Mynd ar y galifánt i gael bwyd ffein

Mae’r sôn am “fferins” wedi fy atgoffa i o edefyn difyr ar maes-e slawer dydd lle’r oedd pobl yn sôn am eiriau Cymraeg a gafodd eu benthyg o’r Saesneg ond sydd erbyn hyn naill ai’n golygu rhywbeth gwahanol i’r gair Saesneg gwreiddiol neu bod y Saeson wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gair hwnnw. Dyma rai ohonyn nhw:

fferins – fairings – presant o’r ffair
blwmar – bloomers – dal i gael ei ddefnyddio am nicyrs cyffredin yn Nhrefor
hast – prin fydd y Saeson yn dweud “haste” heblaw mewn ymadroddion set
galifanto / mynd ar y galifánt – ydi hwn yn cael ei ddefnyddio gan Gymry di-Gymraeg?
mynd i wâco / mynd am wâc yn car – nid cerdded ydych chi pan chi’n mynd i wâco
bwyd ffein – yn wahanol i “fine food”
ffowlyn – Fysech chi ddim yn dweud “What’s for dinner?” “A foul”
cadw reiat – Yn y cyfieithiad Saesneg o Un Nos Ola Leuad mae’r fam yn dweud rhywbeth fel “Don’t go out there causing a riot” – sy ddim byd tebyg i “cadw reiat” !
josgyn – Yn Chamber’s English Dictionary dywedir ‘joskin – a clown, a yokel’, gair o iaith lladron (thieves’ cant.) ond yn urbandictionary.com mae’n dweud “North-Walian term used in both English and Welsh to describe anyone from a rural or farming background. It is used both affectionately and in a derogatory way depending on the audience.”
seiens – fel yn “Gad dy seiens” ddim byd i’w wneud â “science”.
shimpil – yn golygu “anhwylus” yn hytrach na “simple”
shiffto – yn golygu “dod i ben â rhywbeth” neu “ymdopi” yn hytrach na “symud”.
panso yn dod o air Saesneg tafodieithol sy’n golygu “to take pains or great care to do something”.
jimo (gwisgo colur) – yn dod o’r ansoddair “jim” sy’n dod o “gim” yn Saesneg ac yn golygu “trwsiadus – smart, spruce”.
selog – “ffyddlon” neu “ciwt” am fabi – yn dod o zealous

Allwch chi feddwl am ragor?

20 Ymateb i Mynd ar y galifánt i gael bwyd ffein

  1. Sian Northey yn dweud:

    Roedd nain (o Goedpoeth ger Wrecsam) yn galw coban yn begw nos – sydd yn lycriad dwi’n meddwl o peignoir.
    Minciag (dwi wedi sillafu hwnna fel dwi’n ddweud o, sydd chydig yn wahanol i’r geiriadur) – mint cake. Ond yn golygu unrhyw fath o dda da.
    A smwddio ydi’r peth mae person yn wneud efo smoothing iron (neu ddim yn ei wneud yn fy achos i!)
    Trimins a thrimio (addurniada Dolig) hefyd dwi’n siwr.Cofio sgwrs chwil yn troi yn chwerthin afreolus pan ofynodd ffrind i Saesnes oedd efo ni “Have you trimed yet?”
    Reit, stop, gwaith!
    Hwyl,
    Sian

  2. siantirdu yn dweud:

    A ie – smwddo – da. Mae’n debyg bod “smwddo” yn gallu golygu “rhoi da” neu “rhoi o bach” i gath neu gi – “to stroke” – hefyd tua top Sir Benfro. Mae gen i gof bod Geraint Lovgreen wedi sôn yn WTC (archifau’n pallu agor bore ‘ma) bod ‘na grys T slawer dydd yn dweud “Mae mam yn smwddio’r gath” a llun llaw’n dal haearn smwddio a chath frawychus!
    Mae “stîlo” yn golygu smwddio hefyd yn y de orllewin – allech chi ddim dweud “My mother is steeling”!
    Roedd rhywun yn dweud bod pobl Nefyn yn galw “trimins” yn “rigins” – achos y traddodiad morwrol.

  3. Ceri Wyn yn dweud:

    Losin – ma’rhaid bod y gair yn dod o’r Saesneg ‘lozenge’
    Sbanish – gair am licorice.
    Trwco – cyfnewid, swapo – o’r Saesneg to truck
    Cwpwl – byth yn golygu dau ond nifer. Nid yw ‘cwpwl o oriau’ yn golygu dwy awr.
    Nawr – pan ni’n gweud pethau fel ‘bydda i’n ei neud e nawr’, dyw’r ‘nawr’ ddim yn golygu ar unwaith ond rhywbryd nes mlan. Ma’r un peth yn wir os ni’n gweud ‘bydda i’n ei neud e mewn munud’ – dyn ni byth yn ei neud e o fewn munud, fe all fod cwpwl o oriau wedi pasio!

  4. siantirdu yn dweud:

    Diolch, Ceri
    “sbani” roedden ni’n ddweud am “sbanish” (“licorice”) – ac yn ôl GPC, dyna oedd y gair yn ardal Aberaeron – roedd mam yn dod o’r Cei ac yn mynd i ysgol Aberaeron

    Hefyd, dyna sboner (yn dod o “spooner”) a wejen (yn dod o “wench”) a lodes (yn dod o “harlot”)!

  5. Sian Northey yn dweud:

    A sbio am edrych (a sbeinglas neu sbeinddrych am wn i)
    Denu ni i beidio gweithio ydi hyn Sian! A hitha’n rhyw fath o ddydd Llun….

  6. Ceri Wyn yn dweud:

    Nefi blw – dyma un od, wi ddim yn meddwl bod y Saeson yn dweud ‘navy blue’ fel ebychiad. Efallai bod rhai Cymry gor-grefyddol wedi troi ‘Nefoedd Wen’ yn ‘nefi blw’ i beidio a swno’n amharchus.

  7. siantirdu yn dweud:

    rwdan – Dwi’n cofio sylwi rhyw dro nad oedd llawer o eiriau Cymraeg cynhenid yn dechrau ag “r”. Soniodd Guto wrth ei ffrind a dyma hwnnw’n cael brên-wêf – “Rwdan!” – ond erbyn edrych yn GPC, mae’n debyg mai o “rootings” mae hwnnw’n dod! Da!

  8. Ceri Wyn yn dweud:

    Hambon – term am ‘josgin’ sy’n byw yn Nyffryn Teifi OND dyma be ma nhw’n gweud am ‘hambon yn yr Urban Dictionary:

    Hãm-bŏn (n)
    French origin, used by French as a derogatory term

    Ill-bred, inbred and unsightly little Welshmen.
    Everyone is Wales is hambon!

    http://www.urbandictionary.com/define.php?term=hambon

  9. siantirdu yn dweud:

    partner – i olygu “ffrind” – “Wel, maen nhw’n bartners” a “Mae John ni yn partneru ‘da Wil Tŷ Canol”. Bosib nad yw’n cael ei ddefnyddio gymaint erbyn hyn wrth i ystyr “partner” newid.

  10. Carl Morris yn dweud:

    Pa “sôn am fferins”?

    Diddorol achos dw i newydd wedi postio map o eiriau melysion yma!
    http://quixoticquisling.com/2010/03/tafodieithoedd-melys/

    Gyda llaw, ydy “braf” yn golygu “brave” yn y cyd-destun wreiddiol? Dw i ddim yn sicr.
    e.e. “Come outside, it’s a brave day to-day chaps!”

  11. siantirdu yn dweud:

    Diolch Carl, mae hwnna’n grêt

    Yn y postiad cynt – “Ddylen ni roi sosej a chips i ddysgwyr?” https://siantirdu.wordpress.com/2010/04/04/ddylen-ni-roi-sosej-a-chips-i-ddysgwyr/ ro’n i’n dweud mai “switsen/swîts” oedd y gair naturiol ym Mhencader ac yn dadlau y dylid dweud wrth ddysgwyr yr ardal mai dyna roedd Mrs Jones drws nesa’n debygol o’i ddweud – rhag i’r dysgwyr eu dieithrio’u hunain ymhellach trwy ddweud “melysion”. Soniais wedyn, dwi’n meddwl, mai gair benthyg oedd “fferins” hefyd – ac fel mae Ceri wedi dweud, mae “loshin” yn dod o “lozenge”.

    Mae’r map yn awgrymu mai pobl mewn stribed ar hyd y glannau sy’n dweud “swîts” ond chlywais i neb ym Mhencader yn dweud loshins – dim hyd yn oed pobl oedd yn hen iawn ddechrau’r 60au.

    Yn ôl GPC mae “braf” yn dod o’r Saesneg neu’r Ffrangeg “brave”. Roedd yn cael ei ddefnyddio i olygu “mawr, helaeth” yn y 13g ac yna, mae enghreifftiau o’r 16g ymlaen ohono’n golygu “heulog, tawel, tesog” etc.

    Diolch!

  12. siantirdu yn dweud:

    Mae “joe” yn air am “switsen” yn y gogledd. Newydd weld ei fod yn dod o “chew”.

  13. siantirdu yn dweud:

    Elis newydd ddarllen yn Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg bod “hogyn” yn dod o’r Saesneg “hogg” sy’n golygu anifail ifanc.

    A dwi’n cymryd bod “porcyn” (rhywun noethlymun) yn dod o “pork”

  14. cath yn dweud:

    A beth am dised o de? Sdim neb wedi cymryd ‘a dish of tea’ yn Saesneg ers y 18fed ganrif.

  15. siantirdu yn dweud:

    Ie! a “snêc” – Ges i le bach snêc i barcio.

  16. Harold Street yn dweud:

    Ydy ‘piwr’ yn perthyn yn y categori yma?

    ‘Caredig’ neu ‘hael’ yw rhywun piwr wdyn, yn hytrach na phur.

    Ac fe gas y gair ‘rysaip/rysait’ ei fenthyg o ‘receipt’ ond dyw ‘receipt’ ddim yn golygu rhestr o gyfarwyddiadau coginio yn Saesneg erbyn hyn.

  17. siantirdu yn dweud:

    Mae “stando” yn y de orllewin yn golygu “sylweddoli” yn hytrach na “deall”

  18. […] pwt ar dafodiaith wthnos dwetha dwi’n darllen am y pwnc bron ym mhobman. Fel y soniais, mae Sian Tir Du wedi bod yn ei drafod gan ennyn mwy a mwy o ymateb. Mae’n ymddangos bod tafodiath ar feddwl y […]

  19. siantirdu yn dweud:

    A ma “jacôs” yn golygu “bodlon”, “hamddenol”, “laid back” yn hytrach na rhywun sy’n dipyn bach o gomedian er mai o “jocose” y mae’n dod.

  20. siantirdu yn dweud:

    Mari Meredydd newydd holi ar Facebook beth yw “tramgŵls” – wedi’i glywed ar Pobl y Cwm.
    ‘Trangwns’ sen i’n ddweud ond yn ôl GPC – trangwls, tranglw(n)s, trangalŵns, tringalŵns – petheuach, geriach, manion diwerth – junk, worthless trifles, oddds & ends – yn dod o’r Saesneg “tranklums”
    Da!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: