Dau Angladd mewn Tridiau

Hydref 22, 2013

Rwy wedi bod mewn dau angladd mewn tridiau – dau wasanaeth i ddiolch am fywydau dau ddyn arbennig iawn ro’n i’n hynod hoff ohonyn nhw – Meirion Lloyd Davies a Randall Evans Enoch. 

Yn oedolyn y des i i nabod y ddau. Dod i Drefor i bregethu yr oedd Meirion – pregethwr bywiog, trwyadl, trwsiadus, yn cyrraedd â’i wynt yn ei ddwrn ac yn pregethu’n egnïol. Perthynas pregethwr a gwrandawr oedd gennym ni tan i mi chwarae tric arno yn dilyn rhyw bregeth a, chwarae teg iddo, mi welodd y jôc. Yna, ymhen misoedd lawer, mi facffeirodd y jôc arna i ac roedd Meirion ar ben ei ddigon – chlywes i mo’i diwedd hi! A phan oedd Meirion yn chwerthin, roedd yn gwneud mwy na dangos ei ddannedd yn gynnil. Mewn dramâu yn Neuadd Dwyfor mi fyddech yn gwybod bod Meirion yn y gynulleidfa wrth ei chwerthiniad.

Ym 1988, ychydig ar ôl marw ‘nhad, ffoniodd mam i ddweud bod perthynas iddo wedi galw – dyn a fu’n byw yn Lloegr ers blynyddoedd. Cefais ei gyfeiriad ac, ymhen amser, ysgrifennais ato. Ers hynny, byddai Randall a minnau’n ysgrifennu at ein gilydd bob Nadolig. Unwaith yn unig y gwnaethon ni gyfarfod, er i ni addunedu bob blwyddyn y byddem yn dod at ein gilydd eto. Rwy’n meddwl mai mab i frawd fy hen dadcu oedd Randall, sef cefnder fy nhadcu, er ei fod yn iau na ‘nhad.

Roedd sawl peth yn gyffredin rhwng Meirion a Randall. Roedd y ddau wedi colli eu tad yn ifanc. Ar ôl i’w dad farw, gadawodd Meirion yr ysgol a mynd yn glerc i swyddfa cyfreithiwr. Dwy oed oedd Randall pan fu farw ei dad, David Rees Enoch a oedd yn ficer – yn Llandyfrïog o bosib. Aeth Randall a’i fam i fyw yn Llandre, lle bu ei theulu hi ers cenedlaethau. Pan ddaeth yn amser mynd i’r ysgol uwchradd, roedd pethau’n fain ar y fam weddw ac rwy’n meddwl i’r Eglwys dalu am addysg i Randall mewn ysgol breswyl yn ne Lloegr. Soniwyd heddiw ei fod wedi mynd yno, yn 11 oed, ar ei ben ei hunan ar y trên gan orfod croesi Llundain. Ddaeth e erioed yn ôl i Gymru i fyw, er iddo gadw cysylltiad agos â Llandre ac Eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn (yr ysgrifennodd ei hanes).

Gwnaeth y ddau eu marc yn eu dewis faes ac roedd ganddynt ddiddordebau eang. Gwelir coffâd cryno i Meirion yma: a bu llawer o sôn yn y gwasanaeth coffa am ei hoffter diweddar o golff yn cynnwys ennill “the Goleuad trophy”! I fyd addysg aeth Randall. Ceir peth o’i hanes yma. Roedd yn aelod o’r Formby Choral Society, yn gwneud gwaith turnio coed, yn arlunydd medrus, yn beicio ac yn cerdded mynyddoedd. Roedd hefyd yn ddarllenydd lleyg yn Eglwys Sant Pedr, Formby.  Yr argraff a gawn oedd bod y ddau, o wneud rhywbeth – gwaith neu bleser – yn ymdaflu i’r dasg ac yn ei wneud hyd eithaf eu gallu gan gael boddhad mawr ohono. 

Cafodd y ddau angladdau mawr. Awr gyfan cyn y ddau wasanaeth roedd pobl mewn siwtiau a theis duon yn gwneud eu ffordd ar hyd y strydoedd, fesul dau a thri. Roeddem yn ymwybodol fod pawb a gymerodd ran yn y gwasanaethau’n adnabod y bobl yr oeddent yn siarad amdanynt yn dda iawn, yn eu hoffi ac yn eu parchu. Roedd tair teyrnged yng ngwasanaeth coffa Meirion – pob un gan hen gyfeillion arbennig o weinidogion huawdl. Roedd yno anwyldeb, hiwmor a pharch ond efallai, am fod y tri dipyn yn fwy hamddenol eu natur na Meirion, na chyflewyd yn llwyr yr afiaith a’r asbri rydyn ni’n ei gysylltu ag e. Mab yng nghyfraith Randall oedd yn talu’r deyrnged iddo fe, y Gwir Barchedig Mark Boyling, Deon Cadeirlan Carlisle. Er bod yr hoffter a’r parch y amlwg yma hefyd, efallai bod y naws eglwysig yn rhoi rhyw bellter rhyngom. Mae’r drefn eglwysig yn ddierth i mi ac ro’n i’n ei chael yn ddryslyd braidd. Sut allwch chi weddïo a chadw llygad ar y daflen i weld pryd mae angen ateb? Siwr eich bod yn arfer!

Byddwn i wedi disgwyl dweud bod canu Penmount yn well o lawer na chanu St Peter’s ond wir, fe ges i sioc! Roedd eglwys lawn o bobl hŷn, ar y cyfan, a phresenoldeb côr yr Eglwys a’r Formby Choral Society yn golygu bod y Saeson wedi cael hwyl dda ar Hyfrydol a Chwm Rhondda!

Felly dau wasanaeth urddasol a chynnes i gofio am ddau ddyn galluog a gafodd fywydau llawn a chyfrannu’n helaeth at eu cymdeithas a’u heglwys.

Roedd yn dda gweld cannoedd, o wahanol gylchoedd, yn dod ynghyd i sefyll gyda Mair, Siwan, Llio a Heledd a’u teuluoedd a Wendy, David a Helen a’u teuluoedd ar ddiwrnod mor anodd. Un peth a’m trawodd yn arbennig ynghanol yr holl dduwch yn y gwasanaethau oedd tei las lachar David, mab Randall, a siaced olau Mair, gwraig Meirion, a blodyn mawr coch. Da iawn nhw!

Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â phennill Rossitter W Raymond cyn heddiw:

“We seem to give them back to thee,

O God, who gavest them to us.

Yet as thou didst not lose them in the giving,

so we do not lose them by their return….

… and death is only an horizon,

an an horizon is nothing, save the limit of our sight.”

A phwy na châi eu cyffwrdd gan eiriau Myrddin ar daflen y Gwasanaeth o Ddiolchgarwch am Fywyd ei dad yng nghyfraith yntau:

“Na fyddwch ddagreuol ar fy ôl i

Na chuddio’r lluniau, na duo’r llenni,

Na’i morio hi’n lleddf am rai yn y lli,

Nac ofni cellwair ar gefn y colli;

Ailwenwch y goleuni – a gawsom

A’r hafau ynom fydd mor fyw inni.”


CADW neu golli?

Rhagfyr 13, 2010

Beth fyddai orau gennych chi ei weld mewn pentref?

Capel mawr hardd yn dal 700 o bobl, galeri helaeth, gwaith coed cywrain ar y seti, y pulpud a’r sêt fawr, a’r ffenestri a’r to yn ddiddos. Ond y gynulleidfa fach wedi’i llethu gan gyfrifoldeb gofalu am yr adeilad ac yn methu symud ymlaen â’i chynlluniau i ddatblygu’r achos am fod yr adeilad yn llyncu eu holl adnoddau.

Neu

Cwrt taclus, o flaen festri sy’n dal tua 100 o bobl. Yn ogystal â’r oedfaon a’r cyfarfodydd arferol, mae gwaith plant, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol yn cael eu cynnal o dan arweiniad gweinidog neu weithiwr cyflogedig.

I’w roi ar ei symlaf – gallai cadw’r capel ar ei draed ladd yr achos Cristnogol.

Dyna’r sefyllfa sy’n wynebu llawer o eglwysi anghydffurfiol heddiw – ac mae’n ymddangos nad oes ganddyn nhw lais yn y mater.

Fe wnaeth Vaughan Roderick drydar yn ddiweddar ei fod yn “Casau’r ystrydeb nad adeilad yw’r Eglwys.” gan esbonio, “Buildings mean something.” (Rhagfyr 1). Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn torri ei galon am fod capel y Tabernacl, Cwm-gors lle bu ei dadcu’n weinidog am 40 mlynedd, yn cau.

Daeth hyn drannoeth cyfarfod rhwng aelodau ein heglwys ni a swyddog cadwraeth a ddywedodd, fwy neu lai, nad oedd gennym ddewis ond pwmpio arian i mewn i’n capel enfawr ni er na fydd mo’i angen byth eto fel y mae. Gan ei fod wedi’i restru gan CADW, chawn ni ddim o’i dynnu i lawr. Fe gawn ni ei werthu neu ddarganfod defnydd arall iddo. Ond pwy brynith gapel mawr ynghanol pentre heb le parcio, o gofio bod capel arall, mwy hwylus, ar werth yn y pentre ers dwy flynedd? A beth all rhywun ei wneud â’r adeilad o gofio am gyfyngiadau llym CADW? Hyd yn oed tyse rhywun yn cael syniad am rywbeth i’w wneud ag e, byddai’n rhaid buddsoddi cannoedd o filoedd i’w wneud yn ffit at unrhyw ddefnydd arall. Mae rhai’n rhyw led obeithiol y daw diwygiad ac y bydd angen capel mawr eto ond hyd yn oed pe bai hynny’n digwydd, go brin mai capel traddodiadol â chorau coed sefydlog a sêt fawr a phulpud a galeri fyddai ei angen. Felly, mae’n edrych yn debyg bod disgwyl i’r eglwys daflu arian i mewn i gadw’r adeilad yn ddiogel ac yn daclus am gyfnod amhenodol nes bod rhyw swyddog yn rhywle yn penderfynu y cawn ni stopio. Erbyn hynny, beryg y bydd hi’n rhy hwyr ar yr achos.

Oni fyddai’n well i ni gael defnyddio’r arian er lles yr achos Cristnogol a’r gymuned?

Felly, er mod i’n cytuno â Vaughan, sydd hefyd wedi blogio am ei deimladau, bod capeli yn agos at galonnau’r Cymry a’i bod yn drist gweld capel yn cau, o’n safbwynt i, mae’r achos a phobl y pentre yn golygu mwy nag adeilad.

Mae Vaughan yn “teimlo bod gan rywun ddyled a dyletswydd i aelodau ‘r teulu – hyd yn oed y rhai sydd wedi ein gadael” ac mae hyn yn deimlad cryf yn ein cymdeithas. Does dim sicrwydd y byddai Cwrdd Eglwys yn penderfynu dymchwel y capel hyd yn oed pe bai gennym ryddid i wneud hynny – o barch i’r “hen bobol”. Fy nadl i yw bod yr “hen bobol” wedi gwneud beth oedd yn addas iddyn nhw ar y pryd. Roedden nhw’n cwrdd mewn beudy neu barlwr tra oedd hwnnw’n addas, yna’n codi capel bach, yna gapel chydig bach mwy ac wedyn capel anferth, fel yr oedden nhw’n gweld yn dda ar y pryd. Oni fydden nhw’n dymuno i ni wneud beth sy’n addas i ni, heddiw?


Cyfnod toreithiog

Tachwedd 28, 2010

Ro’n i ar fy ffordd i ‘ngwely neithiwr pan sylwais i ar ddau lyfr ar lawr y parlwr, Y Pla gan Wiliam Owen Roberts a’r Dŵr Mawr Llwyd gan Robin Llywelyn. Felly, yn lle cyfri defaid i fynd i gysgu, mi ddechreuais gyfri’r beirdd/awduron/dramodwyr oedd yn y coleg yn Aber yn yr un cyfnod â mi yn fras (1978 – 1981):

Wiliam Owen Roberts
Robin Llywelyn
Twm Morys
Iwan Llwyd
Bethan Gwanas
Myrddin ap Dafydd
Sêra Moore Williams
Mari Rhian Owen
Jeremy Turner
Siôn Aled
Margiad Roberts
Llion Jones
Emyr Lewis
Angharad Dafis
Siân Reeves
Geraint Lewis
Gerwyn Williams

Wedyn, fe ddechreuais i ar y rhai sydd wedi bod yn gwneud bywoliaeth reit amlwg ym myd teledu/radio yng Nghymru mewn rhyw ffordd neu’i gilydd:
Garry Owen
Gwyn Elfyn
Edwina Williams Jones
Karl Davies
Tim Hartley
Sion Tecwyn
Sian Pari Huws
Gwyn Williams
Catrin Beard
Llion Williams
Anna Fôn
Ann Fôn
Glenda James
Wendi Puw
Wyn Williams
Susan Waters
Derwyn Williams
Betsan Llwyd
Rhian Morgan
Irfon Jones
Aled Eurig
Huw Eurig
Aneirin Huws
Emyr Davies
Catrin MS Davies
Alun Elidyr
Owain Pennar
Rhian Cadwaladr
Alun ap Brinley
Sioned Wiliam – fwy yn Lloegr
Tomos Morgan ?

Ac mae’n siwr bod ‘na eraill na feddylies i neu na wyddwn i amdanynt.
Dwi ddim yn siwr oes ‘na arwyddocâd i hyn. Ydi’r ffigurau ‘na’n uwch nag arfer? Oedden ni’n genhedlaeth fwy creadigol na’r cyffredin? A ddaeth cnwd tebyg o Fangor neu Gaerdydd? Daeth llawer o’r uchod trwy adrannau Cymraeg a Drama Aber. Ai iddyn nhw mae’r diolch?
A oedd haearn yn hogi haearn? A oedd y ffaith fod S4C ar gychwyn yn help?

Difyr, te?

Dwi am ddechre cyfri cyfieithwyr y tro nesa fyddai’n ffaelu cysgu!


Yn oesoesoes, Amen

Tachwedd 23, 2010

Mae’r blogiau ‘ma fel bysus Llundain – dim byd am fisoedd ac wedyn dau wrth gwt ei gilydd.

Wrth ddarllen gwefan Ekklesia ddoe, fe ddes i ar draws postiad ar fater arall dwi wedi bod yn mwydro dipyn amdano wrth roi dillad ar lein yn ddiweddar.

Mae casgliad o fudiadau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan, Michael Gove, i ofyn iddo ddod ag addoliad gorfodol i ben mewn ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys mudiadau Cristnogol, rhai’n cynrychioli crefyddau eraill a rhai seciwlar.

Po fwyaf dwi’n meddwl am y peth, dwi’n rhyfeddu fwyfwy bod addoliad gorfodol yn cael bod yn rhan o fywyd ysgol o gwbl. Mae rhywbeth yn amhriodol amdano. Fel y dywed Simon Barrow, cyd-gyfarwyddwr Ekklesia: “The notions of compulsion and worship are mutually exclusive, and seeking to enforce prayers by law is offensive to the non-conformist Christian conscience, as well as to many of other faith traditions and to non-believers.”

Dyma rai pwyntiau dw i wedi bod yn meddwl amdanyn nhw:
1) Mae ysgolion i bawb, nid Cristnogion yn unig – y trethdalwyr sy’n talu amdanyn nhw
2) Mae hawl i eithrio plant o’r gwasanaethau ond mae hynny’n greulon – mae pethau eraill yn digwydd yn y gwasanaeth hefyd ac mae’n bwysig cael pawb at ei gilydd i fagu ysbryd o gymuned
3) Mae’n syndod, mewn ffordd, bod Anghydffurfwyr wedi bod o blaid addoliad gorfodol mewn ysgolion:
a) am y bydden nhw ishe amddiffyn y ddysgeidiaeth yn y capeli
b) am eu bod o blaid rhyddid i addoli
4) Mewn gwasanaethau ysgolion, yn aml dydi’r “neges” ddim yn “Gristnogol” – gellid cael yr un neges foesol mewn cyfarfod digrefydd – hyd yn oed gyda darlleniadau o’r Beibl
5) Erbyn hyn, ychydig o athrawon sy’n mynd i gapel neu eglwys ac felly mae’n chwithig eu bod nhw’n (gorfod) paratoi addoliad i ddisgyblion
6) Gall gwasanaethau â dim ond negeseuon moesol neu negeseuon ar gyrion Cristnogaeth roi camargraff i blant beth yw Cristnogaeth mewn gwirionedd
7) Byddai gweinidogion, gweithwyr Cristnogol ac eraill yn dal i gael mynd i ysgolion i gyflwyno neges – dweud be maen nhw’n gredu a pham – ac arwain trafodaethau heb i’r plant orfod cymryd rhan mewn addoliad
8 Gallai rhoi’r gorau i addoliad gorfodol mewn ysgolion roi hwb i eglwysi (sef cartref naturiol addoliad) gymryd eu cenhadaeth o ddifri.
9) Sut fyddai rhieni Cristnogol yn teimlo pe bai’r gyfraith yn newid i orfodi hybu anffyddiaeth neu grefydd arall mewn ysgolion?
10) All y drefn bresennol ddim bod yn effeithiol iawn yn annog addoliad neu byddem yn gweld mwy o’i ffrwyth yn y capeli a’r eglwysi.

Ceir arweiniad gan Estyn i arolygwyr ysgolion ynghylch addoli ar y cyd yn y fan hyn. Mae’n amlygu rhai o’r anawsterau a all godi.

Fe ddes i ar draws trafodaeth ddifyr iawn ar y pwnc ar fforwm Cristnogaeth21 yn trafod bwriad Llywodraeth y Cynulliad yn Ionawr 2009 i roi hawl i bobl ifanc dros 16 oed i beidio â mynd i wasanaethau crefyddol yn yr ysgol.

Yn ddiddorol iawn, er bod llefarydd ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi mynd i berorasiwn gan alw’r bwriad yn “gweithred o frad gan Lywodraeth y Cynulliad, sy’n taflu 1,500 o flynyddoedd o ddiwylliant Cymru i’r gwynt”, roedd nifer o Gristnogion yn cymryd agwedd wahanol.

Felly, ydi hi’n bryd gwahanu’r “gorfodi” a’r “addoli” yn ein hysgolion – er lles pawb?


Nadolig Llawen gan Wallace a Gromit

Tachwedd 22, 2010

Ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ceir apêl gan Andrew Lenny, y Llywydd presennol. Mae’n cyfeirio at y ffaith mai lluniau’r cymeriadau digri Wallace a Gromit sydd ar stampiau Nadolig newydd y Post Brenhinol eleni ond bod stampiau â llun Mair a’r baban Iesu wedi’u rhyddhau hefyd ar gyfer y bobl sy’n dymuno’u defnyddio. Dywed Andrew Lenny:

Gofynnwch am y rhain pan ewch i Swyddfa’r Post neu’r siop leol, a beth am annog aelodau eraill o’ch eglwys i wneud hynny hefyd? Mae’n ffordd syml o fynegi ein tystiolaeth fel Cristnogion yn y byd – yn rhywbeth y gall pawb ei wneud.

Hyfryd. Ardderchog. Fe wnes i drefnu i gyhoeddi hyn yn ein capel ni neithiwr ac annog y gynulleidfa i ofyn am y stampiau a’r lluniau Cristnogol arnyn nhw.

Mae’r stori wedi cyrraedd y Daily Post (Welsh vicar slams Wallace and Gromit stamps) a Golwg360 (Stampiau Wallace and Gromit yn Anghristnogol) hefyd. Mae’r Daily Post yn galw Andrew Lenny yn “vicar” sy’n arwydd o anwybodaeth gohebwyr cyfryngau Cymru am ein diwylliant ac mae’r pennawd yn fwy eithafol na chynnwys y stori – ond mae stori Golwg360 ychydig yn wahanol. Yn ogystal â’r anogaeth i ddefnyddio’r stampiau “Cristnogol”, mae’n honni mai dim ond rhai “Cristnogol” y dylid eu cyhoeddi.

Pan ymddangosodd y stori ar Golwg360 gyntaf, enw Alun Lenny oedd ynddi ond cafodd ei newid wedyn i Andrew Lenny a “llefarydd”. Nawr, Andrew Lenny yw Llywydd Undeb yr Annibynwyr ond Alun Lenny, ei gefnder, yw’r Swyddog Cyfathrebu. Pe bai’n rhaid i mi roi fy mhen ar y bloc, fe fentrwn mai steil Alun yn hytrach nag Andrew a welwn mewn rhannau o stori Golwg360. (Mae’n bosib hefyd bod Golwg360 wedi “addasu” rhai o’r dyfyniadau.)

“Yn ôl y cyfrifiad diwethaf roedd tua 70% o bobol Cymru yn ystyried eu hunain yn Gristnogion.

“Felly ry’n ni’n teimlo na fyddai’n afresymol disgwyl i’r Swyddfa Bost gyhoeddi stampiau o’r Geni yn unig a dim byd arall,” meddai.

Wot??! Mae Alun Lenny’n hoff iawn o ddyfynnu’r ffigwr hwn o 70% er ei fod yn gwybod cystal â neb, am wn i, nad yw’n adlewyrchiad cywir o sefyllfa Cristnogaeth yng Nghymru. Mae pobl wedi bod yn dweud wrth lenwi’r Cyfrifiad mai Cristnogion ydyn nhw am nifer o wahanol resymau ond dwi’n rhagweld gostyngiad eitha dramatig yn y Cyfrifiad neu ddau nesaf. Mae pobl yn dod yn fwy onest ynglŷn â’u cred/diffyg cred.

Pwy yw’r “ni” yma? A sut fydden “ni’n teimlo” pe bai dim ond 30% o bobl Cymru’n dweud ar y cyfrifiad nesa eu bod yn “ystyried eu hunain yn Gristnogion”? Neu pe bai’r Post Brenhinol yn cyfeirio at y ffaith mai “Dim ond tua 15% (?) o bobl Cymru sy’n mynd i gapel neu eglwys”. Fydden “ni’n teimlo” na ddylid argraffu stampiau â lluniau Cristnogol o gwbl wedyn – o ddilyn rhesymeg y dyfyniad uchod? Mae ystadegau’n bethau peryg i’w taflu o gwmpas!

Yn fy marn i, job y Post Brenhinol yw dosbarthu llythyrau, nid efengylu. Rhan, yn unig, o’r Nadolig cyfoes yw’r wedd Gristnogol ac mae’r Post Brenhinol yn cydnabod y wedd hon trwy gyhoeddi stampiau newydd â lluniau Cristnogol bob yn ail flwyddyn a sicrhau bod “degau o filiynau” o rai felly ar gael eleni i’r sawl a’u mynn.

Mae’r Scottish Daily Express wedi mynd dros ben llestri’n llwyr am y peth â’u pennawd “Royal Mail bans religion” – “Church leaders are furious …”

Mae Jonathan Bartley yn ymateb i hyn yn ei flog ar wefan ddifyr Ekklesia. Roedd wedi rhagweld yr hw-ha ym mis Medi – mae’n codi bob yn ail flwyddyn pan gyhoeddir y stampiau â’r lluniau seciwlar, meddai fe, gan ychwanegu bod ganddo ffrind o Gristion efengylaidd yn gweithio i’r Post Brenhinol yn delio â gohebiaeth a chwynion:

“He used to tear his hair out every time these stories cropped up. He felt that these stories made Christians look incredibly stupid. I am inclined to agree with him.”

Efallai bod “incredibly stupid” yn gor-ddweud yn gyffredinol (er bod rhai o’r sylwadau ar wefan y Scottish Express yn anhygoel o ddwl) ond fyswn i’n cytuno bod gan Annibynwyr a Christnogion yn gyffredinol bethau pwysicach o lawer i boeni amdanyn nhw na Wallace a Gromit.


… yn eu gynau gwynion ac ar eu newydd wedd

Medi 24, 2010

Felly mae cynlluniau ar droed i ailwampio’r Orsedd.

Bwriad y cynllun yw sicrhau bod pawb sy’n dod yn aelod o’r Orsedd o 2012 ymlaen yn gwneud hynny ar yr un gwastad, gan ddileu’r dosbarthiad Ofydd a Derwydd. Fe fyddai’r Gorseddigion yn dal i wisgo lliwiau gwahanol, gyda’r lliwiau’n cynrychioli arbenigedd eu cyfraniad neu’u dawn mewn maes arbennig.

Mae’r Orsedd hefyd yn trafod y posibilrwydd o greu lliw newydd, ar gyfer y rheini a dderbynir ar sail eu harbenigedd neu’u cyfraniad i gymdeithas neu fyd y campau. Nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud ynglŷn â lliwiau eto.

Dim ond y rhai sy’n ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd a fydd yn cael eu hurddo i’r Wisg Wen, a byddai’r Wisg hon yn parhau i gydnabod y berthynas arbennig sy’n bodoli rhwng yr Orsedd a’r Eisteddfod ei hun.


Does gen i ddim diddordeb mawr yn yr Orsedd. Aeth nifer o’n ffrindie oedd wedi gwneud gradd yn y Gymraeg neu Gerddoriaeth i berthyn ar ôl graddio – roedden nhw’n cael mynediad awtomatig – ond wnes i ddim hyd yn oed holi a fyddai gradd mewn Astudiaethau Celtaidd yn agor y drws i mi. Dw i’m yn meddwl eu bod nhw wedi bod yno lawer wedyn, chwaith.

Y syndod i mi yw bod cynifer o Eisteddfodwyr yn fodlon colli diwrnod neu ddau neu dri o’r Eisteddfod oherwydd yr Orsedd. Dim ond wythnos mae’r Steddfod yn bara ar y gorau ac mae amser yn brin – fyswn i’n gwarafun colli sesiynau difyr er mwyn llyffanta mewn coridorau ac eistedd ar y llwyfan mewn gwres llethol yn gwylio cefnau’r rhai sy’n cymryd rhan.

Onid yw hi braidd yn eironig bod rhai o’r bobl fyse’n mwynhau’r Steddfod fwyaf yn cael eu clymu gan yr Orsedd am dridiau? Mae’n galw am deyrngarwch rhyfeddol!

Byddai’n ddiddorol gwybod pwy yw’r bobol sy’n mynd i weithgareddau’r orsedd. Faint ohonyn nhw gafodd eu derbyn trwy arholiad/gradd, faint gafodd eu hurddo am eu cyfraniad i gymdeithas, faint am fod yn amlwg mewn gwahanol feysydd a faint sydd yno am eu bod wedi ennill gwobrau yn y Brifwyl. Faint o’r gwahanol grwpiau hyn sy’n Eisteddfodwyr selog ond byth yn mynd i weithgareddau’r Orsedd? A faint sy byth yn dod ar gyfyl y Steddfod?

Roedd D Ben Rees ar y radio pa ddiwrnod yn dweud ei fod yn beth cas eich bod yn gorfod gofyn i bobl am ganiatâd i’w henwebu i gael eu hurddo er anrhydedd ac yna nad oes esboniad i’w gael os cânt eu gwrthod. Mae’n siwr bod hynny’n gwneud rhai gorseddogion yn gyndyn o enwebu pobl. Ond, ar y llaw arall, un o’r cynigion newydd sydd gerbron yw na “fyddai neb yn cael enwebu mwy na thri enw ar gyfer yr Orsedd bob blwyddyn” – sy’n awgrymu bod rhai pobl yn dueddol o enwebu ribidires o ffrindiau a pherthnasau!

O ran cael pawb i mewn ar yr un gwastad – dw i ddim yn gwbod. Mae rhywun yn teimlo efallai nad y bobl fwyaf haeddiannol sy’n cael eu hurddo er anrhydedd bob amser ond mae’n siwr bod hynny’n wir gydag unrhyw system anrhydeddau. Dw i ddim yn gwybod faint o wahaniaeth fyddai’r drefn newydd yn ei wneud. Ond mater i’r Orsedd yw hynny, siwr o fod. Alla i ddim meddwl am liw arall fyddai’n edrych yn dda gyda glas, gwyrdd a gwyn, chwaith – blaw du!

Beth bynnag, mae’r Orsedd yn dod â thipyn o liw i’r Steddfod ac yn denu pobl i’r prif seremonïau – well nag edrych ar res o ddynion mewn siwtiau, am wn i.


Ydw i’n afresymol?

Medi 21, 2010

Rhywun dwi’n ddilyn ar Facebook neu Twitter (dwi’m yn cofio pwy a dwi’n ffaelu ffeindio’r cofnod) newydd ddweud bod ei fab wedi bod ar raglen gwis ar S4C o’r enw Diwedd y Byd. O ran myrraeth mi gliciais ar y linc i weld y rhaglen. Tîm o Lanharri oedd ‘na – tua blwyddyn 7 swn i’n feddwl – ac roedden nhw’n ardderchog – annwyl a gwybodus.
Ond ddwywaith fe soniodd yr holwr am “dri llong” ac roedd ‘na gwestiwn ar y sgrin yn sôn am “y driongl”. Wir! Chware teg i’r plant!

Dwi’n gwbod nad ydi cenedl enwau bob amser yn amlwg yn y Gymraeg ond os nad ydi pobl broffesiynol sy’n ennill cyflog am weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn siŵr o’r pethau hyn, y peth lleia allan nhw ei wneud yw edrych mewn geiriadur, does bosib?
Mae’n gas gen i pan fydd pobl yn pigo ar ryw fân frychau iaith ond wir, mae ‘na’r fath beth â balchder proffesiynol!

Teimlo’n well nawr.


Cynulleidfaoedd (1)

Medi 21, 2010

Mae Nic Dafis yn codi pwynt difyr yn Morfablog. Yn y cofnod Bygythiad Tawelwch, mae’n cyfeirio at sioe amlgyfrwng The Threat of Silence a welodd yn Theatr Mwldan.

Un peth wnaeth daro fi oedd bod teitl y darn yn uniaith Saesneg, ac er bod y testun sy’n ymddangos ar y sgrîn tu ôl i’r perfformwyr (o waith Margaret Cameron, o Awstralia) hefyd yn uniaith Saesneg, oedd Eddie Ladd yn adrodd, canu ac hyd yn oed ystumio y geiriau yn ddwyieithog, yn ei ffordd naturiol, hypnotig ei hunan. Pe tasai’r perfformiad wedi ei hysbysebu’n ddwyieithog, dw i’n siwr byddai Theatr Mwldan wedi gwerthu llawer mwy o docynnau. Er i mi weld sawl un dw i’n ei nabod o ardal Llangrannog, doedd dim llawer o Gymry Cymraeg yna o gwbl. Colled mawr.

Mae hyn yn codi ambell i gwestiwn difyr:
1) Pam nad oedd sioe ddwyieithog wedi cael ei hysbysebu’n ddwyieithog? Mae’r teitl yn swnio hyd yn oed yn well yn Gymraeg. Ai rhag ofn dychryn y di-Gymraeg ‘ta dim ond heb styried y potensial i ddenu mwy o Gymry Cymraeg?
2) Pam y mae Cymry Cymraeg yn gyndyn o fynd i bethau diwylliannol sy ddim yn Gymraeg? Fues i’n gweld Côr Siambr Philharmonig Estonia yn Galeri, Caernarfon yn ddiweddar. Roedd yno gynulleidfa weddol ond, o beth glywn i, roedd yno lawer o Saeson. O gofio bod cynifer o Gymry Cymraeg yn canu mewn corau o fewn rhyw 20 milltir i Gaernarfon a bod hwn yn cael ei gyfrif yn un o’r corau gorau yn y byd, roedd yn dipyn o syndod nad oedd mwy ohonom yno.
Rwy wedi sylwi ar hyn mewn digwyddiadau Saesneg a rhai gan gwmniau tramor o’r blaen. Wrth gwrs, mae’n well bod Cymry Cymraeg yn mynd i bethau Cymraeg nag yn peidio â gwneud ond tybed ydyn ni’n rhy dueddol o sticio at y cyfarwydd?
3) Roedd nifer go dda o Saeson – mewnfudwyr mae’n debyg yn ôl eu hacenion – yng nghyngerdd y côr o Estonia er nad oedden nhwythau, fwy na ninnau, yn deall yr un gair o’r caneuon. Ond rwy’n cael yr argraff mai ychydig o’r Saeson hynny fyddai’n ystyried dod i gyngerdd gan gôr lleol, da. Snobyddiaeth? Diffyg ymdeimlad o berthyn?

Jest cwpwl o sylwadau.


Gwireddu’r Addewid?

Medi 19, 2010

Fues i’n gweld Gwlad yr Addewid, Theatr Genedlaethol Cymru yr wythnos ddiwetha.
Penderfyniad munud olaf oedd e. Do’n i ddim wedi clywed llawer o ganmol i’r cynhyrchiad ac roedd gen i lond lle o bethau eraill i’w gwneud ond wedyn, mae’n un o’r dramâu hynny dwi’n teimlo y dylwn i fod wedi’i gweld. Roedd rhyw ramant yn perthyn i’r enw House of America, ro’n i’n disgwyl rhywbeth eofn, cynnil, oesol, trasig.
gwlad yr addewid
Ro’n i wedi darllen adolygiad Meg Elis yn Cylchgrawn cyn mynd ac roedd hi’n awgrymu mai Sara Harris-Davies oedd yn ymgodymu orau â’r dafodiaith. Felly, pan ddaeth y fam i’r llwyfan â’i hacen ERCHYLL, roedd yn gas gen i feddwl sut y byddai’r lleill yn ymdopi. Ond wir, ro’n i’n teimlo’u bod nhw wedi cael gwell hwyl arni. Doedden nhw ddim yn swnio mor amlwg Cwm Tawe ac roedd tipyn o Gaerdydd i’w glywed yn acen Siôn Young (y boi ifanc yn Llwyth) ond o leia doedden nhw ddim yn swnio fel tysen nhw’n dod o ganol rhyw Adroddiad Digri. Rhaid bod y gogleddwr (Rhodri Meilir) wedi bod yn ymarfer ei acen ers y Steddfod.

Ar y cyfan, rhaid dweud na ches i ddim o’n argyhoeddi gan y cynhyrchiad. Roedd rhywbeth yn dreuliedig amdano a do’n i ddim wir yn cydymdeimlo â neb – heblaw Boyo weithiau. Ro’n i’n disgwyl drama gynnil, galed ond roedd y diffyg cynildeb yn gwneud y darnau ‘caled’ yn llai effeithiol. Roedd elfen o ffars yn y darn gydag Alun ap Brinley – anfwriadol, am wn i?

Ro’n i’n teimlo bod y llwyfan yn rhy eang – roedd y fam yn edrych yn fach yn ei chegin ar y dechrau. Byddai rhywbeth mwy claustrophobic wedi bod yn well. Ro’n i’n meddwl bod y ‘tric’ mawr gyda’r set yn eitha effeithiol – wir, gallai’r ddrama fod wedi dod i ben bryd hynny.

Fel pawb arall, ro’n i’n dotio at y cyfieithiad llithrig a swynol. Fyswn i’n licio gweld y fersiwn Saesneg nawr i weld ai fi sydd wedi camddeall neu a oedd rhywbeth o’i le gyda’r cynhyrchiad yma.


Mas bob nos

Medi 9, 2010

Wel, ers i fi sgrifennu’r blog diwetha mae fy mywyd cymdeithasol wedi’i drawsnewid. Fues i mewn cyngerdd gyda ffrind nos Sul, yn Merched y Wawr nos Fawrth ac i weld drama gyda ffrind arall neithiwr. Ardderchog!

Dydw i ddim yn or-hoff o gorau fel rheol ond pan ddywedodd Wyn Ail Symudiad ar Facebook ei fod wedi gweld yr Estonian Philharmonic Chamber Choir yn Nhyddewi a’u bod nhw’n “hollol unbelievable…..!”, fe benderfynais fynd i Galeri i’w gweld nos drannoeth. Chware teg, roedden nhw wedi dod yn bell. Roedd oedfa Sul Nôl i’r Capel yn Nhrefor nos Sul a phaned i ddilyn felly aeth hi braidd yn ben set ond fe gyrhaeddodd Llinos a fi mewn pryd.

Roedd arweinydd y côr yn dipyn o ges, ro’n i’n licio’i hiwmor e (a’i siwt grychlyd!), a’r côr i’w weld yn ymlacio’n braf ond, pan oedden nhw’n canu, roedden nhw’n canolbwyntio’n llwyr. Roedd ganddyn nhw sŵn pur, gwych. Ro’n i’n rhyw deimlo bod y caneuon braidd yn debyg i’w gilydd – yn enwedig gan nad oedden ni’n deall y geiriau. Roedden nhw wedi gorfod ailwampio’r rhaglen am fod acwsteg Galeri’n “sych” a dwi’n siwr y byddai’r sain gymaint â hynny’n well eto mewn eglwys neu ogof. Gafodd Llinos dipyn o dips i fynd adre i Gôr Bro Gwerfyl!

Yna, dydd Mawrth, gwawriodd y diwrnod ro’n i wedi bod yn edrych mlaen yn nerfus amdano! Diwrnod Merched y Wawr. Gylp! Ro’n i’n eitha ecseited ond wrth i’r amser ddod yn nes, roedd fy stumog i’n rhoi ambell i dro. Orfododd Megan fi i newid dair gwaith cyn cychwyn – set gynta o ddillad rhy smart, ail set yn neud i fi edrych fel hen ddynes a’r drydedd yn weddol.

A bant â ni ar y bws i Glynllifon. Gwynedd, un o’r Wardeniaid aeth â ni o gwmpas y llwybrau. Roedd e’n arweinydd ardderchog – roeddech chi’n cael y teimlad bod ganddo lot mwy o wybodaeth am hanes a bywyd gwyllt y lle nag y gallai ffitio i mewn. Roedd pawb yn cymysgu’n naturiol ar y llwybrau a digon i sôn amdano wrth fynd.
Yna, fel roedd hi’n dechrau bwrw, i ffwrdd â ni, i Dinas Dinlle a Bwyty Lleu. Ges i lasagne a salad a bara garlleg ac, ar wahan i ollwng diferion o fenyn garlleg ar fy ffrynt (fel arfer) mi aeth yn ardderchog. Cymerodd y rhan fwya’r Belgian Waffles i bwdin, hyfryd! Ro’n i wedi bod yn poeni am nad ydw i’n clywed yn dda mewn crowd. Do’n i ddim yn clywed pob peth – mae’r llawr pren, byrddau pren a chadeiriau pren yn ei wneud yn lle braidd yn swnllyd – ond ro’n i’n dilyn y sgyrsiau o ‘nghwmpas yn o lew – am wn i! Edrych ymlaen at fis nesa nawr!

Wrth y bwrdd bwyd dyma drefnu gyda Jane i fynd i weld Merched Eira ym Mhwllheli nos drannoeth. Ro’n i wedi gweld y ddrama o’r blaen yn Steddfod ond roedd cysgu mewn tent, yr holl awyr iach a’r gorlwytho diwylliannol yn golygu bod blinder wedi ngorchfygu a buodd raid i Megan roi aml i hergwd i mi er mawr cywilydd iddi hi (a fi) – yn enwedig gan fod Aled Jones Williams yn eistedd tu ôl i ni!
Heno ro’n i’n fwy effro a wnes i ddychryn braidd pan ddaeth yr hen ddyn i mewn ar y dechrau. Do’n i ddim yn deall sut allwn i fod wedi cysgu mor fuan a cholli’r dechrau i gyd. Ond yna fe sylweddolais i mai monolog newydd oedd hwn. Ro’n i wrth fy modd â’r syniad o’r plentyn yn hanner deall a lled-sylweddoli ac yn cael ei siarsio i anghofio, yng nghyd-destun yr hen ŵr yn dioddef o dementia. Llwyddodd Martin Thomas i ddal fy sylw o’r dechrau i’r diwedd.

merched eira


Yna daeth Merched Eira. Ar y dechrau, fel sy’n digwydd yn aml os dwi’n gweld drama am yr ail waith, ar deledu neu lwyfan, ro’n i’n ymwybodol mai actorion oedd yma yn dweud leins. Ydi hynny’n deimlad cyffredin? Ond fe ddes i dros hynny. Roedd y ddrama’n symud reit gyflym a rhwng treio rhoi trefn ar y sefyllfa a gwerthfawrogi’r one-liners ffraeth a threiddgar, doedd dim angen poeni am gysgu. Tybed oedd rhai o’r llinellau’n rhy stroclyd? – y math o beth sy’n gwneud i bawb fynd “Mmmm!” yn ddeallus nes bo chi’n dechrau meddwl beth mae’n ei olygu. Ond wedyn, os ydyn nhw’n taro rhyw dant yn rhywun, faint o ots sy am yr union ystyr? Pethe fel “Mae gan bawb ddrws ochor.” Mm, oes wir…. Oes?
Ro’n i’n teimlo mewn rhai darnau tua’r canol bod ‘na ormod o eiriau – cymariaethau aballu wedi’u llwytho’n un pentwr i’n llethu ni. Roedd well gen i’r darnau deialog miniog lle’r oedd y merched yn ymateb i’w gilydd. Roedd ‘na ddigon i feddwl amdano yma – cyfeillgarwch, cymhlethdod perthnasau, henaint, anghofrwydd (eto), awydd i ddianc – ond wna i ddim dechrau traethu’n ddeallus – achos dydw i ddim! Ac roedd Martin Thomas yn berl!
Gyda llaw, mae’n hen bryd i Bara Caws ddiweddaru eu gwefan. Mae’n anodd ei ffeindio ac yn eithriadol o hen ffasiwn!
Reit, lle nesa?!