Yn y Gwyll yn ymgolli … weithiau

llun gwyllYchydig iawn o deledu fydda i’n wylio.  Rwy’n hoffi dramâu 9 o’r gloch nos Sul S4C a Stella a Borgen pan fyddan nhw ymlaen ond ychydig iawn fydda i’n ei wylio’n rheolaidd fel arall.

Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Gwyll. Drama Gymraeg sylweddol, gyffrous, fodern gydag actorion da, wedi’i ffilmio yn ardal yr hyfryd Aberystwyth!

Daeth y stori gynta ac ro’n i’n ei gwylio ar fy mhen fy hunan wrth smwddio (Protestant work ethic, alla i ddim cyfiawnhau eistedd am awr yn gwneud dim byd!). Cyflwyniad da i’r cymeriadau – ddaethon ni i’w nabod nhw (i’r graddau roedden ni i fod i’w nabod nhw) yn eitha sydyn. Golygfeydd dramatig. Stori’n eich tynnu chi i mewn. Cwpwl o acenion doji ond allwn i faddau hynny. Ond roedd hi braidd yn rhy arswydus at fy nant i. Yn wir, erbyn canol yr ail bennod, ro’n i’n teimlo mor anesmwyth, mi benderfynais nad o’n i am arteithio fy hunan bellach, jest am ei fod yn Gymraeg, ac fe sleifiais i’r gwely’n o slic a chuddio dan y dillad.

Ges i gwmni Elis a Megan i wylio’r ail stori.  Roedd hynny’n gwneud i mi deimlo’n fwy cyfforddus o lawer. Yn wir, ro’n i’n teimlo mor gyfforddus, fe gysgais i tua hanner ffordd trwy’r ail bennod a cholli’r diwedd. (Do’n i ddim yn smwddio – ro’n i’n eistedd ar y soffa fel trît am fod y plant gartre!) Y lluniau sydd wedi aros yn fy meddwl yw cymeriad Llion Williams yn dod rownd talcen byngalo a Mathias yn achub hen wraig o’r môr. Dwi ddim wedi ailwylio i weld pwy wnaeth.

Erbyn hyn, ro’n i’n rhyw ddechrau sylweddoli mai llofruddiaethau fyddai ym mhob pennod. Ro’n i’n cael hyn braidd yn anodd i’w lyncu ac yn meddwl ei fod dipyn yn ddiflas. Siwr y byddai swyddfa heddlu’n cael troseddau eraill difyr i’w datrys. Soniais ar twitter mod i’n gobeithio am amrywiaeth a chefais fy mherswadio mai cyfres fwrdwrs oedd hi gan @rhysllwyd a rhywun hollol ddierth o’r enw @nerpipi1: “Ma hwnna fel dweud ‘gobitho bydd rhywun tennau ar fat club wythnos nesa’! ‪#shutup”. Charming!

Fe gymerais eu cyngor nhw a bodloni i atal fy anghrediniaeth. Wedi’i cyfan, do’n i ddim yn cael trafferth i “gredu” yn Morse, slawer dydd. Ges i fwy o flas ar y drydedd stori. Ar fy mhen fy hunan eto. Wnes i eitha mwynhau hon ond roedd ’na wendidau eitha sylfaenol yn y plot. Sbwyliwr: Sut na fyddai menyw’r dafarn yn nabod sgrifen ei ffrind nac yn gwybod ei bod ar ei gwyliau yn Iwerddon pan anfonwyd y cerdyn?  Ches i mo’n argyhoeddi gan y pwl o ddryswch gafodd Mathias ar y dechrau chwaith. Ond roedd yn ddigon derbyniol.

Ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr at y stori olaf. Ro’n i’n disgwyl i ambell ddirgelwch am y cymeriadau gael ei ddatrys. Ro’n i wedi deall o twitter bod hon yn stori arswydus hefyd ac fe ofalais bod llwybr clir rhwng y teledu a’r gwely rhag ofn y byddwn i am sgrialu trwy’r tywyllwch!

Mi ddechreuodd yn dda – yn dda iawn! Roedd y golygfeydd agoriadol â’r ceffylau gwyn yn erbyn y dŵr a’r awyr las, ac wedyn ffrog goch Alys yn eithriadol o drawiadol. Ond wedyn, fe gollodd ei gafael. Doedd ymateb pobl i farwolaeth Alys ddim yn fy argyhoeddi i a doedd agwedd Mathias wrth holi pobl ddim yn taro deg chwaith. Doedd y plot ddim yn glynu – sbwylers eto: y ffôn, y model, y drws cudd, y gusan, y rhyw, yr ymateb i’r ymosodiad ar y gors, anwybodaeth am dad Alys (y ddau),etc .  Ro’n i mor siomedig! Ro’n i wedi paratoi i gael fy arswydo ac fe ges i’n siomi!

Ond wnes i hoffi’r olygfa Morseaidd yn y coleg, a’r cyfeiriadau at Blodeuwedd (oedd ’na ddehongliad od?), a’r olygfa ar y diwedd gydag Aneirin Hughes.   Mae ’na lot mwy i’w ddatgelu amdano fe – a’r prif gymeriadau i gyd o ran hynny. Ro’n i’n disgwyl y byddai cymeriad Geraint Lewis yn y bennod gyntaf yn rhedeg trwy’r gyfres i gyd. Gobeithio y daw nôl yn y gyfres nesa.

Ac yn y gyfres nesa – dwi’n gwybod nad yw dwyawr yn lot i ddatrys llofruddiaeth a bod ’na elfen o ddirgelwch i fod – ond swn i’n licio tysen nhw’n ymlacio dipyn bach. Does neb byth yn dweud “Mae’n oer/braf/wyntog.” / “On’d odyn ni wedi cael lot o fwrdwrs yn ddiweddar?” Byddai tipyn o banter a jôc neu ddwy yn dda hefyd.

Mae ’na ddigonedd o lefydd atmosfferig gyda chysylltiadau “Cymreig” i’w cyflwyno i gynulleidfa ddi-Gymraeg o hyd – y Llyfrgell Genedlaethol, eglwys Llanbadarn/Ystrad Fflur/Brogynin, ardal Goginan, Neuadd Pantycelyn, llu o blastai, ac enwau awgrymog ar gyfer llofruddiaethau fel Pen-bont Rhydybeddau!

Ond dwi’n dal yn dweud y byddai’n dda cael achos heblaw llofruddiaeth i’w ddatrys.

2 Ymateb i Yn y Gwyll yn ymgolli … weithiau

  1. EmlynUwchCych yn dweud:

    A does neb byth fyth yn gwenu. Mae eisiau llond wilber o Prozac ar y cymeriadau, on does?

  2. Melfyn Clwyd Roberts yn dweud:

    Er gwybodaeth, bydd Hinterland yn cychwyn ar BBC One Wales nos Sadwrn, Ionawr 4ydd. Dyma’r datganiad i’r wasg a fideo o gyfweliad gydag aelodau o’r cast a’r criw:
    http://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2013/181213hinterland.html
    Gobeithio bod y wybodaeth o ddefnydd.
    Hwyl,
    Melfyn

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: