CADW neu golli?

Beth fyddai orau gennych chi ei weld mewn pentref?

Capel mawr hardd yn dal 700 o bobl, galeri helaeth, gwaith coed cywrain ar y seti, y pulpud a’r sêt fawr, a’r ffenestri a’r to yn ddiddos. Ond y gynulleidfa fach wedi’i llethu gan gyfrifoldeb gofalu am yr adeilad ac yn methu symud ymlaen â’i chynlluniau i ddatblygu’r achos am fod yr adeilad yn llyncu eu holl adnoddau.

Neu

Cwrt taclus, o flaen festri sy’n dal tua 100 o bobl. Yn ogystal â’r oedfaon a’r cyfarfodydd arferol, mae gwaith plant, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol yn cael eu cynnal o dan arweiniad gweinidog neu weithiwr cyflogedig.

I’w roi ar ei symlaf – gallai cadw’r capel ar ei draed ladd yr achos Cristnogol.

Dyna’r sefyllfa sy’n wynebu llawer o eglwysi anghydffurfiol heddiw – ac mae’n ymddangos nad oes ganddyn nhw lais yn y mater.

Fe wnaeth Vaughan Roderick drydar yn ddiweddar ei fod yn “Casau’r ystrydeb nad adeilad yw’r Eglwys.” gan esbonio, “Buildings mean something.” (Rhagfyr 1). Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn torri ei galon am fod capel y Tabernacl, Cwm-gors lle bu ei dadcu’n weinidog am 40 mlynedd, yn cau.

Daeth hyn drannoeth cyfarfod rhwng aelodau ein heglwys ni a swyddog cadwraeth a ddywedodd, fwy neu lai, nad oedd gennym ddewis ond pwmpio arian i mewn i’n capel enfawr ni er na fydd mo’i angen byth eto fel y mae. Gan ei fod wedi’i restru gan CADW, chawn ni ddim o’i dynnu i lawr. Fe gawn ni ei werthu neu ddarganfod defnydd arall iddo. Ond pwy brynith gapel mawr ynghanol pentre heb le parcio, o gofio bod capel arall, mwy hwylus, ar werth yn y pentre ers dwy flynedd? A beth all rhywun ei wneud â’r adeilad o gofio am gyfyngiadau llym CADW? Hyd yn oed tyse rhywun yn cael syniad am rywbeth i’w wneud ag e, byddai’n rhaid buddsoddi cannoedd o filoedd i’w wneud yn ffit at unrhyw ddefnydd arall. Mae rhai’n rhyw led obeithiol y daw diwygiad ac y bydd angen capel mawr eto ond hyd yn oed pe bai hynny’n digwydd, go brin mai capel traddodiadol â chorau coed sefydlog a sêt fawr a phulpud a galeri fyddai ei angen. Felly, mae’n edrych yn debyg bod disgwyl i’r eglwys daflu arian i mewn i gadw’r adeilad yn ddiogel ac yn daclus am gyfnod amhenodol nes bod rhyw swyddog yn rhywle yn penderfynu y cawn ni stopio. Erbyn hynny, beryg y bydd hi’n rhy hwyr ar yr achos.

Oni fyddai’n well i ni gael defnyddio’r arian er lles yr achos Cristnogol a’r gymuned?

Felly, er mod i’n cytuno â Vaughan, sydd hefyd wedi blogio am ei deimladau, bod capeli yn agos at galonnau’r Cymry a’i bod yn drist gweld capel yn cau, o’n safbwynt i, mae’r achos a phobl y pentre yn golygu mwy nag adeilad.

Mae Vaughan yn “teimlo bod gan rywun ddyled a dyletswydd i aelodau ‘r teulu – hyd yn oed y rhai sydd wedi ein gadael” ac mae hyn yn deimlad cryf yn ein cymdeithas. Does dim sicrwydd y byddai Cwrdd Eglwys yn penderfynu dymchwel y capel hyd yn oed pe bai gennym ryddid i wneud hynny – o barch i’r “hen bobol”. Fy nadl i yw bod yr “hen bobol” wedi gwneud beth oedd yn addas iddyn nhw ar y pryd. Roedden nhw’n cwrdd mewn beudy neu barlwr tra oedd hwnnw’n addas, yna’n codi capel bach, yna gapel chydig bach mwy ac wedyn capel anferth, fel yr oedden nhw’n gweld yn dda ar y pryd. Oni fydden nhw’n dymuno i ni wneud beth sy’n addas i ni, heddiw?

12 Ymateb i CADW neu golli?

  1. Rhys Llwyd yn dweud:

    Mae Cadw yn asiantaeth ddrwg iawn iawn.

  2. Mari yn dweud:

    Mae’r tri enwad Anghydffurfiol mewn trafodaeth a Cadw er mwyn trio lleddfu tipyn ar y broblem yma. Mae’n debyg fod Cadw yn gweld nad ydi’r sefyllfa bresennol yn elwa neb felly y gobaith yw y byddant yn dewis, dyweder, 20 esiampl arbennig i’w diogelu ar hyd a lled Cymru. Mae’r trafodaethau yn parhau…

  3. siantirdu yn dweud:

    Diolch Mari – mae hynny’n rhyw gysur!

  4. Dyfed yn dweud:

    Cytuno’n llwyr efo ti, Siân – ar wahân i un sylw hanesyddol. Rwyt ti’n iawn yn dweud fod datblygiad wedi bod ers dyddiau cynnar anghydffurfiaeth o’r ty i’r beudy, o’r beudy i gapel bach pwrpasol, yna capel mwy. Ond yn chwarter olaf y 19 ganrif fe godwyd capeli mawr iawn, crand iawn – a doedd dim angen y mwyafrif ohonynt. Yn amlach na pheidio roedd a wnelo cystadleuaeth enwadol afiach fwy â’r adeiladau mawr hyn nag unrhyw angen ysbrydol.

    Yr un yw’r canlyniad wrth gwrs – y genehdlaeth bresennol yn dioddef ac arian sylweddol yn mynd ar adeiladau diangen.

    Y tristwch ydi bod sentimentaliaeth yn ein rhwystro rhag datblygu. A rhaid gofyn cwestiynnau ysbrydol go ddyfn ynghylch y sefyllfa oherwydd hynny.

  5. siantirdu yn dweud:

    Rhys – dy neges wedi mynd i sbam eto! Dw i ddim yn gwybod am “ddrwg iawn iawn”. Mae’n siwr o fod angen rhyw ddull o warchod ein hadeiladau traddodiadol – er nad ydyn ni’n cytuno â’u pwyslais nhw bob amser. Gobeithio y daw’r cynlluniau y mae Mari’n sôn amdanyn nhw yn wir.

    Dyfed – Ti siwr o fod yn iawn – i raddau beth hynnag. Roedd gen i frawddeg yn dweud rhywbeth felly ond fe dynnais hi rhag cymhlethu’r sefyllfa. Fe dreiais i fod yn amwys wrth ddweud “fel yr oedden nhw’n gweld yn dda”! Serch hynny, mae’n siwr y gellid dadlau hefyd mai eisiau rhoi eu gorau i Dduw oedd yr “hen bobl” a’u bod yn hyderus yn nyfodol yr achos.
    Clywais ddarlith ardderchog gan Alun Tudur ar y mater yma yn Undeb yr Annibynwyr yn Aberystwyth yn 2001 – http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1085539/llgc-id:1088962/llgc-id:1088969/get650

  6. […] This post was mentioned on Twitter by Siân Eleri Roberts, Blogiadur. Blogiadur said: CADW neu golli?: Beth fyddai orau gennych chi ei weld mewn pentref? Capel mawr hardd yn dal 700 o bobl, galeri h… http://bit.ly/i8xGq2 […]

  7. Vaughan yn dweud:

    Wrth ddweud fy mod yn “teimlo bod gan rywun ddyled a dyletswydd i aelodau’r teulu – hyd yn oed y rhai sydd wedi ein gadael” cyfeiro oeddwn i at gofeb fy nhadcu nid yr adeilad gyfan. Roedd hynny’n gwbl eglur yn y post fy marn i.

  8. siantirdu yn dweud:

    Vaughan, Mae’n ddrwg gen i os gwnes i gamliwio’r sylw. Do’n i ddim yn bwriadu gwneud hynny.

  9. Menna Machreth yn dweud:

    Blog da iawn Siân. Cytuno’n llwyr.

  10. Siân yn dweud:

    Mae Alun Lenny, Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn gwneud y pwynt yn y Western Mail heddiw:

    “The chapel buildings have become such a millstone round the necks of congregations that it is seriously time for us to think in a different way,” he said.

    “There are chapels with hundreds of thousands of pounds in the bank who are afraid to employ ministers because they are afraid the money will be needed to maintain the building at some point.

    “This frustrates the true reason for having the chapel in the first place, as a meeting place.

    “They are sucking the financial resources of dwindling congregations which would be better spent on encouraging more people to join them in propagating the gospel.

    Read More http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2011/03/30/welsh-chapels-disappearing-at-rate-of-one-a-week-91466-28426606/#ixzz1I4IPBkGi

  11. cathasturias yn dweud:

    dere nol i dy flog plis! Mae’n bwysig ein bod fel merched yn blogio

  12. siantirdu yn dweud:

    Diolch! Prysurdeb a diogi!
    Diolch am dy flog di!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: