Ambell i reg

Ebrill 26, 2018

(Ymddangosodd yn y Tyst, Mawrth 2018)

Screen Shot 2018-04-26 at 23.16.35

Ydych chi’n rhegi?

a) Ydw – on’d ydi pawb? Mae’n rhoi tipyn o liw i’n hiaith.

b) Byth

c) Dim ond pan eith hi’n slip arna i.

Yn ôl Stephen Pinker, seicolegydd ac ieithydd, mae pum rheswm posib dros regi:

  1. Tramgwyddo rhywun, eu bygwth, eu dychryn neu effeithio arnynt yn emosiynol neu’n seicolegol
  2. Math o ryddhad, mewn ymateb i boen neu anffawd
  3. Cyfleu’r ffaith nad yw’r siaradwr yn hoff o rywbeth, a cheisio argyhoeddi’r gwrandawr i feddwl yn yr un ffordd
  4. Pwysleisio rhywbeth a thynnu sylw ychwanegol ato
  5. Dangos mai perthynas anffurfiol sydd rhwng y siaradwr a’r gwrandawr.

Tybed ydi “creu sioc/chwerthin” yn rheswm arall, yn enwedig o ddefnyddio rhegfeydd yn annisgwyl mewn sgriptiau/nofelau ac ati? Ac onid yw pobl hefyd yn rhegi o arferiad gan ddefnyddio rhegfeydd fel rhyw fath o eiriau llanw bron yn anymwybodol?

Dwi ddim yn meddwl mod i wedi rhegi’n ymwybodol, mewn gwaed oer, ers tua Form 3 (siŵr y gwneith rhywun fy nghywiro ar hynny!) ond dwi’n ymwybodol bod llawer o’r bobl o ‘nghwmpas i’n rhegi fel… wel, fel gwragedd ffarm o Sir Aberteifi/Pen Llŷn (dilëwch yn ôl eich ardal!). Gyda llaw, pryd ddechreuodd gwragedd ffermydd regi? Roedd y rhai ro’n i’n eu nabod wrth dyfu i fyny yn bobol hynod o barchus! Dydi clywed pobl yn rhegi ddim yn fy mhoeni i’n ofnadwy er ei fod braidd yn ddiflas os yw rhywun yn rhegi bob yn ail air ond mae dau beth wedi digwydd yn ddiweddar sy wedi gwneud i mi feddwl.

Bu ffrind i mi mewn gweithdy crefft yn ddiweddar ac, meddai, roedd y fenyw oedd yn eistedd nesaf ati’n rhegi’n ofnadwy – yn ddifeddwl, mae’n fwy na thebyg – gan wneud iddi deimlo’n anghyfforddus. Bu’n pendroni sut i ymateb i hyn: gofyn i’r fenyw beidio â gwneud, gofyn am gael symud ei sêt, gwneud dim ynteu adael y sesiwn? Gadael yn gynnar heb ddweud pam wnaeth hi. Beth fyddech chi wedi ei wneud?

Cafwyd cyfres newydd o Deuawdau Rhys Meirion yn ddiweddar a mawr fu’r canmol gan bawb … neu bron bawb! Daeth pregethwr i’n capel ni ar ôl un o raglenni cyntaf y gyfres a dweud ei fod ef a’i wraig wedi diffodd y rhaglen am fod Rhys Meirion yn rhegi gormod. Rhys Meirion, o bawb, yn rhegi?! Mae’n debyg ei fod wedi defnyddio enw Duw ac Iesu fel rhyw fath o ebychiad i fynegi syndod fwy nag unwaith ac wedi defnyddio’r ymadrodd hwnnw sydd i’w glywed mor aml y dyddiau hyn ac sy’n hala fy ngŵr yn benwan, “Oh My God!”

Wrth drafod hyn wedyn, roedd ffrind i mi’n methu deall sut y gallai defnydd ysgafn o’r geiriau “Iesu” a “Duw” dristáu rhywun i’r graddau eu bod yn diffodd y teledu. Ceisiais esbonio eu bod o’r farn na all defnydd amhriodol o enw’r Arglwydd fod yn beth ysgafn.

Screen Shot 2018-04-26 at 23.39.21

Mae’n debyg bod ficer wedi cwyno wrth y BBC yn 2012 am ddefnydd Jeremy Clarkson o ymadroddion fel “God Almighty” a “Jesus wept” ar y rhaglen Top Gear. Yn eu hymateb dywedodd y BBC eu bod yn sylweddoli y gallai’r defnydd diofal neu ddirmygus o enwau neu eiriau’n ymwneud â chrefydd dramgwyddo rhai pobl ond ei bod yn anodd tynnu llinell am nad oes consensws pa eiriau sy’n dderbyniol, pryd na gan bwy. Mae rhai geiriau ac ymadroddion sy’n gallu tramgwyddo wedi dod yn rhan o iaith bob dydd, meddent, a byddai’n afrealistig i ddarlledwyr geisio’u gwahardd. Mae arnynt ddyletswydd i adlewyrchu cymdeithas fel y mae, meddent.

Wrth geryddu rhywun am ddefnyddio enw Duw neu Iesu yn ysgafn/fel rheg, yr adnod a ddyfynnir amlaf yw “Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer” o’r Deg Gorchymyn (Exodus 20:7). Tybed ai at y math hwn o ddefnydd yr oedd yr adnod hon yn cyfeirio yn wreiddiol? A oedd pobl hyd yn oed yn nyddiau Moses yn defnyddio enw Duw fel rheg? Mae’r esboniadau rwy wedi’u darllen yn awgrymu ei bod yn cyfeirio at ymddygiad ehangach – at fychanu enw Duw mewn unrhyw ffordd trwy beidio â rhoi iddo’r parch dyledus.

Erbyn meddwl, onid yw defnyddio enwau Iesu a Duw yn ysgafn neu fel rheg yn beth rhyfedd? Fe fyddech yn meddwl na fyddai Cristnogion yn gwneud hynny, ar egwyddor, ac na fyddai Iesu a Duw yn berthnasol i bobl eraill.

Screen Shot 2018-04-26 at 23.24.30Ond gwn am lawer o gapelwyr sy’n defnyddio geiriau fel Argol, Argien, Duwcs, Diawch, Jiw jiw, Iesgyrn Dafydd, Iesgob, Asu, Yffach, Nefi bliw, Nen Tad, Myn Diawl – rhyw fath o gablu lled-guddiedig. “Minced oath” yw’r enw ar y rhain yn Saesneg ac mae iddynt hanes reit ddiddorol. Ydyn nhw’n fwy diniwed a derbyniol na’r defnydd mwy amlwg o eiriau crefyddol fel rheg neu a ydyn nhw, mewn gwirionedd, lawn cynddrwg? Pwy mae rhywun yn ceisio’i dwyllo?

Mi ofynna i eto, “Ydych chi’n rhegi?”

(Rhywun yn gallu esbonio pam y dewiswyd y lluniau uchod?)

 

 

 

 

 

 

 

 

Advertisements

Gwahardd y Nadolig?

Tachwedd 18, 2017

(Ymddangosodd yn y Tyst, Rhagfyr 2016)

Bob blwyddyn, rai wythnosau cyn y Nadolig, tua’r adeg mae’r mins peis yn cyrraedd Morrisons a’r tinsel yn glanio ar silffoedd Tesco, mae ‘na bostiadau Nadoligaidd o fath arbennig yn ymddangos ar Facebook.

Mae rhai yn pwyso ar i bob ysgol gyflwyno Drama’r Geni cyn y NadolScreen Shot 2017-11-18 at 12.41.17ig, mae eraill yn galw ar bobl i ymgyrchu i sicrhau nad yw Facebook yn gwahardd lluniau o olygfa’r geni yn y stabal ym Methlehem ac eraill eto yn datgan yn groyw “Keep the Christ in Christmas!”.

Mae gen i berthnasau a ffrindiau Facebook sy’n postio’r fath bethau. “Chwarae teg iddyn nhw,” meddech chi, “am amddiffyn y gwerthoedd Cristnogol”.

Ond un peth sydd gan bron bob un o’r bobl hyn yn gyffredin yw na welwch chi mohonyn nhw mewn na Drama’r Geni na Gwasanaeth Carolau nac oedfa o unrhyw fath dros y Nadolig na thrwy’r flwyddyn chwaith.

Rwy’n fodlon mentro bod ganddyn nhw rywbeth arall yn gyffredin hefyd – eu bod i gyd yn darllen rhyw bapur newydd fel y Daily Mail neu The Sun. Oherwydd, er bod y postiadau uchod yn ymddangos yn ddigon dilys a diffuant, yr hyn sydd yma mewn gwirionedd yw casineb dan gochl crefydd. Bwriad y negeseuon yw dychryn pobl i feddwl bod ysgolion yn cael eu hatal rhag cyflwyno Drama’r Geni, bod cwmni Facebook yn gwahardd lluniau Cristnogol a bod pwysau ar bobl i ddweud “Happy Holidays” yn lle “Merry Christmas” rhag iddyn nhw ypsetio pobl o grefyddau eraill, Moslemiaid yn arbennig.

Wrth gwrs, mae’r honiadau hyn i gyd yn ddi-sail ac mae’n ddigon hawdd cael tystiolaeth i’w gwrthbrofi ac ymateb i bostiadau o’r fath yn y gobaith y bydd o leiaf rai o’r bobl sy’n darllen y negeseuon yn cymryd sylw.

Screen Shot 2017-11-18 at 12.46.03Yn wir, mae’r math yma o gorddi yn digwydd mor aml nes bod Cyngor Moslemiaid Prydain wedi cyhoeddi datganiad yn dweud “Don’t Panic! –Christmas is not banned” gan esbonio nad ydynt yn disgwyl i neb newid eu dathliadau Nadolig rhag tramgwyddo Moslemiaid.

Yr un math o bobl ag sy’n llyncu’r codi bwganod hyn yw’r bobl sy’n postio negeseuon ar Facebook i resynu bod pobl oedrannus neu gyn-filwyr yn dioddef anghysur a thlodi tra bod mewnfudwyr yn byw yn foethus ar bwrs y wlad. Yn rhyfedd iawn, dydi’r bobl hyn ddim yn mynegi unrhyw gonsýrn am les pobl oedrannus na chyn-filwyr na neb arall fel rheol ond maen nhw’n tyfu rhyw fath o gydwybod gymdeithasol pan welan nhw gyfle i roi swadan i ryw garfan o gymdeithas sydd ddim at eu dant.

Screen Shot 2017-11-18 at 12.43.42.png

Mae’n fy ngwneud yn drist bod pobl yn defnyddio crefydd neu ddyngarwch fel ffordd dan din o fynegi casineb a hiliaeth – er efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli’n union beth maen nhw’n ei wneud.

Rwy’n meddwl weithiau y dylwn i ddad-ffrindio’r bobl yma ar Facebook ond maen nhw’n gymdogion ac yn berthnasau sy’n bobl hollol iawn gan amlaf, ond eu bod wedi’u dallu gan sbin y papurau newydd gwenwynig. Ac mae bob amser yn beryg, ar Facebook fel yn y byd go iawn, ein bod yn byw mewn swigen, gan gymysgu’n unig gyda phobl sydd o’r un feddylfryd â ni. O leiaf, o wybod beth sy’n cael ei ddweud gan y bobl o’n cwmpas, mae gennym ryw gyfle i’w gywiro.

Felly, os clywch chi rywun yn eich pentref chi yn gresynu nad yw’r ysgol leol yn cyflwyno drama’r geni, atgoffwch nhw bod ganddyn nhw berffaith hawl i wneud hynny os dymunant a gwahoddwch nhw i Ddrama’r Geni neu oedfaon Nadolig eraill y capel. Pwy a ŵyr at beth y gallai hynny arwain!


Mân Siarad

Mehefin 30, 2015

Screen Shot 2015-06-30 at 10.18.38

Darn a ymddangosodd yn y llyfryn “Dyma Ni” gan aelodau o grŵp ysgrifennu aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru:

Un peth dwi wedi’i ddysgu dros y misoedd diwethaf yw peidio â gofyn i rywun ydyn nhw’n well os nad ydw i’n gwybod eu bod nhw!

O ganol iechyd, ym mis Medi, cefais bythefnos pryd, os oeddwn yn mentro allan o gwbl, roeddwn yn malwennu mynd ar bwys dwy ffon â’m trwyn tua’r ddaear rhag ofn i frigyn strae fy maglu. Yna, treuliais wythnos yn yr ysbyty yn Lerpwl.

Wrth gwrs, pan ymddangosais wedyn, dipyn bach yn sioncach, roedd pobl y pentre’n llawn consýrn a’r cwestiwn naturiol oedd “Wyt ti’n well?”

Roeddwn wedi cael gwybod ei bod yn debygol iawn mai MS oedd arnaf – clefyd nad oes gwella ohono – ac felly doedd yr ateb onest “Nadw, a fydda i byth” ddim yn opsiwn!

Roeddwn yn dod rownd iddi trwy ddweud “Dwi reit dda ar hyn y bryd, diolch,” neu “Dwi’n cerdded yn well nag yr oeddwn i”.

Ymateb un cymydog i hynny oedd “O, reit dda. Fydd dim angen pen-glin newydd arnat ti felly.”  Cefais fy nhemtio i ateb “Na – dim pen-glin. Asgwrn cefn ac ymennydd newydd a fydda i rêl boi!” Ond wnes i ddim!

Dwi wedi cael y diagnosis ffurfiol erbyn hyn ac mae ambell un, yn amlwg wedi clywed y newyddion yn fy nghornelu gan ofyn yn ddwys “Sut wyt ti?” mewn goslef sy’n dweud “Dwi ishe’r holl fanylion, gorau oll po fwyaf torcalonnus”.

Dwi’n ofni mod i’n swnio’n wamal weithiau trwy ateb “Tshampion, diolch. A chithau?” Ond er bod gwendid yn fy nghoes chwith, pinnau bach yn cael eu morthwylio i’m traed, fy nghoesau’n teimlo fel bod papur swigod wedi’i lapio o’u cwmpas a chosi parhaus yn fy ysgwydd dde, dw i fy hunan yn dda iawn, diolch.

Os rhywbeth, dwi’n fwy siriol nag o’r blaen. Darllenais fod pobl sy’n cael diagnosis o MS yn tueddu i fod yn annaturiol o lawen ac y gall hyn fod am eu bod yn gwadu’r gwirionedd neu fod yr ysgafnder arwynebol yn cuddio teimladau duon o dan yr wyneb.  Dwi ddim yn meddwl bod y naill na’r llall yn wir amdana i. Os ydw i’n fwy joli nag arfer, dwi’n meddwl mai am fy mod i’n gwerthfawrogi’r hyn sy gen i y mae hynny.  Dwi’n gwybod y gall yr afiechyd amharu’n ddifrifol ar fy nghoesau, fy mreichiau, fy llygaid, fy nghof, fy ysbryd a phob math o bethau eraill – am gyfnodau byr neu’n barhaol, efallai heddiw, efallai mewn ugain mlynedd, ond yma, nawr – dwi’n tshampion, diolch.

Ar hyn o bryd, dwi’n gallu gweithio a dwi’n gallu cerdded am ryw ugain munud ar y tro sy’n golygu fy mod i’n gallu mynd i lawr i lan y môr a nôl yn weddol ddiffwdan – ddwywaith y dydd os bydda i’n lwcus. Beth well? – awyr iach, ymarfer corff, Fitamin D, mathau o fywyd gwyllt na sylwais erioed arnyn nhw o’r blaen a golygfeydd o Ynys Môn, Eryri a’r Eifl!

Weithiau, fydda i’n dod i gwrdd â rhywun o’r pentre wrth fynd am dro. Mae ambell un, wrth fy ngweld â ffon, yn gofyn “Beth wyt ti wedi’i wneud?’ yn lled ysgafn ac yna’n dychryn ac yn mynd i’w gilydd i gyd wrth gael yr ateb, “Dim byd – MS sy arna i.”

Yn aml, er mwyn arbed lletchwithdod i bobl eraill, dwi’n tueddu i neidio i mewn gyntaf gyda rhyw sylw am y tywydd neu’r olygfa. Wedyn, fe gân nhw sbario dweud dim am fy nghloffni os ydyn nhw, fel finnau, yn colli eu tafod wrth geisio cydymdeimlo â rhywun mewn salwch neu brofedigaeth. Ar y cyfan, serch hynny, dwi wedi synnu pa mor agored a gwir gydymdeimladol y mae pobl.

Un peth sy’n mynd dan groen pobl ag MS, mae’n debyg, yw pobl yn dweud “Ond rwyt ti’n edrych mor dda!” Mae rhai’n gweld rhyw dinc o amheuaeth yn hyn na allen nhw fod yn sâl mewn gwirionedd ond, ar hyn o bryd, rwy’n ei gymryd fel compliment!

Mae cydymdeimlad a chefnogaeth ffrindiau a theulu wedi bod yn help mawr dros y misoedd diwethaf ond un peth braf yw bod yng nghwmni pobl am gyfnod a sylweddoli wedyn na soniodd neb am yr MS.

Un peth y mae arna i ei ofn, ac mae’n siŵr o ddigwydd, yw y bydd rhywun yn gofyn beth yw “MS” yn Gymraeg. Mae MS yn air bach twt a dwi wedi dod i arfer ag ef. Ond “parlys ymledol” – mae meddwl am orfod dweud hynny wrth rywun yn codi arswyd arna i ac, fel cyfieithydd, alla i ddim esgus nad ydw i’n gwybod!

Felly, os gwelwch chi ferch (gymharol!) ifanc ar lan môr Trefor yn cerdded yn (weddol) sionc gan amlaf, gan chwifio ffon (rhag ofn), dewch i ddweud helo.  Mae croeso i chi sôn am y salwch neu beidio – ddim ond i chi beidio â gofyn beth yw MS yn Gymraeg!


Her i Ymgynghorwyr Her

Mai 24, 2015

Dwi ddim yn ailflogio’n aml ond mae angen i bawb weld hwn! Oes geiriau eraill y dylid eu cynnwys yn y rhestr? – Dwi’n cynnig “blaengaredd” fel enw – pan fydd “initiative” yn golygu “cynllun”.

Blog Glyn Adda

Hwyrach – gobeithio – y bydd rhai o’r darllenwyr yn cofio eitem 29 Ebrill, lle gwnes ambell sylw ar swydd a oedd yn cael ei hysbysebu gan ‘gorff newydd uchel ei broffil’.  Ond  ’tawn i’n marw, dyma un arall yn GOLWG, 21 Mai.

her i uwch

Wedi dechrau drafftio rhyw bwt bach yn cyfeirio at y monitro, yr herio, yr ‘ymyrryd yn uniongyrchol’ a’r dyletswyddau aruthrol eraill, mi rois y gorau iddi mewn anobaith.  Mae hyn tu hwnt i alluoedd unrhyw ddychanwr sy’n fyw heddiw. Tyrd yn ôl, Jonathan Swift.

Ond dyma ichi beth a wnaf.  Bydd Blog Glyn Adda weithiau’n cynnwys cyfraniad gan awdur gwadd.  Felly y tro hwn, rwy’n addo y rhoddaf lwyfan agored ar yr hen flog i ysgrif, o’r hyd a fynner, yn gwrthddadlau’r gosodiad ‘fod y swydd hon yn rwtshi-ratsh ac yn gamddefnydd annuwiol o arian cyhoeddus’.  Beth amdani, aelodau tîm yr Ymgynghorwyr Her?

Ond mae un…

View original post 93 yn rhagor o eiriau


Priodasau Un Rhyw

Ebrill 29, 2015

Dyma daflen y gwnes i ei llunio oherwydd y gofyn i Eglwysi’r Annibynwyr benderfynu a oeddent am ganiatau priodasau un rhyw. Gobeithio y bydd o help i eglwysi eraill.

taflen priodas gyfartal 3 colofn fersiwn2


Parod am oedfaon parod?

Ebrill 28, 2015

Wythnos arall ac oedfa ddi-bregethwr arall. “Peidiwch â phoeni,” medde fi. “Fe wna i addasu oedfa arall o’r CD.”

Screen shot 2015-04-28 at 10.16.57 AMRoeddwn i’n teimlo bod yr oedfa Duw Goleuni o’r gyfrol Dyrchafu’r Duw Byw ar y CD Cynnal Oedfa (Cyhoeddiadau’r Gair) wedi gweithio’n eithaf da gydag ychydig o addasu ac felly dyma benderfynu mynd ati o’u cwr a thaclo’r ail oedfa yn y gyfrol honno sef Duw Doethineb.

Roedd hon yn dechrau’n eithriadol o addawol ond roedd rhai o’r cyfeiriadau at fywyd y teulu’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus braidd – efallai mod i’n or-sensitif ond ro’n i’n teimlo y gallai rhai elfennau gael eu dehongli fel beirniadaeth ar deuluoedd unigol. Mae’n bosib yr af i nôl at hon eto achos mae ynddi stwff eithriadol o dda ond penderfynu ei gadael a wnes am y tro. (Roedd yr oedfa hon eto yn cynnwys stori bersonol am yr awdur yn ei ardd gyda 275 o falwod – tybed fyddai gan yr aelod cyffredin 275 o falwod yn ei ardd a’r ’mynedd i’w cyfri nhw?!!)

Reit, y nesaf! Duw Trugaredd. Stwff da eto ond ymdriniaeth braidd yn gymhleth o bechod ac aberth i rywun ei darllen os nad fe’i hunan oedd wedi’i ysgrifennu. Ro’n i’n ofni y byddwn i’n colli’r gynulleidfa – a minnau! Y ddwy nesa, Duw Cyfiawnder a Duw Cyfeillgarwch – efallai, ond dim cweit. Fyswn i, na’r rhan fwyaf o aelodau cyffredin ein capeli, am wn i, ddim yn gysurus yn sôn am “ffurf ramadegol yr adnod … yn yr iaith Roeg”! Dwi’n meddwl y dylai’r oedfaon yma fod o fewn dealltwriaeth y sawl sy’n debygol o’u defnyddio. Ond mae’n bosib y dof i nôl at y ddwy oedfa hyn hefyd ryw dro os bydd gen i amser i’w haddasu fel eu bod yn siarad fwy yn fy iaith i a’r gynulleidfa.

Nesa, Duw Ffyddlondeb. Yma eto, fel yn yr oedfa Duw Doethineb uchod, fyddwn i ddim yn teimlo’n gysurus yn sôn gymaint am anffyddlondeb o fewn y teulu. Mae’n siwr nad oes yr un gynulleidfa sydd heb ei brifo mewn rhyw ffordd gan hyn a hyd yn oed o drafod y peth yn sensitif, byddai arna i ofn i rywun feddwl bod yma ryw feirniadaeth ohonyn nhw’n bersonol. Fyddai’r stori am wraig yn dweud “…fyddai dim ots gen i dynnu cyllell allan a’i thrywanu” pe bai’n gweld cariad newydd ei gŵr ddim o lot o help dwi’m yn meddwl!

Penderfynu newid cyfeiriad a throi at un o’r llyfrau eraill. Coronwch Ef yn Ben! gan John Lewis Jones y tro hwn. Mae amryw o’r oedfaon hyn wedi’u bwriadu’n arbennig ar gyfer adegau neilltuol o’r flwyddyn a dyma sylwi ar un o’r enw Gwanwyn Duw. Fel roedd hi’n digwydd roedd yr oedfa hon yn ateb ein gofynion yn union! Roedd yn cymharu nodweddion gwanwyn naturiol â gwanwyn ysbrydol gyda darlleniadau, emynau a gweddïau perthnasol. Fe wnes i gyflwyniad PowerPoint i fynd gyda’r oedfa hon hefyd. O edrych yn ôl, mae’n debyg mod i wedi defnyddio gormod o luniau o’r gwanwyn naturiol – ond mae dipyn yn haws cael lluniau o ŵyn bach a briallu na chyfleu gwanwyn ysbrydol.

Screen shot 2015-04-28 at 10.19.08 AMFelly, i grynhoi, mae’r CD Cynnal Oedfa yn adnodd gwerthfawr i gynulleidfaoedd sydd heb bregethwr. O ’mhrofiad cyfyng i, fe lwyddwyd i ddefnyddio’r oedfa Gwanwyn Duw o’r llyfr Coronwch Ef yn Ben fwy neu lai “off the peg”. Dw i ddim yn gwybod a fyddai yr un peth yn wir am yr oedfaon eraill yn y llyfr hwnnw. Dw i ddim yn meddwl y byddai’n ddoeth agor Dyrchafu’r Duw Byw ar y funud olaf pe bai pregethwr yn ffonio ar fore Sul i ddweud ei fod yn sâl. O’r hyn a welaf i, mae angen cymryd tipyn o amser i addasu’r oedfaon yn y llyfr hwnnw fel eu bod yn gweddu i’r sawl sy’n cymryd rhan ac i’r gynulleidfa ac mae modd gwneud hynny’n hwylus trwy droi’r pdfs yn Word. Ond, o wneud yr ymdrech, mi allai dalu ar ei ganfed! Ac mae’r trydydd llyfr ar y CD, Yr Enw Mwyaf Mawr, yn dal heb ei dwtsh!


Pa mor barod yw oedfaon parod?

Ebrill 28, 2015

Ddau ddydd Sul o’r bron nawr, am wahanol resymau, rŷn ni wedi bod heb bregethwr. Rŷn ni’n eglwys freintiedig gan fod gennym ni nifer o aelodau sy’n gallu paratoi oedfaon i’w cynnal ond oherwydd salwch, gwyliau a phrysurdeb, doedd neb ar gael i wneud hynny.Screen shot 2015-04-28 at 9.16.37 AM Felly, dyma droi at y CD Cynnal Oedfa gan Gyhoeddiadau’r Gair. Dyma’r tro cyntaf i mi wneud hyn ac roedd yn dda gweld bod y CD (£11.99) yn cynnwys tri llyfr o oedfaon cyflawn – Dyrchafu’r Duw Byw gan Huw John Hughes, Yr Enw Mwyaf Mawr, hefyd gan Huw John Hughes, a Coronwch Ef yn Ben gan John Lewis Jones. Mae’r llyfrau hyn ar gael ar bapur hefyd – dipyn drutach na £11.99 am y tri. Dyma ddechrau yn y dechrau, yr oedfa gyntaf yn Dyrchafu’r Duw Byw – Duw Goleuni. Roedd yn dechrau’n ddigon addawol, gyda darlleniadau byr a Geiriau Agoriadol i gyflwyno’r mater. Ro’n i’n teimlo efallai bod brawddeg fel “Nid canfod y goleuni trwy chwilio amdano neu trwy ymddisgyblu’n ysbrydol i ymgyrraedd ato wnawn.” braidd yn uchel ael o feddwl mai aelodau cyffredin cynulleidfaoedd sydd i fod i ddefnyddio’r oedfaon hyn ond yna cafwyd gweddi ardderchog, emyn, a darlleniad byr. Grêt. Myfyrdod sydd nesa – yn trafod Gnosticiaeth, y Docetiaid a dysgeidiaeth Cerinthws. Nawr te, un peth yw i weinidog sydd wedi astudio’r pethau ’ma ac sy’n gwybod am beth mae e’n sôn i ddechrau traethu am ddysgeidiaeth Cerinthws (er mai digon chydig sy’n gwneud hynny erbyn hyn) ond druan â Mrs Jones, Tŷ Pen yn treio bustachu ei ffordd trwy syniadau am ddrygioni’r corff ac a oedd gan Iesu gorff o gwbl! Rwy’n cydnabod bod lle i addysgu mewn oedfa ond rwy hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig bod y sawl sydd yn addysgu o leia’n swnio fel tyse fe’n gwybod am beth mae e’n sôn! Y gŵr a minnau oedd am gymryd rhan a doedden ni ddim yn teimlo y gallen ni wneud cyfiawnder â Cerinthws, felly dyma benderfynu hepgor y darn yma! Gweddi wedyn – rhaid dweud bod y gweddïau yn effeithiol iawn. Wedyn yr Anerchiad. Ro’n i’n synnu gweld hanesyn yn dechrau “Rwy’n cofio mynd yn fachgen ifanc i gae pêl-droed un o dimau enwoca’r gynghrair yn Lloegr.” Os mai “gwasanaethau cyflawn” yw’r rhain, beth sydd i fod i ddigwydd yn y fan hyn? Ydi’r sawl sy’n cymryd rhan i fod i esgus mai iddo fe/hi y digwyddodd hyn ’ta ydi ei i fod i ddweud “Mae Huw John Hughes yn cofio mynd yn fachgen ifanc i gae pêl-droed un o dimau enwoca’r gynghrair yn Lloegr.” ac addasu’r stori i’r trydydd person? Y naill ffordd neu’r llall, mae’n colli rhywfaint o’i heffaith. Fel roedd hi’n digwydd, roedd gen i stori debyg oedd wedi digwydd i mi, felly roedd yn ddigon hawdd addasu. Yn yr un anerchiad, mae ganddo stori amdano’n mynd i ganolfannau antîcs. Mae’n siwr nad mewn llyfr o “oedfaon parod” mae lle hanesion personol fel hyn. Wedyn, at y diwedd, mae cyfres eitha maith o gwestiynau i’w trafod yn cynnwys “Sut ydych chi’n esbonio dirgelwch person Crist?” , “Beth yw eich ymateb chi i gred y Gnosticiaid?” a “Fedrwch chi feddwl am gilfachau tywyll yn eich bywyd chi?”. Waw! Dydw i ddim yn siwr ai diwedd oedfa fel hyn yw’r lle i drafod cwestiynau mawr fel hyn, chwaith – efallai mewn Ysgol Sul neu Seiat gyda rhywun go solet yn arwain! Screen shot 2015-04-28 at 9.25.48 AMYr hyn a wnes i oedd dewis rhai o’r cwestiynau eraill a’u cynnwys yn rhan o weddi gyda chyfle i’r gynulleidfa fyfyrio arnyn nhw mewn tawelwch am ychydig. Un o fanteision mawr y CD yw bod modd troi’r testun yn Word yn hawdd ac felly addasu fel y dymunwch. Fe wnes i baratoi cyflwyniad PowerPoint i fynd gyda’r oedfa ac rwy’n credu bod y cyfan wedi gweithio’n ddigon effeithiol gydag emynau, gweddïau a darlleniadau addas a neges ddealladwy a pherthnasol.