Yncl yn Seren?

Mi fues i mewn angladd bore ‘ma – angladd hen ŵr oedd wedi marw ar ôl oes faith ac iach. Roedd yn aelod ffyddlon yn ei gapel ac yno roedd yr angladd o dan ofal gweinidog.
Roedd ‘na blant bach yn y gwasanaeth a dyma’r gweinidog yn troi atyn nhw ac yn dweud “Heno, pan fydd hi’n dywyll, ewch allan ac edrych i fyny i’r awyr. Sbiwch am un seren sy’n sgleinio fwy na’r lleill. Yncl *** fydd hwnnw, wedi cyrraedd yn saff ac yn edrych ar ein holau ni.”
Ai dim ond fi sy’n anghyfforddus bod gweinidog yn dweud y fath beth?
Does bosib bod ‘na well ffyrdd i Gristnogion gyflwyno plant i fyd creulon marwolaeth na dweud bod eu hyncl wedi troi’n seren?

6 Ymateb i Yncl yn Seren?

  1. Emma Reese yn dweud:

    Oes, mae yna ffordd lawer gwell ac un wir. Mae eu yncl wedi mynd adref at Iesu ac mae o’n berffaith hapus. Mi gân nhw ei weld o unwaith eto os ydyn nhw’n credu yn Iesu Grist hefyd.

  2. ceri yn dweud:

    Welai i ddim byd yn bod ar hwnna. Ffordd o leddfu ofn angau yw gweud shwt beth ontefe. Ma’n well a gwed y gwir na mynd mlan biti bywyd tragwyddol a’r nonsens ‘na i gyd.

  3. siantirdu yn dweud:

    Diolch, chi’ch dau.
    Dw i ddim eisiau i’r drafodaeth yma droi’n ddadl a oes ‘na Dduw neu beidio. Falle y cawn ni drafod hynny ryw dro eto!

    Dwi’n deall yr awydd i leddfu ofn angau ac fe allwn i ddeall anffyddiwr neu bagan yn dweud wrth blant bod rhywun annwyl yn seren yn yr awyr ar ôl iddo farw – ond Gweinidog yr Efengyl oedd hwn, mewn angladd Cristnogol.

  4. Huw yn dweud:

    Byse dweud fod yr ewythr wedi troi’n angel ddim yn well?

  5. PyrplFish yn dweud:

    Dwi’n meddwl bod o’n creu problemau at y dyfodol os wyt ti’n dweud rhywbeth fel yna wrth blant. Pan fyddan nhw’n ddigon hen i ddarganfod nad gwir yr hyn a glywsant, pa bethau eraill sydd yn cael eu dweud yn yr Eglwys fyddan nhw’n eu amau?

  6. Pysgodyn_Piws yn dweud:

    Gyda llaw Sian, wedi ail-bobi fy mlog (Dyma fy Stori) sy’n golygu fod y ddolen iddo yn dy flogroll wedi ffwndro braidd!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: