Profiadau annifyr â’r traed – yn Gymraeg yn unig!

Screen shot 2014-05-09 at 9.49.11 AM

Gweld ar Twitter bore ma bod @AlexpolisTigers wedi aildrydar linc at Gorgeous Illustrations of Untranslatable Words from Different Languages –

Mae rhai ohonyn nhw’n hyfryd iawn!

http://designtaxi.com/news/365461/Gorgeous-Illustrations-Of-Untranslatable-Words-From-Different-Languages/

A dyma fi’n meddwl pa eiriau anghyfieithiadwy sy gennym ni yn Gymraeg – heblaw am “hiraeth” ac “Eisteddfod”.

Digwydd meddwl am “sodlo” – hynny yw, damsgen ar sawdl rhywun wrth gerdded y tu ôl iddyn nhw.  Mae hwn yn digwydd yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru gyda’r diffiniad “to tread on someone else’s heels”.  Hen brofiad annifyr iawn yw cael rhywun yn eich sodlo!

Wedyn feddyliais i am air arall – hefyd i’w wneud â’r traed, a chwilio amdano o fewn rhyw dudalen i “sodlo”, sef “socsan”.  Rwy’n tueddu i feddwl am “sodlo” fel gair y de, a “socsan” fel gair y gogledd ond doedd dim sôn am “socsan” na “socsen” yn GPC.

Screen shot 2014-05-09 at 9.41.55 AMMae hwn yn brofiad annifyr hefyd – cerdded mewn cae gwlyb neu roi’ch troed mewn pwll dŵr ar y pafin fel bod y dŵr yn mynd dros eich esgid ac yn gwlychu’r traed gan neud i’ch sanau sgweltshan.

Tybed oes geiriau ar gael am y rhain mewn ieithoedd eraill?

Rhywun yn gallu meddwl am ragor?

 

Screen shot 2014-05-09 at 11.00.16 AMMethu rhoi lluniau wrth ymateb am ryw reswm ond ie, diolch, Nic. Ac mae ‘na enwau ar berthnasau hefyd

 

 

 

 

A do’n i ddim yn cofio am ystyr arall, ffigurol, socsan – diolch, Mererid.

Screen shot 2014-05-09 at 11.09.48 AM

 

5 Responses to Profiadau annifyr â’r traed – yn Gymraeg yn unig!

  1. Nic Dafis yn dweud:

    Ddim yn gwybod os ydyn nhw’n unigryw, ond mae yn y Gymraeg hen ddigon o eiriau sengl am amseroedd penodol sy ddim yn bodoli (am wn i) yn Saesneg: echdoe ac echnos, trannoeth, tradwy ac yn y blaen.

  2. siantirdu yn dweud:

    Diolch – Nic. Ffaelu rhoi llun wrth ymateb am ryw reswm, felly dw i wedi golygu’r cofnod.

  3. alexpolistigers yn dweud:

    Mae llawer o eiriau am amseroedd yn Groeg hefyd, ac er dw i’n siarad Saesneg fel mamiaith, fe feddyliais i llawer o weithiau bod yn “clumsy” dweud pethau fel “this year, last year, the day before yesterday”, pan dw i’n defnyddio dim ond un air yn Groeg. Diddorol i ddysgu’r un peth yn Gymraeg hefyd.

  4. Neil Shadrach yn dweud:

    Dylai’r Gymraeg fod a llawer mwy o eiriau unigryw.

    Mae angen term am y profiad o chwilio am air mewn cyfres o eiriaduron a chael canlyniad gwahanol ym mhob un.

    Hefyd am y teimlad a geir ar ôl blynyddoedd o arfer term a gynigiwyd gan ffynhonnell safonol wrth ddarganfod ei fod e wedi cael ei newid.

    Heb anghofio’r eisiau i fynegi’r annifyrrwch wrth sylweddoli bod yr ymadrodd Gymraeg a gynigir am air Saesneg yn hollol annilys yn y cyd-destun.

  5. Huw yn dweud:

    Be am heddwch a thangnefedd? Ill dau yn trosi i ‘peace’ ond un ag ystyr mwy ysbrydol.

Gadael ymateb i siantirdu Diddymu ymateb