Cymry Cymraeg yn fwy celwyddog?

Yr wythnos ddiwetha, fe welais eitem ar Golwg360 o dan y teitl ‘Cymry Cymraeg yn fwy crefyddol‘.

Roedd yn dweud bod arolwg a gafodd ei gomisiynu gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi canfod bod “Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn grefyddol na’r Cymry di-Gymraeg”.

Roedd Beaufort Research, meddid, wedi holi 1,009 o oedolion ar draws Cymru ym mis Mehefin eleni ac wedi canfod bod

“26% o’r Cymry Cymraeg rhugl a holwyd yn mynd i’r capel neu’r eglwys unwaith y mis neu’n amlach, o’i gymharu â 13% o’r Cymry di-Gymraeg”.

Oes rhywun yn gwybod am dref neu bentref yng Nghymru – hyd yn oed yn y gogledd, lle mae’r bobl hyd yn oed yn fwy crefyddol yn ôl yr arolwg – lle mae chwarter y bobl yn mynd i’r capel neu’r eglwys o leiaf unwaith y mis?

Na? Na finnau chwaith. Byddai hyn yn golygu bod tua 100 o bobl Trefor yn mynd i’r capel neu’r eglwys o leiaf unwaith y mis. Os nad oes nifer fawr o bobl Trefor yn mynd i gapeli ac eglwysi y tu allan i’r pentref, swn i’n meddwl mai tua 25 – 30 yw’r ffigwr cywir ac yn ôl yr hyn y mae Dafydd, y gŵr, sy’n bregethwr cynorthwyol, yn ei ddweud mae hynny’n cymharu’n o lew â phentrefi eraill y cylch. Felly, mae llai na 10% o bobl Trefor yn mynd i gapel neu eglwys o leiaf unwaith y mis.

Beth mae hyn yn ei olygu felly? Naill ai:
a) Mae Beaufort wedi gwneud rhyw fath o gamgymeriad – wedi holi pobl mewn bore coffi Cymorth Cristnogol neu ar y stryd ger capel cyn neu ar ôl oedfa, efallai! Ond hyd y gwelaf i, mae Beaufort yn gwmni profiadol ac uchel ei barch a does gen i ddim rheswm dros amau ei broffesiynoldeb.
b) Mae llawer o Gymry Cymraeg wedi dweud celwydd – yn fwriadol neu’n anfwriadol!

Mae hwn yn fwy tebygol! Pam dweud celwydd? Ydi’r hen barchusrwydd Cymreig yn dal ei dir o hyd a phobl ddim ishe cyfadde, hyd yn oed wrth ddyn â chlipfwrdd, nad ydyn nhw’n mynd i’r capel?
Dw i wedi bod yn argyhoeddedig ers amser nawr bod nifer fawr o bobl yn meddwl yn siwr eu bod yn mynd i’r capel bob dydd Sul er na fuon nhw ddim ers blynyddoedd!

Dw i’n cofio mynd am dro yn yr haf a chwrdd â gŵr a gwraig sy’n aelodau mewn capel ond heb fod yno ers o leiaf chwarter canrif. Dyma nhw’n dechrau sôn am y capeli slawer dydd a holi faint oedd yn mynd i’r capel yn Nhrefor nawr. “Rhyw ugain,” medden ni a dyma nhw’n dweud rhywbeth fel “Twt, twt, be sy ar bobl – dydi’r pethe ifanc ‘ma’n poeni dim.”!

(Mae hyn yn cadarnhau un arall o ganfyddiadau’r arolwg:

“• Roedd 76% yn cytuno â’r farn nad oedd gan bobol ifanc ddiddordeb mewn crefydd.”)

Yna, yn ddiweddar, roedd gweinidog yn cerdded lawr y stryd mewn pentre a mam a merch yn dod ato a gofyn

“Ydi hi’n wir fod capel **** yn mynd i gau?”
“Ydi, wir, cofiwch,” atebodd y gweinidog.
“Wel,” gofynnodd y ferch yn stowt, “Be ‘dan NI i fod i neud rŵan ‘te?”

A dim ond i un bedydd ac ambell angladd roedd y teulu wedi bod yn y capel ers blynyddoedd!

Mae pobl fel pe baen nhw’n meddwl bod ganddyn nhw ryw hawl ar y capel o hyd sy’n cadarnhau un arall o ganlyniadau’r arolwg:

“• Dywedodd 35% o bobl 16-34 mlwydd oed a 65% o bobl 55 oed neu’n hŷn eu bod yn cytuno â’r datganiad ‘mae crefydd yn berthnasol i mi’.”

a’r hyn a ddywedodd y Parchedig Gwenda Richards, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru a gweinidog Capel Seilo, Caernarfon mewn ymateb i’r arolwg:

“mae’n adlewyrchu’r hyn y bu amryw yn ei amau am sefyllfa’r eglwys mewn cymdeithas ôl-ddiwydiannol sy’n ymddangos fel petai’n prysur ddatblygu’n gymdeithas ôl-Gristnogol, lle y mae crefydd yn cael ei ystyried yn berthnasol o hyd, ond yr ymlyniad a’r ymarfer o safbwynt addoliad yn brin.”

(Hynny yw, mae pobl yn meddwl bod crefydd yn berthnasol ond ddim yn mynd i’r capel/addoli). Mae ystyr y gair “crefydd” i’r holwyr a’r atebwyr yn codi cwestiwn arall!

Felly, beth mae hyn yn ei ddweud am yr holiadur? All rhywun ddim gwrthbrofi’r atebion i’r cwestiynau sy’n holi barn pobl ond mae dweud bod 26% yn mynd i gapel neu eglwys yn rheolaidd yn bell ohoni. Ddylai fod gan y cwmni ryw fath o gwestiwn i faglu’r celwyddgwn? Rhywbeth fel “Ar ba dôn y cenir emyn rhif 637 yn Caneuon Ffydd?” efallai!

Mae hyn yn tanseilio ffydd rhywun mewn arolygon barn, braidd. Os yw hwn mor anghywir, beth am yr holl arolygon eraill rŷn ni’n clywed amdanyn nhw?

Beth ddylai Eglwys Bresbyteraidd Cymru fod wedi’i wneud? Maen nhw’n amlwg yn gwybod nad yw chwarter yr holl Gymry Cymraeg yn mynd i gapel neu eglwys yn rheolaidd. Ddylen nhw fod wedi cyhoeddi’r canlyniadau? Ddylen nhw fod wedi codi’r peth gyda Beaufort a cheisio cael canlyniadau cywirach? (Dydi hyn, wrth gwrs, yn ddim o ‘musnes i)

Beth bynnag, celwyddog neu beidio, ydi’r fath ymlyniad at ‘grefydd’ ymhlith y Cymry Cymraeg yn help ‘ta’n rhwystr i’r eglwys yn ei chenhadaeth? Yn sicr, mae’n her!

2 Ymateb i Cymry Cymraeg yn fwy celwyddog?

  1. Rhys Llwyd yn dweud:

    Cofnod gwych Sian. Diddorol iawn. Wn i ddim faint o siap sydd ar Beaufort Research oherwydd dwi’n cofio nhw’n gwneud arolwg ar i fewn i ddyfodol y Sin Roc Gymraeg rai blynyddoedd yn ôl ar ran y Welsh Music Foundation ac yn ymfalchio fod eu grwpiau ffocws nhw yn cynnwys Cymry Cyffredin yn unig ond roeddw ni’n gwybod fel ffaith fod un o brif drefnwyr gigs Cymru wedi gael gwahoddiad, sawl aelod o fandiau Cymraeg a rheolwr label recordiau Cymraeg. Yn anorfod felly ni fyddai canfyddiad y grwpiau ffocws hynny yn adlewyrchu y Cymro cyffredin oddi ar y stryd fel petae.

  2. Rhys yn dweud:

    Dw i’n cofio gweld rhaglen ‘Cofio’ ar S4C yn ddiwrddar ble dangoswyd clip o’r archif o’r ’60au ble aeth gohebydd i Langefni i holi pobl pa mor aml byddan nhw’n darllen y beibl. Mond un allan o tua neu 8 ddwedodd nad oedd o’n ei ddarllen o gwbl, tra roedd yn gwbl amlwg bod y gweddill yn palu celwydd eu bod yn ei ddarllen unai’n ddyddiol neu’n wythnosol. Yn amlwg roedd deud celwydd ar deledu yn llai o bechod na chyfeddaf nad oeddent yn darllen beibl!

    (sori, dim i’w wneud a dy gofnod rili, mond eisiau ei rannu gyda phawb)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: