Mân Siarad

Screen Shot 2015-06-30 at 10.18.38

Darn a ymddangosodd yn y llyfryn “Dyma Ni” gan aelodau o grŵp ysgrifennu aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru:

Un peth dwi wedi’i ddysgu dros y misoedd diwethaf yw peidio â gofyn i rywun ydyn nhw’n well os nad ydw i’n gwybod eu bod nhw!

O ganol iechyd, ym mis Medi, cefais bythefnos pryd, os oeddwn yn mentro allan o gwbl, roeddwn yn malwennu mynd ar bwys dwy ffon â’m trwyn tua’r ddaear rhag ofn i frigyn strae fy maglu. Yna, treuliais wythnos yn yr ysbyty yn Lerpwl.

Wrth gwrs, pan ymddangosais wedyn, dipyn bach yn sioncach, roedd pobl y pentre’n llawn consýrn a’r cwestiwn naturiol oedd “Wyt ti’n well?”

Roeddwn wedi cael gwybod ei bod yn debygol iawn mai MS oedd arnaf – clefyd nad oes gwella ohono – ac felly doedd yr ateb onest “Nadw, a fydda i byth” ddim yn opsiwn!

Roeddwn yn dod rownd iddi trwy ddweud “Dwi reit dda ar hyn y bryd, diolch,” neu “Dwi’n cerdded yn well nag yr oeddwn i”.

Ymateb un cymydog i hynny oedd “O, reit dda. Fydd dim angen pen-glin newydd arnat ti felly.”  Cefais fy nhemtio i ateb “Na – dim pen-glin. Asgwrn cefn ac ymennydd newydd a fydda i rêl boi!” Ond wnes i ddim!

Dwi wedi cael y diagnosis ffurfiol erbyn hyn ac mae ambell un, yn amlwg wedi clywed y newyddion yn fy nghornelu gan ofyn yn ddwys “Sut wyt ti?” mewn goslef sy’n dweud “Dwi ishe’r holl fanylion, gorau oll po fwyaf torcalonnus”.

Dwi’n ofni mod i’n swnio’n wamal weithiau trwy ateb “Tshampion, diolch. A chithau?” Ond er bod gwendid yn fy nghoes chwith, pinnau bach yn cael eu morthwylio i’m traed, fy nghoesau’n teimlo fel bod papur swigod wedi’i lapio o’u cwmpas a chosi parhaus yn fy ysgwydd dde, dw i fy hunan yn dda iawn, diolch.

Os rhywbeth, dwi’n fwy siriol nag o’r blaen. Darllenais fod pobl sy’n cael diagnosis o MS yn tueddu i fod yn annaturiol o lawen ac y gall hyn fod am eu bod yn gwadu’r gwirionedd neu fod yr ysgafnder arwynebol yn cuddio teimladau duon o dan yr wyneb.  Dwi ddim yn meddwl bod y naill na’r llall yn wir amdana i. Os ydw i’n fwy joli nag arfer, dwi’n meddwl mai am fy mod i’n gwerthfawrogi’r hyn sy gen i y mae hynny.  Dwi’n gwybod y gall yr afiechyd amharu’n ddifrifol ar fy nghoesau, fy mreichiau, fy llygaid, fy nghof, fy ysbryd a phob math o bethau eraill – am gyfnodau byr neu’n barhaol, efallai heddiw, efallai mewn ugain mlynedd, ond yma, nawr – dwi’n tshampion, diolch.

Ar hyn o bryd, dwi’n gallu gweithio a dwi’n gallu cerdded am ryw ugain munud ar y tro sy’n golygu fy mod i’n gallu mynd i lawr i lan y môr a nôl yn weddol ddiffwdan – ddwywaith y dydd os bydda i’n lwcus. Beth well? – awyr iach, ymarfer corff, Fitamin D, mathau o fywyd gwyllt na sylwais erioed arnyn nhw o’r blaen a golygfeydd o Ynys Môn, Eryri a’r Eifl!

Weithiau, fydda i’n dod i gwrdd â rhywun o’r pentre wrth fynd am dro. Mae ambell un, wrth fy ngweld â ffon, yn gofyn “Beth wyt ti wedi’i wneud?’ yn lled ysgafn ac yna’n dychryn ac yn mynd i’w gilydd i gyd wrth gael yr ateb, “Dim byd – MS sy arna i.”

Yn aml, er mwyn arbed lletchwithdod i bobl eraill, dwi’n tueddu i neidio i mewn gyntaf gyda rhyw sylw am y tywydd neu’r olygfa. Wedyn, fe gân nhw sbario dweud dim am fy nghloffni os ydyn nhw, fel finnau, yn colli eu tafod wrth geisio cydymdeimlo â rhywun mewn salwch neu brofedigaeth. Ar y cyfan, serch hynny, dwi wedi synnu pa mor agored a gwir gydymdeimladol y mae pobl.

Un peth sy’n mynd dan groen pobl ag MS, mae’n debyg, yw pobl yn dweud “Ond rwyt ti’n edrych mor dda!” Mae rhai’n gweld rhyw dinc o amheuaeth yn hyn na allen nhw fod yn sâl mewn gwirionedd ond, ar hyn o bryd, rwy’n ei gymryd fel compliment!

Mae cydymdeimlad a chefnogaeth ffrindiau a theulu wedi bod yn help mawr dros y misoedd diwethaf ond un peth braf yw bod yng nghwmni pobl am gyfnod a sylweddoli wedyn na soniodd neb am yr MS.

Un peth y mae arna i ei ofn, ac mae’n siŵr o ddigwydd, yw y bydd rhywun yn gofyn beth yw “MS” yn Gymraeg. Mae MS yn air bach twt a dwi wedi dod i arfer ag ef. Ond “parlys ymledol” – mae meddwl am orfod dweud hynny wrth rywun yn codi arswyd arna i ac, fel cyfieithydd, alla i ddim esgus nad ydw i’n gwybod!

Felly, os gwelwch chi ferch (gymharol!) ifanc ar lan môr Trefor yn cerdded yn (weddol) sionc gan amlaf, gan chwifio ffon (rhag ofn), dewch i ddweud helo.  Mae croeso i chi sôn am y salwch neu beidio – ddim ond i chi beidio â gofyn beth yw MS yn Gymraeg!

Un Ymateb i Mân Siarad

  1. gwanas yn dweud:

    Diolch am rannu hwn. Gonest, hyfryd a gwerthfawr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: