Nadolig Llawen gan Wallace a Gromit

Ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ceir apêl gan Andrew Lenny, y Llywydd presennol. Mae’n cyfeirio at y ffaith mai lluniau’r cymeriadau digri Wallace a Gromit sydd ar stampiau Nadolig newydd y Post Brenhinol eleni ond bod stampiau â llun Mair a’r baban Iesu wedi’u rhyddhau hefyd ar gyfer y bobl sy’n dymuno’u defnyddio. Dywed Andrew Lenny:

Gofynnwch am y rhain pan ewch i Swyddfa’r Post neu’r siop leol, a beth am annog aelodau eraill o’ch eglwys i wneud hynny hefyd? Mae’n ffordd syml o fynegi ein tystiolaeth fel Cristnogion yn y byd – yn rhywbeth y gall pawb ei wneud.

Hyfryd. Ardderchog. Fe wnes i drefnu i gyhoeddi hyn yn ein capel ni neithiwr ac annog y gynulleidfa i ofyn am y stampiau a’r lluniau Cristnogol arnyn nhw.

Mae’r stori wedi cyrraedd y Daily Post (Welsh vicar slams Wallace and Gromit stamps) a Golwg360 (Stampiau Wallace and Gromit yn Anghristnogol) hefyd. Mae’r Daily Post yn galw Andrew Lenny yn “vicar” sy’n arwydd o anwybodaeth gohebwyr cyfryngau Cymru am ein diwylliant ac mae’r pennawd yn fwy eithafol na chynnwys y stori – ond mae stori Golwg360 ychydig yn wahanol. Yn ogystal â’r anogaeth i ddefnyddio’r stampiau “Cristnogol”, mae’n honni mai dim ond rhai “Cristnogol” y dylid eu cyhoeddi.

Pan ymddangosodd y stori ar Golwg360 gyntaf, enw Alun Lenny oedd ynddi ond cafodd ei newid wedyn i Andrew Lenny a “llefarydd”. Nawr, Andrew Lenny yw Llywydd Undeb yr Annibynwyr ond Alun Lenny, ei gefnder, yw’r Swyddog Cyfathrebu. Pe bai’n rhaid i mi roi fy mhen ar y bloc, fe fentrwn mai steil Alun yn hytrach nag Andrew a welwn mewn rhannau o stori Golwg360. (Mae’n bosib hefyd bod Golwg360 wedi “addasu” rhai o’r dyfyniadau.)

“Yn ôl y cyfrifiad diwethaf roedd tua 70% o bobol Cymru yn ystyried eu hunain yn Gristnogion.

“Felly ry’n ni’n teimlo na fyddai’n afresymol disgwyl i’r Swyddfa Bost gyhoeddi stampiau o’r Geni yn unig a dim byd arall,” meddai.

Wot??! Mae Alun Lenny’n hoff iawn o ddyfynnu’r ffigwr hwn o 70% er ei fod yn gwybod cystal â neb, am wn i, nad yw’n adlewyrchiad cywir o sefyllfa Cristnogaeth yng Nghymru. Mae pobl wedi bod yn dweud wrth lenwi’r Cyfrifiad mai Cristnogion ydyn nhw am nifer o wahanol resymau ond dwi’n rhagweld gostyngiad eitha dramatig yn y Cyfrifiad neu ddau nesaf. Mae pobl yn dod yn fwy onest ynglŷn â’u cred/diffyg cred.

Pwy yw’r “ni” yma? A sut fydden “ni’n teimlo” pe bai dim ond 30% o bobl Cymru’n dweud ar y cyfrifiad nesa eu bod yn “ystyried eu hunain yn Gristnogion”? Neu pe bai’r Post Brenhinol yn cyfeirio at y ffaith mai “Dim ond tua 15% (?) o bobl Cymru sy’n mynd i gapel neu eglwys”. Fydden “ni’n teimlo” na ddylid argraffu stampiau â lluniau Cristnogol o gwbl wedyn – o ddilyn rhesymeg y dyfyniad uchod? Mae ystadegau’n bethau peryg i’w taflu o gwmpas!

Yn fy marn i, job y Post Brenhinol yw dosbarthu llythyrau, nid efengylu. Rhan, yn unig, o’r Nadolig cyfoes yw’r wedd Gristnogol ac mae’r Post Brenhinol yn cydnabod y wedd hon trwy gyhoeddi stampiau newydd â lluniau Cristnogol bob yn ail flwyddyn a sicrhau bod “degau o filiynau” o rai felly ar gael eleni i’r sawl a’u mynn.

Mae’r Scottish Daily Express wedi mynd dros ben llestri’n llwyr am y peth â’u pennawd “Royal Mail bans religion” – “Church leaders are furious …”

Mae Jonathan Bartley yn ymateb i hyn yn ei flog ar wefan ddifyr Ekklesia. Roedd wedi rhagweld yr hw-ha ym mis Medi – mae’n codi bob yn ail flwyddyn pan gyhoeddir y stampiau â’r lluniau seciwlar, meddai fe, gan ychwanegu bod ganddo ffrind o Gristion efengylaidd yn gweithio i’r Post Brenhinol yn delio â gohebiaeth a chwynion:

“He used to tear his hair out every time these stories cropped up. He felt that these stories made Christians look incredibly stupid. I am inclined to agree with him.”

Efallai bod “incredibly stupid” yn gor-ddweud yn gyffredinol (er bod rhai o’r sylwadau ar wefan y Scottish Express yn anhygoel o ddwl) ond fyswn i’n cytuno bod gan Annibynwyr a Christnogion yn gyffredinol bethau pwysicach o lawer i boeni amdanyn nhw na Wallace a Gromit.

2 Ymateb i Nadolig Llawen gan Wallace a Gromit

  1. Alwyn ap Huw yn dweud:

    Mae’n draddodiad ers peth amser i’r Post creu stampiau crefyddol a seciwlar pob yn ail flwyddyn; tro’r stampiau seciwlar yw eleni – bydd cyfres y flwyddyn nesaf yn grefyddol.

    Yn dilyn y traddodiad yma mae crefyddwyr ac anghredinwyr yn gweld cyfle i ddanfon rant i’r papurau newyddion am wadu / gwthio crefydd bob yn ail flwyddyn; tro Undeb yr Annibynwyr i gwyno yw eleni – bydd cwyn y flwyddyn nesaf yn dod gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain.

    Mae cwyn am stampiau gan y naill ochor neu’r llall yn draddodiad mor annatod o’r Nadolig ac yw mins peis a doethion bellach.

  2. […] ymwneud â seciwlariaeth a lle crefydd o fewn cymdeithas. Mae hi’n rhesymol iawn wrth ymateb i sylwadau’r Annibynwyr ynghylch stampiau Nadolig, ac hefyd wrth sôn am addoliad gorfodol mewn ysgolion. Dyma ychwanegu […]

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: