Gormod o ddieithriaid sinistr?

Ym myd y ddrama, dw i’n gwybod bod cyflwyno rhywun o’r tu allan yn ddyfais handi i gael pobl i edrych ar eu hunain mewn ffordd wahanol, wynebu’r gwir ac ati, ond tybed a ydi hi’n ddyfais sy’n cael ei gorddefnyddio?

Cafodd ei wneud yn arbennig o wael yn Tyner yw’r Lleuad Heno yn ddiweddar.

Dw i newydd gael rhaglen Theatr Harlech ac mae fel pe bai’r ddyfais hon yn cael ei defnyddio yn y dramâu Cymraeg/Cymreig i gyd:

Croesi’r Rubicon gan Valmai Jones, Bara Caws: “… Mae’r tŷ, fel ei berchennog, yn llawn cyfrinachau, ac ofnau Esme’n cynyddu wrth i ymwelydd diarth gyrraedd i ddwysau’r hunllef. …”

Llwyth gan Dafydd Huw James, Sherman Cymru: “…mae pedwar ffrind hoyw’n benderfynol o gael noson i’w chofio. Pan fo bachgen ifanc, hardd yn ymuno yn yr hwyl, mae’r chwarae’n troi’n chwerw a brawdgarwch yn sydyn ar brawf.”

Deryn Du, Addasiad Bryn Fôn o ddrama David Harrower, Bara Caws: “A nawr mae Lora’n ôl, ond i beth?”

Mae’n eitha posib eu bod nhw’n ddramau ardderchog – ond ydi’r ddyfais braidd yn dreuliedig erbyn hyn?

Un Ymateb i Gormod o ddieithriaid sinistr?

  1. siantirdu yn dweud:

    Dieithryn sinistr yn Chwilys, Aled Jones Williams, hefyd. Ond roedd hwnnw’n un da!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: