Ydw i’n afresymol?

Rhywun dwi’n ddilyn ar Facebook neu Twitter (dwi’m yn cofio pwy a dwi’n ffaelu ffeindio’r cofnod) newydd ddweud bod ei fab wedi bod ar raglen gwis ar S4C o’r enw Diwedd y Byd. O ran myrraeth mi gliciais ar y linc i weld y rhaglen. Tîm o Lanharri oedd ‘na – tua blwyddyn 7 swn i’n feddwl – ac roedden nhw’n ardderchog – annwyl a gwybodus.
Ond ddwywaith fe soniodd yr holwr am “dri llong” ac roedd ‘na gwestiwn ar y sgrin yn sôn am “y driongl”. Wir! Chware teg i’r plant!

Dwi’n gwbod nad ydi cenedl enwau bob amser yn amlwg yn y Gymraeg ond os nad ydi pobl broffesiynol sy’n ennill cyflog am weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn siŵr o’r pethau hyn, y peth lleia allan nhw ei wneud yw edrych mewn geiriadur, does bosib?
Mae’n gas gen i pan fydd pobl yn pigo ar ryw fân frychau iaith ond wir, mae ‘na’r fath beth â balchder proffesiynol!

Teimlo’n well nawr.

13 Ymateb i Ydw i’n afresymol?

  1. Huw yn dweud:

    Cytunaf.

    Yn aml fe cyfeirir at Saesneg safonol fel Saesneg y Frenhines, neu Saesneg y BBC gan adnabod fod gan y fath sefydliadau le mewn gosod safon ieithyddol. Buaswn yn disgwyl clywed Saesneg y BBC ar Radio 4, ond ddim ar Radio 1. Nid ydym yn ddigon ffodus i gael mwy nag un sianel teledu Cymraeg, neu radio Cymraeg cenedlaethol, felly i’r ddau gwasanaeth yma y dylwn ddisgwyl y gorau, neu o leiaf cywirdeb!

  2. Hogyn o Rachub yn dweud:

    Dwi’n cytuno Sian. A dwi’m yn meddwl ei fod o’n ormod i ofyn am gywirdeb, hyd yn oed ambell i gamgymeriad bach. Dwi’n meddwl bod y peth yn ymestyn hefyd at bethau sy’n derbyn arian cyhoeddus (Golwg360 yn arbennig – gall safon yr iaith yno fod yn wael iawn ar adegau yn fy marn i) – os wyt ti’n cael dy dalu i ofalu am safonau ieithyddol neu i ysgrifennu’n Gymraeg, gwna fo’n iawn!

  3. siantirdu yn dweud:

    Diolch!
    Ym mharagraff cynta Blog Golwg360 ddoe roedd sôn am “…hyd a lled y toriadau dros y pedwar mlynedd nesaf.” Fyse rhywun yn meddwl y byddai pethe fel hyn yn cael eu chwynnu rhywle yn y broses – darllen dros y gwaith, Cysill, geiriadur, isolygydd.
    Dwi’n gwybod bod rhai’n dadlau bod yr hyn rwyt ti’n ei ddweud yn bwysicach na’r ffordd rwyt ti’n ei ddweud e ond, os wyt ti’n cael dy dalu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg – yn athro, cyflwynydd neu ohebydd – mae’n siwr bod rhyw fath o gyfrifoldeb arnat ti i wneud dy orau i sgrifennu’n gywir.

  4. Hogyn o Rachub yn dweud:

    Cytuno i’r carn efo chdi. A dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn i sefydliadau fel S4C a Radio Cymru ac eraill sicrhau cywirdeb a safonau. Dwi ddim yn blismon iaith yn y lleia (gobeithio!) – dwi’m yn gofyn i bawb siarad fel John Davies myn diân – ond dydi gofyn am gadw at genedl enwau, er enghraifft, ddim yn orsafonol nag yn snobyddlyd, mae’n ddigon teg yn fy marn i, yn enwedig os oes cyfle i olygu a gwirio.

    Y peth anfaddeuol am Golwg360 ydi nid o reidrwydd fod y straeon eu hunain yn aml gydag ambell i gamgymeriad neu fod anghysondeb, heb sôn am ffordd ryfedd ar y diawl o gyfleu rhai pethau, ond bod hynny’n digwydd mewn erthyglau sy’n aml yn bedwar neu bum paragraff – mae’n dangos diffyg pwyll uffernol, neu olygu ofnadwy o esgeulus. Yn y cyd-destun hwnnw fentrwn i ddweud diffyg proffesiynoldeb … ond wna i ddim!

    Dwi ‘di bod isio deud hynny ers dipyn!

  5. siantirdu yn dweud:

    Dyma ochr arall y ddadl. Sylwadau Cris Dafis ar fy nghofnod Facebook:
    “Os oes rhaid edrych ar eiriadur cyn mentro sgrifennu rhwybeth syml yn y Gymraeg…mae’n awgrymu taw ar yr iaith y mae rhywbeth o’i le – ni y siaradwyr?
    Mae angen llacio “rheolau’r” Gymraeg neu ddim ond llond dwrn o bobl fydd yn gallu ei sgrifennu’n “gywir”. Mae rhai o’n rheolau yn fympwyol a dweud y lleiaf – yn ganlyniad i rywun neu rywrai yn penderfynu rywbryd ar sillafiad a gramadeg.
    Mae pigo ar fan frychau fel y mae’r rhan fwyaf ohonon ni sydd a’r allwedd yn dueddol o’i wneud ry’n ni’n codi ofn ar blant a dysgwyr.
    Mae pethe pwysicach na man reolau a ddyfeisiwyd.
    Cyfrwng cyfathrebu yw iaith – a dylai unrhwy iaith werth ei halen addasu i’w gwbeud hi’n haws cyfathrebu. Mae’r Gymraeg yn aml yn ei gwneud hi’n fwy anodd.”

  6. Ann Corkett yn dweud:

    “Cyfrwng cyfathrebu yw iaith” meddai Chris. Ydy, dyna pam mae mor bwysig cyfathrebu’r eglur. Mae ysgrifennu/siarad yn wael yn golygu’n aml y bydd pobl yn eich camddeall, neu’n diflasu ar drio’ch deall.
    “Os oes rhaid edrych ar eiriadur cyn mentro sgrifennu rhwybeth syml yn y Gymraeg…mae’n awgrymu taw ar yr iaith y mae rhywbeth o’i le – ni[d?] y siaradwyr?” Na, mae’n awgrymu nad yw’r awdur ddim yn ddigon cyfarwydd â’r iaith, fel y ferch yn y gerdd oedd yn meddwl bod “chwaer ysgaw” yn golygu “elder sister”.
    Ond a ydyn ni’n son am ddiffyg geirfa, ynteu diffyg gwybodaeth o reolau gramadeg. Mae bywyd cymaint yn haws o fod yn gyfarwydd â’r rheolau, fel mae dawnsio “ballroom” neu yrru car yn haws, ac yn fwy gosgeiddig, os nad oes angen ichi ddyfalu bob tro pa droed mae eich partner yn mynd i symud, neu ar ba ochr i’r ffordd y dylech yrru bore ‘ma. Gall beirdd a llenorion ac artistiaid dorri rheolau yn effeithiol iawn o dro i dro, er mwyn creu effaith, ond mae rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â’r rheolau’n gyntaf.

  7. Alwyn ap Huw yn dweud:

    Mae’n well gen i glywed Cymry yn siarad Cymraeg gwallus yn hytrach na siarad Saesneg da. Un o broblemau mawr yr iaith yw bod ambell i Gymro Cymraeg yn ofnus o ddefnyddio’r Gymraeg trwy ofn cael ei feirniadu am gamgymeriadau.

    Mae’n rhaid cael y Gymraeg cywiraf posibl gan ddefnyddwyr proffesiynol yr iaith megis darlledwyr, cyfieithwyr, athrawon ac ati ond mae disgwyl purdeb iaith yn gelyniaethu pobl yn erbyn y Gymraeg.

    O edrych ar y blogosffêr Gymreig, mae tri chwarter o’r rhai ohonom sydd yn rhannu ein perlau o wybodaeth yn iaith y nefoedd yn ail iaith, tra fo rhai o’r goreuon yn y fain yn cael eu hysgrifennu gan Gymry Cymraeg iaith gyntaf!

    O ran rhaglen cwis i blant ysgol yn y Gymraeg mae disgwyl lefel uchel o gywirdeb Cymraeg, ond beth am raglenni fel Pobl y Cwm, Ista’nbwl, Pen Talar ac ati? Onid ydy Cymraeg Marc a Chris a Dug yn rhy gywir? Ydy perffeithrwydd iaith y cymeriadau hyn yn tanlinellu’r myth andwyol mae’r unig Gymraeg derbyniol yw Cymraeg hynod gywir ei chystrawen a’i threigliadau?

    Onid os nad yw fy Nghymraeg cystal â methiant cymdeithasol fel Debbie Jones, waeth imi roi’r gorau i ddefnyddio’r Gymraeg yw neges Bobl y Cwm?

    • siantirdu yn dweud:

      Mae’n siwr, pe bai rhywun yn dadansoddi iaith cymeriadau Pobl y Cwm, ei fod dipyn cywirach nag y byddai iaith pobl debyg mewn bywyd go iawn. Ond camp Pobl y Cwm yw gwneud i hynny swnio’n naturiol. Dwi ddim yn meddwl bod yr iaith yn tynnu sylw ati’i hunan.

      • Ann Corkett yn dweud:

        Dyna bwynt da. Mae sgwrs drama fel arfer i fod i *swnio* fel sgwrs go iawn, ond er gwaethaf y cyffyrddiadau naturiol, bydd yn “daclusach” na sgwrs wedi’i recordio. Cymeraf, ‘tasech chi’n cymharu sgwrs yn y “Vic” neu’r “Rovers”, yng nghyfresi sebon Saesneg, a’r sgwrs mewn unrhyw dy tafarn yn Lloegr, buasech chi’n cael bod y sgript yn llawer mwy trefnus na sgwrs go iawn!

  8. eirian yn dweud:

    Hang on Cris! Da ni ddim yn son am agor geiriadur bob tro mae rhywun yn agor ei ben, neu’n blogio, neu’n trydar. Mae Sian yn son yn benodol am raglen sy’n cael ei sgriptio a’i recordio ymlaen llaw, neu erthygl papur newydd sydd i fod i gael ei olygu. Dw i’n meddwl ei fod yn reit resymol derbyn efallai bod ‘na wallau iaith yn ymddangos mewn pwt bach fel hyn, neu’n achlysurol yn anorfod mewn adroddiad byw ar deledu neu radio, neu mewn print yn achlysurol, ond ar y llaw arall, os ydi rhywun yn gwneud gwaith proffesiynol, ac os ydi rhywbeth wedi cael ei recordio, onid yw’n rhesymol disgwyl bod safonau iaith yn cael eu cadw?

  9. Dafydd Tomos yn dweud:

    Mae’n werth edrych ar beth sy’n digwydd yn y cyfryngau saesneg. Mae yna ddisgwyl safonau iaith ar gyfer cyflwynwyr proffesiynol ar y radio neu’r teledu ond mae yna wahaniaeth rhwng gwahanol feysydd.

    Mae sylwebyddion chwaraeon yn nodedig am eu diffygion ieithyddol ond oes disgwyl iddyn nhw fod yn berffaith? Mae yna wahaniaeth rhwng yr iaith ar Radio 1 a Radio 4 hefyd.

    Fe ddylai cyflwynwyr plant fod yn gallu siarad yn safonol yr un fath ac athrawon (wrth gwrs fe all safon iaith rhai athrawon fod yn wael, ond dy’n nhw ddim yn darlledu’r peth i’r genedl).

    O ran ysgrifennu proffesiynol, does dim esgus dros beidio defnyddio gwirwyr sillafu/gramadeg ond mae cysondeb yn bwysig hefyd. Er enghraifft, ar Golwg360 dwi wedi gweld storiau gan awduron gwahanol yn sôn am ‘broffwydo’r tywydd’ a ‘darogan y tywydd’. Mae’n well gen i’r ail ond beth am gysondeb?

  10. Nic Dafis yn dweud:

    > Chris Dafis: ry’n ni’n codi ofn ar blant a dysgwyr.

    Wel, wn i ddim am y plantos druan ond peidiwch â phoeni am y dysgwyr. Mae Cymraeg safonol yn llawer haws i ddeall nag unrhyw tafodiaith arall, yn fy mhrofiad personol i, ac yn ôl pob tystiolaeth dw i wedi clywed a darllen.

    (Tafodiaith yw “Cymraeg safonol” hefyd, wrth gwrs, dim ond ei bod hi ddim yn glwm wrth tirogaeth penodol.)

    Cydestun yw popeth, fel mae sawl un wedi sôn uchod. Pam dw i’n gallu gwrando ar rywbeth fel podlediad Jazzffync a Gemau Fideo a’i fwynhau ma’s draw, er bod Cymraeg y ddau sy’n cyflwyno’n llawn geiriau Saesneg. Dyna eu tafodiaeth nhw, ac mae’n swnio’n hollol naturiol i fi, ac yn wahanol iawn i’r fath o Gymraeg “ffantastig” sydd i gael ar Radio Cymru weithiau. Fan ‘na, mae dyn yn gallu clywed y dyfynodau o gwmpas bob ymadrodd Seisnig, bron â bod.

  11. Rhys yn dweud:

    Tra da ni rthi’n ‘enwi a chwilyddu” (ouch!), mae clywed Aled Samuel yn cyfeiro at yr ‘ystafel hwn’ byth a hefyd yn reit blinedig ar ol gwylio sawl cyfres o 04 Wal, Ty Cymrieg, Gwestai’r Byd…

    Tydy o ddim yn ddiwedd y byd (a tydy fy Nghymraeg i ddim yn berffaith), ond mae’n anghywir ac mae modd ail ddweud pethau wrth recordio rhaglen sydd ddim yn fyw. Mae’n amlwg nad ydy o’n gwybod bod o’n dweud dim o’i le, ond basech chi’n meddwl byddai rhywun o dim cynhyrchu yn ei gywiro a gwneud iddo ail ddweud brawddeg gwallus.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: