Ddylen ni roi sosej a chips i ddysgwyr?

Dwi’n hoff iawn o Flog yr Hogyn o Rachub – er nad oes gen i syniad pwy yw’r Hogyn ac er nad yw ei arddull ffug-fawreddog yn taro deuddeg bob tro. Dwi’n meddwl swn i’n licio’r Hogyn swn i’n cwrdd ag e.
Mi gododd bwynt difyr yn ei flog yr wythnos ddiwetha – y defnydd o eiriau Saesneg derbyniol mewn sgwrs Gymraeg naturiol.
Mae’r Hogyn yn dweud bod geiriau fel “shŵs” a “swîts” yn mynd ar ei nerfau. Dyma lle dwi’n mynd yn amddiffynnol. Dyna ydi‘r geiriau Cymraeg naturiol yn fy ardal i – Pencader. Fysech chi ddim yn meddwl cywiro neb am ddweud “shŵs” a “swîts” a “ring” a “sand” a “whîl”. Dyna’r geiriau naturiol a dyna ni. Dwi’n cofio pan o’n i yn yr infants, cael gwrando ar raglen radio i ysgolion a’r holwraig yn dweud “Codwch eich llaw os ydych chi’n gwisgo esgidiau”. Dim ond un bachgen bach yn ein dosbarth ni gododd ei law achos fe oedd yr unig un oedd yn gwisgo sgidie – “shŵs” oedd gan bawb arall. Roedd rhaid i’r athrawes esbonio mai “shŵs” oedd y fenyw’n olygu wrth “esgidiau”.

Dwi hefyd yn cofio Norah Isaac o Goleg yn Drindod yn dod i’r ysgol ac yn ein holi yn yr assembly. Gaethon ni row ar ôl iddi fynd achos doedd neb ohonon ni’n gallu cofio’r gair “tywod” am sand ac eto, ar y pryd, roedd tua 70-80% ohonon ni’n dod o gartrefi Cymraeg.
Pan ddes i i’r gogledd roedd fy ngŵr yn chwerthin am ‘y mhen i am ddweud geiriau fel “whîl” a “donci” ond eto roedd e’n gweud “egcop” am gwpan ŵy a “rencot” am got law!

Fe fues i mewn dadl eitha poeth am y busnes geiriau benthyg o’r Saesneg yn gwneud eu lle yn gyfforddus yn y Gymraeg!
Ar ForumWales mae dysgwyr yn gofyn cwestiynau am y Gymraeg ac roedd rhywun wedi holi am y gwahanol ffurfiau ar orffennol “cael” (os dwi’n cofio’n iawn, wedi methu ffeindio’r drafodaeth yn yr archifau). Fe ddywedais i mod i wedi holi sawl aelod o’r teulu beth fydden nhw’n ei ddweud am “We had chips for supper” (y frawddeg gynta ddaeth i ‘mhen i) a ‘mod i wedi cael yr atebion “Gawson ni jips i swper”, “Gaethon ni jips i swper”, a “Gelon ni chips i swper”. Wel, dyma ymateb yn dod oddi wrth fenyw (?) sy’n dysgu Cymraeg i oedolion yn y Cymoedd “Teach them to say ‘sglodion’ before it’s too late,” meddai.
Do’n i ddim yn siwr ai jôc oedd hyn ond fe dreies i esbonio nad oedd ‘sglodion’ yn rhan o eirfa Cymry Cymraeg naturiol Pencader na Threfor a ‘mod i’n hollol gyfforddus â “chips” ond fe aeth yn ddadl. Yn y pen draw, ro’n i’n dadlau ei bod hi’n greulon i beidio â dweud wrth ddysgwyr mewn ardaloedd Cymraeg nad ydyn nhw’n debygol o glywed geiriau fel “sglodion” wrth siarad â’u cymdogion. Mewn ardaloedd fel y Cymoedd lle mae’r dysgwyr yn fwy tebygol o siarad Cymraeg ddim ond â dysgwyr eraill, athrawon a phlant o ysgolion Cymraeg, efallai bod y sefyllfa’n wahanol.
Roedd yr athrawes ail iaith yma a rhai dysgwyr o ardaloedd gweddol ddi-Gymraeg yn methu deall y rhesymeg. Roedden nhw hyd yn oed yn cwyno am eiriau fel “wâc” sydd wedi hen ennill eu plwyf. (Ddylwn i fod wedi rhoi’r gorau iddi, dwi’n gwbod!)
Mewn erthygl ddifyr o’r enw “Learners, native speakers and the authenticity of language” yn y gyfrol “Communicating Cultures“, mae Iwan Wmffre (dwi’n meddwl – methu ffeindio’r rhan berthnasol) yn dweud bod tuedd ymhlith dysgwyr trefol i ymwrthod â geiriau benthyg a hyd yn oed i ddilorni Cymry Cymraeg iaith gyntaf am eu defnyddio.
Fe welais i hyn ar ForumWales pan oedd dau ddysgwr braidd yn feirniadol o D J Williams a Gwenallt am ddefnyddio’r gair ‘Nwncwl’ “when there is a perfectly good Welsh word, ‘ewythr'”.

Roedd yr athrawes ‘ma a rhai dysgwyr yn dadlau hefyd na allwn ddweud “Gawson ni jips a sosej i swper” – am nad oes “j” yn y Gymraeg!! (ond stori arall yw honno!)

11 Ymateb i Ddylen ni roi sosej a chips i ddysgwyr?

  1. Ceri Wyn yn dweud:

    Ife rhywun o Bencader ysgrifennodd y pantomeim ‘Pws mewn Bwts’?

  2. siantirdu yn dweud:

    Na, Cangarŵ mewn Clocs oedd hwnnw.
    Wrth gwrs, mae bŵts yn rhywbeth gwahanol wedyn. Sgidie sy yn y llun, nid bŵts.

  3. Hogyn o Rachub yn dweud:

    Diolch am yr ymateb, ti’n codi pwyntiau diddorol hefyd. Tybed a ydi geiriau fel y rhaid a nodwyd ac ati wedi dod yn eiriau naturiol neu ydyn nhw wedi bod yn naturiol erioed? Os y cyntaf mae’n ddiddorol meddwl pryd y mae gair yn troi o fod yn air sydd, i bob pwrpas, yn fratiaith, i fod yn Gymraeg naturiol.

    Ta waeth, dwi’n siwr y byddwn innau hefyd yn hoff iawn ohonot ti tasa ni’n cyfarfod!

  4. Ceri Wyn yn dweud:

    Erydiad geirfaol yw geiriau fel shws, swits, bwts ac yn y blaen. Mae eu codi nhw i lefel tafodiaith goeth a naturiol yn hurt.

  5. siantirdu yn dweud:

    Dwi’n gwybod ei bod hi weithiau’n anodd tynnu llinell rhwng bratiaith a thafodiaith ond “switsen / swîts” yw’r unig air am “sweets” ym Mhencader. Dim dewis. Mae’r ffaith fod yr unigol wedi’i Gymreigio’n dweud rhywbeth does bosib? Tyset ti’n sgrifennu stori am ardal Pencader ac yn defnyddio “loshin” yn y ddeialog fyse fe jest ddim yn ddilys.
    Yn y ffilm “Martha, Jac a Sianco” roedden nhw’n sôn am “brechdanau” ac oedd e’n swnio’n chwithig ofnadwy. “Sanwejus/Sangwejys” fydden nhw’n ddweud.

  6. Ceri Wyn yn dweud:

    Ys gwetws Dylan – the times they are A-changing – Bob, nid Mr Thomas.

    Elli di ddim dala wrth y gorfennol a gweud taw dim ond hyn a hyn sy’n ddilys.

    Yn y dyddiau a fu pan oedd mynd o Gaerfyrddin i Bendcader yn dipyn o siwrnai, roedd yr iaith lafar yn aros yn ei hunfan, heb newid rhyw lawer o blwyf i blwyf – ond dim heddi.

    Beta i di fod plant ifanc heddi ym Mhencader yr un mor gyfarwydd a geiriau fel brechdanau, losin, selsig, mefus a sglods ag yw pob un plentyn arall yng Nghymru lle ma plant yn siarad Cymraeg – boed hynny oherwydd yr ysgol neu’r aelwyd.

    Bydd ganddynt hefyd lu o eiriau eraill fel – cyfrifiadur, e-bost ac yn y blaen.

    Mae teitl dy flog yn gofyn y cwestiwn – a ddylen ni roi sosej a chips i bobol sy’n dysgu’r iaith. Fy ateb i yw a selsig a sglodion ddyla hi fod.

    Fy ymateb bersonol yw hyn ond wela i ddim rhinwedd wrth annog y defnydd o eiriau Saesneg – ac nid oes ots gen i os yw’r rhain yn fwy gyffredin ar lafar mewn amall i ardal yng Nghymru – nid y geiriau hynny yw’r norm ym mhobman, felly gwell dysgu’r Gymraeg yn ei dillad parch.

  7. Ceri Wyn yn dweud:

    Ys gwetws Dylan – the times they are A-changing – Bob, nid Mr Thomas.

    Elli di ddim dala wrth y gorfennol a gweud taw dim ond hyn a hyn sy’n ddilys.

    Yn y dyddiau a fu pan oedd mynd o Gaerfyrddin i Bendcader yn dipyn o siwrnai, roedd yr iaith lafar yn aros yn ei hunfan, heb newid rhyw lawer o blwyf i blwyf – ond dim heddi.

    Beta i di fod plant ifanc heddi ym Mhencader yr un mor gyfarwydd a geiriau fel brechdanau, losin, selsig, mefus a sglods ag yw pob un plentyn arall yng Nghymru lle ma plant yn siarad Cymraeg – boed hynny oherwydd yr ysgol neu’r aelwyd.

    Bydd ganddynt hefyd lu o eiriau eraill fel – cyfrifiadur, e-bost ac yn y blaen.

    Mae teitl dy flog yn gofyn y cwestiwn – a ddylen ni roi sosej a chips i bobol sy’n dysgu’r iaith. Fy ateb i yw selsig a sglodion ddyla hi fod.

    Fy ymateb bersonol yw hyn ond wela i ddim rhinwedd wrth annog y defnydd o eiriau Saesneg – ac nid oes ots gen i os yw’r rhain yn fwy gyffredin ar lafar mewn amall i ardal yng Nghymru – nid y geiriau hynny yw’r norm ym mhobman, felly gwell dysgu’r Gymraeg yn ei dillad parch.

  8. siantirdu yn dweud:

    Dw i ddim yn dweud na ddylid dysgu geiriau fel mefus a sglodion i ddysgwyr ond dweud ydw i y dylai’r dysgwyr gael gwybod beth yw’r geiriau sy’n cael eu defnyddio yn eu hardal nhw – yr un peth â geiriau tafodieithol eraill – tegil, grac, sai’n mo’yn
    Mae pobol yn dysgu Cymraeg am wahanol resymau ond, i rywun sy’n dymuno dod yn rhan o’r gymuned, fyswn i’n meddwl y dylen nhw o leiaf gael gwybod beth mae Mrs Jones drws nesa’n debygol o’i ddweud.
    Dwi’n gallu dweud geiriau fel styffylwr a cyfrifiannell heb drafferth ac, ers dwi yn y gogledd, mae fferins a bechdan a gwydr yn teimlo’n ddigon naturiol, ond alla i ddim dychmygu byth ddweud selsig a sglodion ac oergell.
    Ydi “switsen” yn air Cymraeg? Beth am “fferins”?
    Fydd hi’n ddiwrnod trist iawn os bydd pobl Pencader yn dweud “loshin”.

  9. siantirdu yn dweud:

    W! wedi cael mensh ar Flog Pethe!
    http://s4c.co.uk/pethe/trafodaeth-am-dafodiaith/

    Mae’r awdur, (Gwion Hallam?), yn dweud amdana i: “Shŵs fyddai hi’n ei ddweud yn naturiol am esgidiau, a swîts fyddai’n ei ddweud am loshin. Gair Saesneg yw shŵs, neu shoes i fi.”
    Mae hyn yn bwynt difyr – yn aml, un ffordd o benderfynu a yw gair benthyg wedi ennill ei blwyf yn y Gymraeg yw’r ffordd o’i ynganu. Gair Saesneg yw “shoes” (gyda z ar y diwedd) i minnau hefyd ond gair Cymraeg yw “shŵs” ag “s”.
    Dwi’n meddwl bod llawer o eiriau wedi cael eu benthyg mewn cyfnod pan oedd yr acen Gymraeg yn gryfach o lawer ac roedd geiriau Saesneg yn cael eu mowldio i’r ffordd Gymraeg o siarad – e.e. mwnci, sgarff a channoedd o rai eraill.
    Dw i’n cofio Dafydd Glyn Jones yn sôn rhyw dro am y ffordd yr oedd ynganiad “watch” wedi newid mewn tair cenhedlaeth o “wats” i “watsh” i “wotsh”.
    Testun blog arall fan hyn!

  10. A D J yn dweud:

    Nid mater o gywirdeb sydd yma, ond cywair (linguistic register). Mae’r ffurfiau benthyg hyn yn “gywir” ar lafar gwlad (shŵs Pencader a sgitshe Cwmaman), ond nid yn y Gymraeg “safonol”, draws-dafodieithol.

    Wrth gyflwyno’r iaith i ddysgwyr, rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r amrywiadau ieithyddol hyn. Yn yr un modd, yn ystod eu gyrfa yn yr ysgol mae’n rhaid i Gymry Cymraeg ddysgu synhwyro pa gywair sy’n addas i ba gyd-destun.

    Ydyn, mae llawer o’r geiriau tafodieithol hyn yn tueddu bod yn eiriau benthyg o’r iaith hegemonaidd. Be sy’n “gywir”, fodd bynnag yw’r hyn sy’n iawn i’r cyd-destun. Dydy Cymraeg yr arholiad llafar ddim wastod yr un peth â Chymraeg siop y pentre a Chymraeg y dafarn.

  11. […] ei blogiau diweddaraf mae Sian Tir Du’n amddiffynnol o dafodiaith Pencader. Yn ei blog Storïau Tir Du mae’n ymateb yn benodol i’r defnydd o eiriau Saesneg sy’n dderbyniol iddi wrth siarad […]

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: