Cynulleidfaoedd (1)

Mae Nic Dafis yn codi pwynt difyr yn Morfablog. Yn y cofnod Bygythiad Tawelwch, mae’n cyfeirio at sioe amlgyfrwng The Threat of Silence a welodd yn Theatr Mwldan.

Un peth wnaeth daro fi oedd bod teitl y darn yn uniaith Saesneg, ac er bod y testun sy’n ymddangos ar y sgrîn tu ôl i’r perfformwyr (o waith Margaret Cameron, o Awstralia) hefyd yn uniaith Saesneg, oedd Eddie Ladd yn adrodd, canu ac hyd yn oed ystumio y geiriau yn ddwyieithog, yn ei ffordd naturiol, hypnotig ei hunan. Pe tasai’r perfformiad wedi ei hysbysebu’n ddwyieithog, dw i’n siwr byddai Theatr Mwldan wedi gwerthu llawer mwy o docynnau. Er i mi weld sawl un dw i’n ei nabod o ardal Llangrannog, doedd dim llawer o Gymry Cymraeg yna o gwbl. Colled mawr.

Mae hyn yn codi ambell i gwestiwn difyr:
1) Pam nad oedd sioe ddwyieithog wedi cael ei hysbysebu’n ddwyieithog? Mae’r teitl yn swnio hyd yn oed yn well yn Gymraeg. Ai rhag ofn dychryn y di-Gymraeg ‘ta dim ond heb styried y potensial i ddenu mwy o Gymry Cymraeg?
2) Pam y mae Cymry Cymraeg yn gyndyn o fynd i bethau diwylliannol sy ddim yn Gymraeg? Fues i’n gweld Côr Siambr Philharmonig Estonia yn Galeri, Caernarfon yn ddiweddar. Roedd yno gynulleidfa weddol ond, o beth glywn i, roedd yno lawer o Saeson. O gofio bod cynifer o Gymry Cymraeg yn canu mewn corau o fewn rhyw 20 milltir i Gaernarfon a bod hwn yn cael ei gyfrif yn un o’r corau gorau yn y byd, roedd yn dipyn o syndod nad oedd mwy ohonom yno.
Rwy wedi sylwi ar hyn mewn digwyddiadau Saesneg a rhai gan gwmniau tramor o’r blaen. Wrth gwrs, mae’n well bod Cymry Cymraeg yn mynd i bethau Cymraeg nag yn peidio â gwneud ond tybed ydyn ni’n rhy dueddol o sticio at y cyfarwydd?
3) Roedd nifer go dda o Saeson – mewnfudwyr mae’n debyg yn ôl eu hacenion – yng nghyngerdd y côr o Estonia er nad oedden nhwythau, fwy na ninnau, yn deall yr un gair o’r caneuon. Ond rwy’n cael yr argraff mai ychydig o’r Saeson hynny fyddai’n ystyried dod i gyngerdd gan gôr lleol, da. Snobyddiaeth? Diffyg ymdeimlad o berthyn?

Jest cwpwl o sylwadau.

4 Ymateb i Cynulleidfaoedd (1)

  1. Nic Dafis yn dweud:

    Yn achos y sioe gwelais i, dw i’n credu taw “heb styried y potensial i ddenu mwy o Gymry Cymraeg” yw’r rheswm mwya tebyg, ac heb gyfraniad Eddie Ladd fyddai’r sioe wedi bod yn hollol Saesneg. Ac, man a man cyfadde, fyddwn i ddim wedi mynd i’w gweld. Roedd presenoldeb Eddie wedi rhoi cydestun Cymraeg i’r sioe, ac wedi ehangu arwyddocâd y gair “tawelwch”.

    Fel ti’n dweud, mae’n broblem â dwy ochr (oes taw problem yw hi, hefyd). Cwpl o fisoedd yn ôl, wnes i sgwennu am sioe “Diwedd y Byd” gan gwmni Troedyrhiw. Dyna i chi gwmni sy’n hollol agored ynglyn â phwy yw eu cynulleidfa (cymunedau Cymraeg y Fro). Ac er iddyn nhw wneud mwy o ymdrech denu pobl o “du allan” i’r sioe, roedd y cynulleidfa yn y perfformiad yn Llangrannog bron yn ddi-eithriad yn Gymry Cymraeg. Doedd dim un o’r rhai a deithiodd i Aberteifi i weld sioe Jill Greenhalgh wedi dod i “gefnogi” sioe yn eu pentre eu hunain. Roedd y perfformiad hwnna yn ddi-Saesneg, ond wedi sgwennu’n fwriadol i adael i bobl di-Gymraeg i mewn i’r profiad.

    Dw i’n credu taw “diffyg ymdeimlad o berthyn” yw sail y mater, ac ar ben hynny i diffyg teimlad “cyfrifoldeb cefnogi”. Mae hwnna’n rhywbeth dyn ni ddim yn trafod yn ddigon agored, falle. Yn achos y ddwy sioe uchod, es i i’w gweld oherwydd ro’n i wir eisiau eu gweld, ond nid yw hynny’w wir bob tro. Fel awgrymais i, prin iawn fyddwn i wedi mynd i “gefnogi” sioe uniaith Saesneg, braidd yn avant-garde, oni bai mod i’n nabod, ac edmygu, un o’r artistiaid ynddi.

    Rhywbeth pwysig arall yw’r ffaith bod pethau yn cael eu hysbysebu’n wahanol iawn i’r ddau gynulleidfa ieithyddol. Yn y Teifi-Seid, papur lleol Saesneg-ar-y-cyfan, darllenais i am sioe “Threat of Silence”, ac ym mhapur bro Y Gambo gwelais i fanylion sioe Troedyrhiw. Does byth sôn am bethau gwych (ond yn ddi-Gymraeg) yn y Gambo, ac i rai pobl, dyna eu social diary am y mis.

    (Sori am fod yn hir-wyntog; dalaist ti fi wrth i’r coffi cico mewn.)

  2. siantirdu yn dweud:

    Difyr iawn, iawn, Nic. Cymer baned arall i ni gael clywed mwy!

    Mae “cyfrifoldeb cefnogi” yn rhywbeth dw i’n bwriadu sôn amdano yn “Cynulleidfaoedd (2)” pryd bynnag y bydd hynny – ond mae croeso i unrhyw un gynnig sylwadau amdano yn fan hyn.

  3. Rhys yn dweud:

    Mae’r pwnc uchod yn hynnod ddifyr, ond eisiau sôn am goffi ydw i (wel, mae’n lled berthnasol gyda sylw Nic).

    Sori Siân, doedd dim digon o le ar Twitter i osbonio hyn. Parthed coffi Masnach Deg. Dwedais i bod CAfe Direct Classics yn ffiaidd gan mai dyna oedd ar y tun yn y gwaith. Pan es i adre, dyna hefyd oedd ar ochr y tun yn ein cegin, ond bod y coffi yn edrych yn gwbl wahanol. Pan holais yny gwaith bore ‘ma, am ryw reswm mae nhw wedi bod yn ail-lenwi tun CafeDirect gyda coffi Tradcraft!

    Felly o ran coffi instant (sef dolen wan cynnyrch masnach deg):

    CafeDirect Classics – Mae hwn reit esmwyth. Falle roedd yn rhyfedd ar y dechrau (oo’i gymharu a Kenco fel roedden ni arfer gael, ond o fewn dim chi’n dod i arfer. Efalai dyw ‘dod i arfer’ ddim yn swnio’n bositif, ond rhowch gynnig arno.

    Traidcraft a Clipper – osgoi fel y pla

    O ran te (mewn cwdyn):

    Mae’r pecynnu wedi newid rwan, ond dw i’n meddwl mai Tradaicraft African Gold ges i’n ddiweddar ac roedd yn dda iawn. Mae Traidcraft Every Day tea yn wan ofnadwy.

  4. nicdafis yn dweud:

    Roedd fy sylw hirwyntog uchod wedi’i bweru gan CafeDirect Classics, felly dw i’n eilio bob gair.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: