyno – mae’r Gymru Gymraeg yn fach iawn a dw i’n siwr bod pawb yn gwneud eu gorau – ond wedyn, pam ddylai darllenwyr llyfrau Cymraeg dderbyn arlwy nad yw gystal ag y gallai fod?

Wel, Nadolig Llawen, dw i’n mynd nôl nawr at Haf o Hyd. Dw i’n siwr y gwna i ei mwynhau hi os galla i ganolbwyntio ar y stori ac anwybyddu’r anghysonderau!

(Siwr bod y blog yma’n llawn anghysonderau hefyd – ond mae yn 01.24 ac yn Noson y Nadolig!)

15 Ymateb i Derec sy’n Iawn

  1. Nic Dafis yn dweud:

    Wyt ti yn llygad dy le, ac mae’n hen bryd i rywun ddweud hyn yn uchel ac yn glir: dyw safonau golygyddol mewn llyfrau Cymraeg, ar y cyfan, ddim yn digon da. Nid oherwydd eu bod yn lyfrau Cymraeg, wrth reswm, ond oherwydd eu bod yn cael eu cyhoeddi gan gyhoeddwyr bychain sydd heb yr adnoddau ariannol i wario ar y gwaith, neu sy’n gorfod gwario mwy ar ochr farchnata a chynllunio. Mae’r un peth yn wir am lyfrau Saesneg sy’n dod o gyhoeddwyr llai, yn anffodus. Yn y llyfr The Descents of Memory, er enghraifft, wnaeth rhywun sylweddoli bod yr awdur wedi defnyddio’r ffurf “ax” ar gyfer “axe”, sy ddim yn addas mewn llyfr am Sais o lenor; un search and replace yn ddiweddarach ac mae pob taxation wedi troi yn taxeation, ac yn y blaen, ond neb wedi sylwi cyn i’r lyfr gael ei argraffu.

  2. siantirdu yn dweud:

    Dw i’n teimlo’n gas ac yn drist am hyn. Es i nôl i ddarllen Haf o Hyd neithiwr yn benderfynol o ganolbwyntio ar y stori ond roedd y camgymeriadau’n mynnu tynnu sylw oddi wrth y stori. Ydi hi’n bosib bod drafft cynta wedi’i argraffu mewn camgymeriad? Dw i wedi gweithio gyda’r wasg ac maen nhw’n ardderchog.

  3. haydn hughes yn dweud:

    Mae ‘na lu o gamgymeriadau gramadeg fel “do’n i heb ddisgwyl”,

    Bee sy o’i le efo hyn ta? Paid a bod yn bedantig. O fewn y cywair anffurfiol llafar mae hyn yn hollol dderbyniol.

    • siantirdu yn dweud:

      Oce te, ond mae ‘na lawer o gamgymeriadau. e.e. “gan obeithio na fyddai Mam yn dal lan yn aros i mi.” a “felly dywedais fy hwyl fawr iddo” a cymysgu cyweiriau fel “roedd ei hymgais i atal fi rhag gweld Jasmin dim ond yn ‘y ngwneud i’n fwy penderfynol …”

      Dyw e byth yn rhoi “yn” o flaen “moyn” e.e. “Do’n i ddim moyn ..” (pedantig efallai) ond mae hefyd yn dweud “Fel pe bai moyn tanlinellu hyn …” am “Fel pe bai e’n moyn …”

      A dw i newydd sylwi ar duedd od – mae’n dweud pethau fel “hi a ofalus baratodd y garlant dant y llew” a “ei llaw glwyfedig, a rannol losgwyd” a “yn cwrtais foesymgrymu” eithriadol o ffurfiol

      Ac, ar dudalen 93, mae hwn eto’n “ffocysu” – druan o Derec!

  4. haydn hughes yn dweud:

    Dw i’n cytuno bod na enghreifftiau erchyll. Ti’n difetha dy ddadleuon fodd bynnag drwy fynd ar drywydd y manion.Ti’n siwr bod angen yr’yn’ traethiadol efo ‘mo’yn’? Dw i’n gwybod bod ymofyn yn ferfenw ac y byddai’r ‘yn’ yn ddisgwyliedig fel arfer, ond mewn dyfyniad o sgwrs anffurfiol? Sgwn i ? Mae’n ngwraig i’n ddeheuwraig (fel ti?) a tydi hi ddim yn rhoi’r yn efo mo’yn. Faset ti’n dweud ‘beth mae e’n ei foyn’? Efo’r triglad? Os nad – pam? Onid y gwir yw bod mo’yn pan yn golygu ‘eisiau’ yn cael ei ddefnyddio yn amlach na dim heb yr ‘yn’ traethiadol, yn union fel y gwneir gydag ‘eisiau?

    • siantirdu yn dweud:

      Diolch Haydn

      Ro’n i’n defnyddio’r ‘manion’ i drio dangos pam o’n i o’r farn nad oedd y nofel wedi cael ei golygu.

      “Ti’n siwr bod angen yr’yn’ traethiadol efo ‘mo’yn’?”

      Dwi’n cytuno nad yw’r “yn” i’w glywed bob amser gyda “moyn” ond cael ei lyncu yn sŵn yr “m” mae e, fel yn “Sai(‘n) moyn mynd”. Swn i bob amser yn sgrifennu’r “yn” achos mae e yna!

      Yn ““Fel pe bai moyn tanlinellu hyn …” mae e’n defnyddio cystrawen ffurfiol “Fel pe bai” heb y rhagenw “e” ac yna’r gair tafodieithol “moyn” heb yr “yn”.Fe allai fod wedi bachu’r “n” wrth y “bai” – ond mae ganddo ‘bolisi’ o beidio gwneud hynny. Fel y mae dyw e ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i mi.

      Dwi wedi gadael y de ers 26 blynedd – felly dim fi yw’r gorau i ddweud beth sy’n digwydd nawr. Ond yn 1976 dwi’n weddol siwr bod yr “yn” yno!

      Swn i ddim yn dweud “Beth mae e’n ei foyn?’ ond “Beth mae e’n moyn?” Am wn i bod yr “y” yn dal yn yr isymwybod. Run peth â “Fi’n mynd i molchi” (er bod pobl yn dweud “mynd i folchi” hefyd).

  5. haydn hughes yn dweud:

    Dw i ddim chwaith yn derbyn bod yna gymysgedd cyweiriol yn y frawddeg ‘“roedd ei hymgais i atal fi rhag gweld Jasmin dim ond yn ‘y ngwneud i’n fwy penderfynol …”. Mae’r gystrawn yn gyson anffurfiol, ac mae na bobl fyddai’n defnyddio’r eirfa sy’n y frawddeg yn y cywair hwnnw, siawns?

    • siantirdu yn dweud:

      Ti’n nabod pobl sy’n dweud “Roedd ei hymgais i fyta deg Weetabix yn aflwyddiannus” neu “Dwi’n edmygu dy ymgais i lanhau’r bath” mewn sgwrs anffurfiol? Bobl posh yn ardal chi!

  6. siantirdu yn dweud:

    Newydd feddwl! Beth os ydi e’n fwriadol? Ymgais i fod yn realaidd? Mae’r nofel wedi’i hysgrifennu yn y person cynta. Os mai fel’na mae bachgen a fagwyd yn ardal Tregaron yn y 60au/70au yn sgrifennu, fel’na mae’n sgrifennu.

    Fydda i’n cochi at ‘y nghlustiau os ffeindia i bod hynny’n wir!

  7. siantirdu yn dweud:

    Mae hyn yn codi pwynt diddorol! Os yw rhywun yn dymuno sgrifennu nofel sy’n cynnwys bratiaith a gwallau iaith ochr yn ochr â iaith ffurfiol, flodeuog yn y naratif – er mwyn gwneud rhyw bwynt, efallai – pam na cheith e?

    Dw i’n edrych ymlaen at ddarllen llyfr Chris Cope. Dw i wrth fy modd â’i flog e. Mae’r iaith yn y blog ymhell o fod yn ‘gywir’ ac mae’n cynnwys ymadroddion sy’n taro’n od yn y Gymraeg ond mae’r holl beth yn rhan o gymeriad Chris. Os yw’r llyfr wedi’i or-olygu, mae peryg i ni golli’r peth arbennig hwnnw sy’n gwneud Chris Cope yn Chris Cope.

    Lle i dynnu’r llinell yw’r cwestiwn mawr!

    Gyda llaw – fe wnes i ddechrau darllen Mr Blaidd, Llwyd Owen neithiwr – so far, so good! Eto, yn hwnnw, mae ‘na ‘eiriau geiriadur’ – “… â’i gwythiennau’n amlwg o dan yr arwyneb” – ond, fel arall, dydi’r iaith ddim yn tynnu sylw oddi ar y stori.

  8. siantirdu yn dweud:

    Ypdet ar Haf o Hyd – Wrth i mi fynd i mewn i’r stori, dydi’r iaith ddim yn amharu gymaint ar y mwynhad, ar wahân i bethau amlwg fel “Diolchais Gwenno” – slip fach ‘ta dylanwad Saesneg? Dw i yn cael y teimlad weithiau bod yr awdur yn meddwl yn Saesneg, yn enwedig wrth dreio dweud pethau creadigol ac fel yn “(gawson ni) swper pysgod a sglodion …” – h.y. “fish & chip supper”
    Rhai pethau ‘ffeithiol’ hefyd – Dan yn cystadlu ar yr “her unawd piano dan 18” yn yr Eisteddfod Genedlaethol – oes ‘na’r fath beth? Ac yn ennill, er syndod, gan ei fod gymaint yn iau na’r cystadleuwyr eraill – ond mae Dan yn 16 a dim ond 17 fyddai’r rhai hynaf!
    Hefyd, mae sôn am gyhuddiad o “hunanladdiad os nad llofruddiaeth” – “dynladdiad” mae’n ei olygu!
    Yr argraff dw i’n ei chael o wrando ar awduron yn siarad weithiau yw bod golygyddion yn tueddu i ymyrryd gormod ond dydi hi ddim yn ymddangos bod hon wedi’i golygu o gwbl.
    Beth yw’r drefn, felly? Faint o drafod sy ‘na rhwng awdur a golygydd? Oes raid i bawb fod yn hapus cyn cyhoeddi? Beth yw rhan y Cyngor Llyfrau yn y broses?
    Beth bynnag, dwi’n mwynhau’r stori – ac eisiau gwybod beth sy’n digwydd!

  9. siantirdu yn dweud:

    Ypdet eto:

    O diar! Hmm!

    Dau gwestiwn felly am ieithwedd ryfedd Haf o Hyd:
    Ydi hi’n fwriadol?
    Ac, os felly, ydi hi’n gweithio?

    A’r un ateb i’r ddau gwestiwn – Dw i ddim yn gwbod.

    Un pwynt difyr – fe ddigwyddais i ddod ar draws edefyn am un o nofelau eraill Geraint Lewis, Daw Eto Haul ar maes-e.

    “gan Leusa » Gwe Maw 19, 2004 11:04 pm

    Be ddiawl di’r obseshwn mawr efo’r gair “amneidiodd?’
    Ma na oleia 3 amneidiodd [neu amrywiad o’r gair] ymhob tudalen.
    Os dio’n ryw joc wirion tebyg i joc ysgytlaeth, yna ‘dw i ddim yn blydi chwerthin
    ddoi nol pan fydda i wedi cwlio lawr i ddeud fy marn am hannar arall y llyfr!

    Leusa”

    Ac, yn rhyfedd iawn, yn y darn roeddwn i’n ei ddarllen neithiwr, o tua tudalen 186 ymlaen yn Haf o Hyd, mae rhyw ffurf ar “amneidiodd” yn digwydd o leiaf bump o weithiau. Rhyw fath o jôc fewnol?

    Beth bynnag, mae Leusa’n dod nôl rai dyddiau’n ddiweddarach:

    “iawn, amneidiaf, helo – ‘dw i di tawelu.
    Amneidiaf yn y cydsyniad fy mod wedi cyffelybu’r llyfr yma i’r llyfrau amneidiol Pi-Ar a Radio Rafins i ddechra – hynny yw di-chwaeth a di-stori a di-amnaid. Ond oo am anghywir oeddwn i (amneidwch).
    Fe ddatblygodd yr amneidio di-chwaeth i fod yn stori ddifyr odd yn gorffen yn neis. Cymeriadau gwahanol, a sefyllfa digon gwahanol…”

    Felly, mae’n debyg bod gan Geraint Lewis rhyw ddawn i godi gwrychyn ac wedyn cael (rhyw fath) o faddeuant.

    Os mai dyfais lenyddol oedd y sgrifennu gwael, fe syrthiais i dros ‘y mhen i’r trap! Ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi’n llwyr, chwaith!

    Prynwch y nofel – penderfynwch drosoch chi’ch hunan

  10. siantirdu yn dweud:

    Adolygiad Gwales fan hyn – http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845272548&tsid=3#top

    Mae’n sôn am y defnydd o dafodiaith a geiriau Saesneg – ond nid yr arddull ryfedd .

  11. siantirdu yn dweud:

    Mr Blaidd, Llwyd Owen – dau dditectif mewn caffi, un ishe mynd i’r toilet ac yn gofyn i’r llall “Wnei di archebu ar fy rhan?”
    Mae pethe felna’n mynd dan fy nghroen i!

  12. siantirdu yn dweud:

    Dwi’n siarad â fi’n hunan yma, braidd!

    Ro’n i’n darllen Barn yn Lolfa Ymadael Maes Awyr Berlin yn ddiweddar, as one does, a dyma fi’n dod ar draws adolygiad Annes Glynn o Haf o Hyd. Dwi’n siwr bod rhai o ‘narpar gyd-deithwyr yn edrych reit amheus ar y fenyw ‘ma’n neidio lan a lawr yn ei sêt wedi ecseitio’n lân! Ro’n i MOR falch bod rhywun yn cytuno â fi – dyw e ddim yn digwydd yn aml!

    Mae’n dweud pethau fel “er fy mod i’n cael blas ar y stori … roedd y mynegiant yn mynnu dod ar ei thraws i darfu ar fy mwynhad…” a “..roedd y rhannau mwy ffurfiol yn taro’n od yn aml, yn bennaf oherwydd cystrawen chwithig a rhyw duedd i ddefnyddio ieithwedd orlenyddol …” a “roedd y mynegiant a’r cyfieithiadau llythrennol o idiomau Seisnig – ‘tra oedd ei amddiffyn i lawr’, ‘chwarae mewn i ddwylo’ – yn mynd fwy a mwy o dân ar fy nghroen …”.

    Mae hefyd yn sôn am y gwahaniaeth y gallai golygydd ‘creadigol’ a golygydd copi fod wedi’i wneud i’r nofel.

    Fydda i’n meddwl weithiau bod golygydd wedi edrych dros hon, gweld bod lot fawr o waith i’w wneud ar y mynegiant ac awgrymu y dylid cynnwys yn y stori bod Trystan wedi bod ar gwrs sgrifennu creadigol er mwyn cyfiawnhau’r anghysondeb – bachgen yn methu sgrifennu’n gywir ond yn ei weld ei hunan yn llenor mawreddog. Dim ond syniad!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: