Slimyn bacwn yn y sinc

Ddoe, fe ddaethon ni o hyd i ystlum gwlyb ond byw yn sinc y gegin. Roddais i e mas i sychu ac yna’i roi ar gangen coeden. Fe aeth i gilfach fach yn y goeden ac yna ddiflannu. Gobeithio’i fod e’n iawn, druan.

Beth bynnag, fe gofiais mai “slimyn bacwn” roedd fy nhad yn galw “ystlum” – “slimyn” o “ystlum” a “bacwn” am eu bod nhw’n hongian o’r to i glwydo fel roedd pobl yn arfer hongian darnau mawr o gig moch ar fachau yn y gegin slawer dydd.
Wnaeth hynny i fi feddwl am ragor o eiriau bob-dydd fy nhad – amrywiadau tafodieithol ar eiriau safonol.

matryd (o ymddihatru) – am ddadwisgo – Os dwi’n cofio’n iawn, roedd hyn yn cynnwys tynnu dillad dydd a gwisgo pyjamas i fynd i’r gwely
dedrys (o datrys (clymau)) – am gribo gwallt
moelyd (o ymhoelyd) am “troi drosodd” neu “ddymchwel”. “O’dd y ddisgil wedi moelyd a’r dŵr yn mynd i bob man”

Gan ‘y mod i wedi symud o’r ardal, sgen i ddim syniad i ba raddau mae geiriau fel hyn yn cael eu defnyddio nawr.
Fyse hi’n drueni iddyn nhw fynd ar goll.

13 Ymateb i Slimyn bacwn yn y sinc

  1. Rosemary Ralphes yn dweud:

    Diddorol iawn ! Ga i roi dolen ar fy mlog i dy flog plîs.

  2. siantirdu yn dweud:

    Cei, siwr.

    Newydd feddwl am “gwinie danne” neu “danne gwinio” am “dant tost” neu’r “ddannodd” o’r gair “gwŷn” am “boen, artaith, brath”. Dw i ddim yn meddwl bod y ffurf unigol “gwŷn” yn cael ei defnyddio’n gyffredin ac, os dwi’n cofio’n iawn, roedd “gwinie danne” bob amser yn y lluosog hyd yn oed os mai un dant oedd yn dost. (Mae “gwŷn” hefyd yn gallu golygu pethau fel “nwyd, angerdd, mympwy, serch, chwant, drygchwant, eiddigedd, dicter, llid, cynddaredd” – gallai achosi dipyn bach o ddryswch!)

  3. Morfudd yn dweud:

    Siân

    Dwi dal yn matryd a moelyd pethe …

  4. siantirdu yn dweud:

    Whare teg i ti.

    Ti wedi’n atgoffa i o un arall:
    “dwyno” yn dod o “difwyno”

    Ond “trochi” oeddet ti’n ddweud – Mae’n ddifyr pa mor wahanol oedd dy iaith di a’n un i – dylanwad ein mamau (yn bennaf) – Llanpumsaint a’r Cei ar ddau gyfandir gwahanol! Ond, hyd y cofia i, “dwyno” oedd ‘y nhad yn gweud hefyd – yn wir, dim ond â ti dwi’n cysylltu “trochi”!

    Ac un arall, diolch i Catrin ar Twitter:
    tannu yn dod o taenu (efallai yn ôl GPC)
    “catrinms Dwi’n dal yn dweud matryd a moelyd – dim cymaint â dylsen i! A hefyd “tannu” (tanu ?) gwely – sef rhoi dillad glan ar y gwely.”

    Do’n i byth yn gwybod ai rhoi dillad ar lein ‘ta dod â nhw mewn oedd “tannu dillad” – ond fi’n gweld nawr, mae’n dod o “taenu”. (Ond mae GPC yn dweud efallai bod dwy ferf “tanu” a “tannu”)

  5. Rosemary Ralphes yn dweud:

    Ond dysgwraig ydw i, efallai dyna un wahaniaeth. Mae’n siŵr bod yr un peth yn digwydd yn Saesneg, ond mae’n ddiddorol iawn i mi. Dw i’n darllen llyfr ar hyn o bryd sy’n sôn am daith yr iaith dros yr blynyddoedd a sut mae hi wedi newid – dw i’n sôn am yr iaith Brythonig, ond mae’r iaith wedi newid o un genhedlaeth i’r llall.

  6. siantirdu yn dweud:

    Ac eto – pan o’n ni’n camfihafio roedd mam arfer dweud “Hawyr bach! beth sy’n bod arnoch chi?….”
    Newydd weld yn GPC bod “Hawyr” yn dod o “Ha wŷr!” – Mae’n swnio fel rhywbeth o’r Mabinogi

  7. cath yn dweud:

    Ymhle roedd hynny Siân? Yn Sir Gâr roeddem ni’n dweud moelyd – hyd yn oed am gar mewn damwain. A ‘tanu dillad’ sy’n od o debyg i’r Sbaeneg ‘tender la ropa’ a’r hen Saesneg ‘tenterhooks’. A ‘parro’r drws’ y byddem ni gyda’r nos, nid yn ei gloi. Bydd eisie gwefan gyfan arnat ti o fo’n hir.

  8. siantirdu yn dweud:

    Ym Mhencader y ces i fy magu ond roedd fy mam yn dod o Gei Newydd a ‘nhad o Bontweli.
    Postman oedd fy nhad ac roedd ganddo iaith bert ofnadw – er nad oedd e’n sylweddoli hynny.
    Roedd fy mam yn athrawes ac, am gyfnod, yn llai tebygol o ddefnyddio geiriau tafodieithol – byddai naill ai’n defnyddio geiriau ‘safonol’ neu hyd yn oed rai Saesneg – nappy, boyfriend, girlfriend – roedd hi’n difaru gwneud hynny wedyn dwi’n meddwl!

  9. Morfudd yn dweud:

    Tanu dillad ar y gwely, mynd mas a dillad i’r lein!

  10. Morfudd yn dweud:

    Wps, nes i wasgu anfon cyn beni’r frawddeg – mas i hongian dillad ar y lein.

  11. […] Meanwhile Siân Tir Du has been blogging pretty extensively about words lately. […]

  12. ceri yn dweud:

    Gwetiadau merched yw ‘datrys gwallt’ a ‘taenu gwely’.

    Mae gwallt menwod yn cobo am bo shwd cymid o wallt da nhw. Pan oen ni’n gryts, oen ni’n rytag tu ol y merched, doti dilo ar eu penna a rwto fel y jawl. Odd raid iddyn nhw ddatrys y gwalld wedyn – dad-danglo’r gwallt odd hwnna!

    Gair hen ffasiwn yw ‘tanu gwely’. Erbyn hyn ma menwod ond yn rhoi shiglad i’r ‘duvet’ a dyna ti – job done! Os ma nhw’n sgwyrto bach o ‘Febreze’ drost bobeth pob hyn a hyn, stim isha iddyn nhw olchi’r bygar am flwyddyn ne ddwy wedyn chwaith – mae gwaith menyw yn mynd yn rhwyddach rhwyddach bob munud, wir yr!

    Stim syndod bod hen eiriau tafodieithol gwaith menyw yn mynd ar goll. Dyn nhw ddim yn lico neud e ragor -wn i’m pam!

    Diolch i Dduw bod pobol fel Morfudd yn dal wrthi’n tannu dillad ar y gwely a hongad ei dillad ar y lein ne fysa rhywun yn meddwl bo pob menyw yn suffragette!! -)

  13. Morfudd yn dweud:

    Diolch Ceri! Lico’r syniad da’r Fabreze – na’i gofio hwnna tro nesa – sdim ishe boddran cario’r dillad lawr i’r afon i’w sgrwbo na aros am yr houl i ddod mas cyn mynd mas a’r dillad i’w hongian ar y lein!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: