Caeth i ‘gaeth’

All rhywun plîs ddweud wrtha i pam mae rhywun, yn rhywle, wedi penderfynu dysgu ‘caeth’ i ddysgwyr – 3ydd person, unigol, gorffennol, ‘cael’.
Dyw e ddim fel tysen ni’n brin o ffurfiau Cymraeg, dilys, naturiol – cafodd, cadd, cath, cas, cæth.
Dw i’n deall sut mae’r peth wedi codi. Yn wir, dw i’n cofio cael fy nghywiro am sgrifennu ‘caeth’ pan o’n i tua 7, yn Class Miss.
Ry’n ni’n dweud “ath” a “dath” ond yn sgrifennu “aeth” a “daeth”, felly mae’n naturiol i blentyn feddwl ein bod yn dweud “cath” ac yn sgrifennu “caeth” ond mae rhywun – rhywbryd ar ôl cyhoeddi fy nghopi i o “Cymraeg Byw” yn 1970 – wedi penderfynu ‘smwddio’ tipyn ar yr iaith er mwyn y dysgwyr.
Beth sy’n digwydd wedyn pan fydd y dysgwyr yn croesi’r bont ac yn cael gwaith lle mae gofyn iddyn nhw sgrifennu Cymraeg go iawn? Ydyn ni’n dweud – “Sori, dim ond jôcan oedden ni. Chei di ddim sgrifennu ‘caeth’.”?
Does neb yn dweud “caeth”. Fues i mewn trafodaeth am hyn ar un o’r fforymau ‘ma tua dwy flynedd yn ôl a dw i wedi bod yn gwrando ers hynny. Yr unig un i mi ei glywed yn dweud ‘caeth’ oedd dysgwr o Gaerffili.

Mae ffurfiau berfau fel “dych” a “dyn” yn mynd o dan ‘y nghroen i hefyd. Fel yn
“Dych chi erioed wedi gweld Iesu, ac eto dych chi’n ei garu e. Dych chi’n credu ynddo …” a “Dyn ni’n gwybod y byddan nhw yn ôl.” Dyw’r rhain ddim yn naturiol ar lafar nac ar bapur. Maen nhw’n cael eu defnyddio yn beibl.net a dwi’n teimlo’u bod nhw’n anodd iawn i’w darllen yn synhwyrol.

Mae Gareth King, awdur amryw o lyfrau i ddysgwyr, yn dweud pethau digon rhyfedd!

Mae’n sgrifennu rhifau fel un ribidires – ‘pedwararddeg’, ‘pedwararbymtheg’, “dauddeg” (20) a “pedwardeg pump” – mae hynny’n mynd yn erbyn cymeriad naturiol y Gymraeg – heb ei gwneud fymryn yn haws i ddysgwyr! (tud 86, Basic Welsh).

Mae hefyd yn gwneud datganiadau ysgubod di-sail – Basic Welsh, Gareth King eto, tud 71, “The aspirate mutation is not applied with any consistency in the spoken language: in some areas it is practically unknown and in many others its use and application is severely restricted.” Ac mae’n rhoi enghreifftiau yn Intermediate Welsh: “stafell wedi’i tacluso (more formal: thacluso); oriawr wedi’i trwsio (more formal: thrwsio).

Dwi’n sylweddoli bod pethe’n reit llwm ar yr hen dreiglad llaes ond, wir, mae hwn yn rhoi hwp iddo dros y dibyn!

Oes raid i rywun roi sêl bendith ar bethau fel hyn cyn eu cyhoeddi? Dwi’n sylwi mai Routledge sy’n cyhoeddi ei lyfrau – ydi hynny’n golygu nad ydyn nhw’n gorfod mynd trwy’r Cyngor Llyfrau?

Ro’n i’n gweld Gareth King yn cael ei ddisgrifio fel “siwdo-ramadegydd” mewn llythyr yn Golwg yr wythnos yma. Mae hynny’n swnio’n beth creulon iawn i’w ddweud a dwi’n siwr bod ‘na bethe da iawn yn ei lyfrau ond mae’n ddigon anodd ar ddysgwyr ar y gorau, heb iddyn nhw gael eu camarwain fel hyn.

23 Responses to Caeth i ‘gaeth’

  1. siantirdu yn dweud:

    Nôl at Gareth King, druan!

    Mae’n dweud bod treiglad llaes ar ôl “a, â, gyda, tra, tri, chwe, ei” ac wedyn:
    “AM is not consistently applied after any of these words in many areas although it is fairly common after “ei”.

    “fairly common”!!! Mae hynna jest yn gelwydd!

    Tybed ydi’r paragraff yma o ddechrau “Modern Welsh” yn bwrw rhyw fath o oleuni ar ei syniadau od:

    “Literary Welsh, on the other hand, is no-one’s native language. All those who know how to read it, whether Welsh speakers or not, have been taught. In this sense it is an artificial language – consciously planned and designed to standardize the written language at the time of the translation of the Bible into Welsh (16th century) and by and large with a deliberate disregard for the native speech of ordinary people. Its subsequent undoubted success as the medium of a prolific literature has been at the expense of Colloquial Welsh, neglected and relentlessly disparaged by a powerful (Welsh-speaking) minority who had much to gain from putting the main means of expression of the cultural identity out of the reach of the majority.”

    Dw i ddim yn arbenigwr ar hyn ond mae’n swnio i mi fel pe bai’n ystumio’r ffeithiau at ei ddibenion ei hunan yn fan’na. Roedd William Salesbury ac eraill yn dymuno rhoi bri ar yr iaith a’i pharchuso efallai ond nid er mwyn ei chadw o afael y mwyafrif, does bosib?

  2. Richard yn dweud:

    Fel y nodi, mae Gareth yn dod at ramadeg y Gymraeg a hanes yr iaith o safbwynt arbennig, fel y mae pob un wrth gwrs, a chwarae teg iddo am fod yn agored am ei fframwaith theoretig. Ond, dw i’n cytuno bod y theori weithiau yn drech na’r ffeithiau. Mae e’n son am wahaniaethau daeryddol, sy’n ddigon teg, ond mae eisiau sob am wahaniaethau cymdeithasol ehangach e.e. oedran – mae’n bosib bod mwy yn gyffredin rhwng Cymraeg llafar plentyn 10 oed yng Ngwynedd a phlentyn 10 oed yng Nghaerffili, na rhwng y plentyn hwnnw ac oedolyn 60 oed yng Ngwynedd. Dagrau pethau yw cyn lleied o astudio sydd ar nodweddion yr iaith (llafar ac ysgrifenedig) yn ei holl ffurfiau, ac felly mae’r cyfan yn dod i lawr i ganfyddiad goddrychol unigolion.

  3. Emma Reese yn dweud:

    Dysges i’r ffurf “cafodd” yn ôl y llyfrau gramadegol flynyddoedd yn ôl, ond mae’r cwrs trwy’r post gan Brifysgol Bangor yn dysgu’r ffurf “caeth.” Mae Saysomething in Welsh yn dysgu “cath” hefyd os cofia i’n iawn. Felly baswn i’n dweud “cath” ar lafar a sgwennu “caeth” ar achlysur anffurfiol, a sgwennu “cafodd” mewn un mwy ffurfiol. Dw i wedi bod yn dibynnu’n drwm ar lyfrau G.King er fy mod i ddim yn cyntuno â phopeth mae o’n ei ddweud.

  4. siantirdu yn dweud:

    Diolch! Dw i wrth fy modd yn cael ymateb i’r blog ‘ma!

    O gwglo’n sydyn, mae’n edrych yn debyg mai gan ddysgwyr ac mewn defnyddiau i ddysgwyr mae “caeth/gaeth” yn digwydd amlaf o bell ffordd o hyd – diolch am hynny! Ond os ydi e’n cael ei ddysgu i ddysgwyr, mater o amser yw hi nes y byddan nhw’n ei ddysgu yn yr ysgolion.
    Dw i’n gwybod bod iaith yn newid ond, fel rheol, newid yn naturiol y mae hi – nid am fod rhyw bwyllgor (?) wedi penderfynu gwneud pethau’n haws i ddysgwyr!

  5. Emma Reese yn dweud:

    Roeddwn i’n meddwl mai tafodiaith y Gogledd oedd ‘caeth.’ Mae Aran Jones o Saysomething yn dysgu ffurf ogleddol sy’n cael ei siarad yn gyffredin yn ei ardal dw i’n meddwl. Pwnc pwysig i mi ydy hwn. Faswn i ddim eisiau defnyddio geiriau a gafodd eu dyfeisio i ddysgwyr.

  6. Richard yn dweud:

    Mae llyfr Beth Thomas a Peter Wynn Thomas ar y tafodieithoedd – Cymraeg, Cymra^g, Cymre^g yn rhoi’r ffurfiau llafar canlynol am y ferf ‘cael’ (t.68)
    Bangor cafodd, cath
    Ceinewydd cath, cas
    Penfro cas, cesodd
    De-ddwyrain ca+es

    Fel y mae Sian yn awgrymu, mae’n debyg bod rhywun / rhywrai wedi ‘llenyddoli’ ‘cath’ yn ‘caeth’ ar lun ‘aeth’ a ‘daeth’.

  7. siantirdu yn dweud:

    Os dw i’n cofio’n iawn, roedd plant yn dweud “gelodd” hefyd ym Mhencader yn y 60/70au (gan ddilyn patrwm “gelon ni, geloch chi, gelon nhw”). Does gen i ddim cof bod oedolion yn dweud hynny.

    Dw i wedi treio mynd i saysomething i weld beth sy ‘na ond mae’n gwneud i Safari grasho!

  8. Tywyllwch yn dweud:

    Dwy’i ddim yn siwr beth yw eich cwyn ynglyn a ‘dyn’ a ‘dych’. Byddwn i’n dweud eu bod yn gyffredin iawn ar lafar ac ar bapur ( wel, wedi eu sgrifennu beth bynnag ). Rwy’ newydd chwilio rhestr tafod termau technegol yn ogystal a safle’r BBC ac maen nhw’n digwydd yn aml. Maen nhw i’w clywed trwy’r amser ar y radio.

  9. siantirdu yn dweud:

    Os rhoi di “dych chi” i mewn yn Gwgl, mae’r holl atebion ar y ddwy dudalen gynta naill ai gan ddysgwyr neu’n ddefnyddiau ar gyfer dysgwyr – neu beibl.net. Mae rhyw sawr gair gwneud – Cymraeg Byw – amdano.

    Yn fy mhrofiad i: ar lafar: De: “Ni’n mynd i’r dre fory” neu “Ŷ’n ni’n mynd i’r dre fory”; “Odyn ni’n mynd i’r dre fory?” “So ni’n mynd i’r dre fory”;
    Gogledd “Dan ni’n mynd i’r de fory.” “Ydan ni’n mynd i’r dre fory” “Dan ni ddim yn mynd i’r dre fory”

    Wedi dweud hynny, mae’r ffurf ‘Cymraeg Byw’ “dydyn ni ddim” fel pe bai wedi ennill ei blwyf wrth sgrifennu hyd yn oed yn weddol ffurfiol.

    Mae’n anodd i beibl.net – cyn ei ddarllen yn uchel, mae angen mynd trwyddo a’i addasu at eich iaith naturiol chi neu mae’n gallu swnio’n glonciog. Mae’n adnodd gwerthfawr ac mi ydw i’n ei hoffi – yn enwedig ar gyfer yr epistolau lle mae’n help i ddeall neu ailystyried yr ystyr. Ond gan ei fod yn defnyddio ffurfiau hir y ferf ac ati, mae’n gallu swnio’n eiriog iawn.

    • Tywyllwch yn dweud:

      Nid yw dau dudalen cyntaf Gwgl yn profi dim. Mae peiriant chwilio ond yn dangos pa dudalennau sydd fwyaf poblogaidd. Hyd yn oed wedi dweud hynny rych chi’n anwybyddu un peth pwysig ynglyn a “dyn” a “dych” sef eu bod yn dalfyriadau o ffurfiau safonol “rydyn” a “rydych” ac yn aml yn ymddangos gyda chollnod o’u blaenau i dangos hynny. Mae llawer, wrth fabwysiadau arddul llai ffurfiol, yn ceisio cadw yn gyson a’r ffurfiau llenyddol trwy dalfyrru yn hytach na newid sillafiad. Mae ffurfiau megis “‘(d)ych chi”, “‘(d)yn ni” felly yn fwy parchus.

      Rych chi wedi dewis anwybyddu’r rhestr llawn cyfieithwyr ac athrawon wnes i son amdani, neu’r BBC. Gallwn ychwanegu safleoedd .gov.uk, .ac.uk sydd hefyd yn llawn defnydd o’r ffurfiau – mwy na thebyg wedi eu sgrifennu gan Gymry Cymraeg.

      Maen nhw’n anffurfiol heb fod yn or-dafodieithol.
      Mae’n amhosib darllen “dan ni” neu “odyn ni” heb glywed acen gref.

  10. siantirdu yn dweud:

    Mae pethau fel:
    “Dych chi’n cerdded llawer neu dych chi braidd yn ddiog?” http://www.agored.org.uk
    A “Sut dych chi?” http://www.acen.co.uk
    “Dych chi’n byw yn y wlad?” radioacen
    “Dych chi’n gallu dewis faint o ddosbarthiadau dych chi’n ymweld â nhw.”
    yn swnio’n rhyfedd i mi – rhyw fath o fongrel rhwng llafar a ffurfiol!

    Mae’n anodd wrth ddysgu iaith lafar ar bapur – pa mor llafar ydych chi’n mynd?
    Peth cymharol ddiweddar yw hyn – byddai’n werth edrych i weld beth oedd awduron yn ei wneud cynt.

    (Wnaethoch chi ddim dweud beth oedd y rhestr ‘ma!)

  11. Rhisiart yn dweud:

    Mae eich sylwadau’n ddigon teg, yn fy marn i, ond ’rwy’n ofni math peth anffodus gweddol ddibwys yw arfer ‘caeth’ a bod gwallau gramadegol (methu ffurfio isgymalau, defnyddio amser anghywir y ferf, rhoi’r ferf ar ddechrau pob brawddeg ac yn y blaen)a chamdreiglo llawer o ddysgwyr (a llawer a fagwyd yn Gymraeg) yn ddigon i beri gwir bryder. Gwir mai sôn am gamarwain ’rydych chi, ond pe bai popeth arall yn iawn, digon diniwed fyddai ‘caeth’ ar ei ben ei hun.

  12. siantirdu yn dweud:

    Digon teg.

    Ond dwi’n teimlo dros y dysgwr bach brwd sy’n mynd adre o’i wers Gymraeg ac yn cyfarch Mrs Jones, Drws Nesa – “Sut dych chi? Gaeth John bedwardeg y cant yn ei brawf.”
    Mae dysgu Cymraeg yn ddigon anodd heb orfod dysgu ffurfiau sy’n eich marcio chi fel dysgwr.

    Un diwrnod fe gwrddais i â ffrind nad oeddwn i wedi’i gweld ers blynyddoedd. Roedd y plant yn gwybod amdani ond heb gwrdd â hi, Roedd hi’n ddysgwraig dda chwarter canrif yn ôl ac, ers hynny, mae wedi priodi Cymro, magu tri o blant, byw mewn pentref Cymraeg, cymryd rhan weithgar yn y pentre a gwneud ei gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar ôl iddi fynd, dyma un o’r plant yn dweud “Wyddwn i ddim mai dysgwraig oedd ***.” Pan holais sut oedd yn gwybod, meddai “Ddwedodd hi ‘dydyn ni ddim'” – ar ôl yr holl flynyddoedd – un peth bach yn digon i’w bradychu!
    (Nid ei bod hi am wadu mai dysgwraig oedd hi, wrth gwrs.
    A dwi’n siwr bod ‘na Gymry iaith gynta sy’n dweud “dydyn nid ddim” – ond chi’n gwbod be dwi’n feddwl!)

  13. Iestyn yn dweud:

    Post (a blog) diddorol, Sian (wi newydd ddod yma o Maes-e)

    I ateb unrhyw gwestiwn sydd gyda chi ynglyn a’r ffurf sy’n cael ei dysgu ar SaySomethingInWelsh… So ni wedi cyrraedd at ferfau cryno eto ar SSIW – yn y cyrsiau cynnar, defnyddio’r ffurf anghyfforddus-ond-syml “Wnaeth e gael” ‘yn ni. Pan ddaw’r berfau cryno, cas e / cas hi bydd yn y cwrs deheuol – nag wy’n gwbl siwr beth ma Aran yn gweud, felly alla’i mo’ch helpu gyda dyfodol y cwrs gogleddol…

    Wi heb ystyried y ffurf “caeth” o’r blaen. Ar ol dysgu “cwrs nos” am ychydig flynyddau, dantes i ar ddysgu “Cafodd e” ayb, a dysgu’r un ffurf i’r pedwar berf: aeth, daeth, gnaeth, caeth (ond wrth gwrs, wedi ynganu gydag “a” deheuol yn hytrach nag “ae” llythrennol. Hwyrach taw dyna yw theori’r addysgwyr (a rhaid cyfaddef nad o’n i’n sylweddoli ei fod e’n anghywir tan nawr!), ond dylid cael rhyw “small print” yn weddol gynnar er mwyn i bobl wbod taw “llwybr tarw” at siarad yw e, yn hytrach na’r rheol cywir.

  14. Rhisiart yn dweud:

    Rhaid imi ddweud fy mod yn gweld yr holl amrywiaeth o gyrsiau gogleddol a deheuol yn gwbl ddiangen, ac ar y cyfan, yn eithaf niweidiol. Maent yn dangos ffordd arbennig o feddwl am y Gymraeg: fel iaith leol, fel iaith trafod manion dibwys, fel iaith sgwrsio am y tywydd ac fel iaith na fydd ei hangen i wneud pethau swyddogol neu dechnegol. Onid peth cwbl ddiuchelgais yw peidio â dysgu’r Gymraeg fel iaith genedlaethol fodern? Pa ddysgwr Ffrangeg sydd am ddilyn cwrs Normandie neu gwrs Aquitaine, yn hytrach na dysgu Ffrangeg? Nid dweud nad yw gwahaniaethau tafodieithol yn werth sôn amdanynt yr wyf, na dweud na allant fod yn ddifyr, ond pwy sydd am ddysgu Saesneg Lerpwl neu Saesneg Llundain yn y lle cyntaf? Os bydd dysgwr yn defnyddio’r iaith, buan y daw i ddewis ‘cas e’ neu ‘cath e’ neu ‘cafodd e’ neu ‘cafodd o’ neu yn Saesneg ‘ain’t’ neu ‘haven’t’ neu ‘gora’ neu ‘got to’. Mawredd annwyl, efallai y bydd yn defnyddio mwy nag un ffurf hyd yn oed heb i’w ymennydd ffrwydro dan y straen! Mae dysgu iaith leol (yn hytrach na sôn am amrywiadau lleol wrth ddysgu iaith y genedl) yn nawddoglyd ac yn dangos diffyg gweledigaeth i’r Gymraeg. Mae fel pe bai addysgwyr yn meddwl mai’r gorau y gallant ei ddisgwyl gan y dysgwr yw y bydd yn defnyddio ei Gymraeg yn siop y gornel.

  15. siantirdu yn dweud:

    Diddorol! Rydych chi, wrth gwrs, yn gwybod llawer iawn mwy am ddysgu Cymraeg na mi ond onid yn siop y gornel mae dysgwyr yn debygol o fod eisiau defnyddio eu Cymraeg i ddechrau? Ac os ydyn nhw’n dod wyneb yn wyneb â “We don’t say it like that” neu, yn waeth, pobl yn eu hosgoi am eu bod yn siarad yn “rhy gywir”, maen nhw’n debygol o dorri eu calonnau cyn symud ymlaen? (Ddigwyddodd hyn i ewyrth i mi).

  16. Rhisiart yn dweud:

    Mae pobl yn dweud ‘We don’t say it like that’ yn bennaf am fod dysgwyr yn swnio’n anghymreigaidd, yn camdreiglo ac yn gwneud gwallau eraill. Yr acen yw un o’r prif feini tramgwydd ac mae ‘Sut ydych chi?’ wedi ei ynganu fel siaradwr diwylliedig brodorol yn debyg o gael ei dderbyn yn well na ‘Sut dach chi?’ gydag acen Runcorn. Wedi i’r dysgwr glywed rhywun dweud ‘Shwdi-chi?’ yn y siop, neu i’r athro egluro iddo mai dyna yw’r ffurf leol, dylai fod yn medru defnyddio’r ffurf safonol a’i ffurf leol yn ddidrafferth. Rhaid peidio â meddwl bod y dysgwyr yn dwp! Cytunaf mai siarad yn y gymdogaeth yw’r cam cyntaf, ond nid iaith y gymdogaeth yw’r sylfaen orau i adeiladu iaith gref arni.

  17. siantirdu yn dweud:

    Mae hynna’n gwneud synnwyr!

  18. Iestyn yn dweud:

    Sylw diddorol, Rhisiart.

    Fel mae’n digwydd, o’r De wy’n dod, ac o’r Gogledd mae Aran (sef “hanner arall” cwrs SSIW). Gan ein bod yn dysgu i bobl siarad, yn ni’n defnyddio’n acenion a’n tafodiaethoedd naturiol. Felly nid cwrs deheuol a chwrs gogleddol sydd, ond cwrs Iestyn a chwrs Aran.

    Wrth ddysgu i siarad, mae’n rhaid dewis geirfa a phatrymau llafar dilys, ac er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid gwneud dewisiadau rhwng gwahanol eiriau / patrymau. Yn hytrach na phendroni dros “dwi angen” vs “mae angen arna’i” vs “Mae isie i fi”, y ni wedi cadw at ta beth yn ni’n gweud yn naturiol.

    Mae llwyth o enghreifftiau eraill – dwi, rwy, wy, wi neu yr ydwyf i? Cwmpo neu ddisgyn? Deffro neu ddihuno? Ac yn y blaen ad infinitum.

    Yn y pendraw, does dim gymaint a hynny o wahaniaeth rhwng dau gwrs SSIW, a gan fod modd dilyn y naill gwrs yn hawdd iawn wedi cwpla (neu orffen?) y llall, gewch chi ddos dwbl o eirfa lle mae na wahaniaeth.

  19. Rhisiart yn dweud:

    ’Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’ch dadl, ond ’rwyf hefyd yn meddwl y gall fod anfanteision i ddysgu iaith unigolyn. Ces i fy magu, yng Nghaerlŷr, i ddweud ‘I’m no gunna giv im owt’ ond petawn ‘n dysgu Saesneg i rywun (neu am ddysgu Saesneg fy hun), byddai’n well gen i: ‘I’m not going to give him anything.’ Paham? 1. Mae’n dangos, i raddau o leiaf, o ble daw’r elfennau ac felly’n gwneud dysgu’n haws 2. Mae’n arfer ffurf safonol ‘anything’ yn hytrach na ffurf leol ‘ought’ > ‘owt’ 3. Mae’n cyflwyno iaith dderbyniol ym mhob man, ac os caiff ei ynganu fel Sais, yn gwbl naturiol. 4. Mae’n dangos sut i ysgrifennu iaith ffurfiol. (Duw a ŵyr, mae angen dangos hynny i lawer o bobl yng Nghymru bellach!)

    Gellir dadlau bod achos y Gymraeg yn wahanol am nad oes iddi safonau cryf a chydnabyddedig ac nad oes disgwyl i neb siarad mewn ffordd safonol. Yr a ddywedwn i yw bod elfennau llafar yn llifo’n araf ac yn sicr i mewn i iaith y defnyddiwr os caiff ei iaith ei hadeiladu ar sylfeini safonol. Prin y gellir dweud bod y tafodieithoedd yn ystyrlon iawn i lawer o siaradwyr bellach, beth bynnag, am fod cymaint o fynd a dod ym mhob man.

    Gall yr athro ddefnyddio ffurfiau safonol a’i rai ei hun hefyd, yn ôl y cyd-destun (yn y wers, dros goffi i ddechreuwr newydd, ail flwyddyn, dros goffi yn yr ail flwyddyn etc.), ond awgrymwn mai iaith wedi ei safoni i raddau helaeth, ac iaith genedlaethol, sydd orau fel sylfaen. Tybed onid yw llawer o’r Cymraeg gwael a welir a glywir bellach yn seiliedig ar ddysgu iaith anffurfiol lle y caiff unrhyw beth ei dderbyn cyhyd â bod modd dyfalu’r ystyr?

    Ni ddisgwyliaf i bobl gytuno â mi, gyda llaw, gan mai mynd yn erbyn y llif yw’r hyn ’rwy’n ei ddweud!

  20. siantirdu yn dweud:

    Dw i’n cytuno â llawer o’r hyn rŷn chi’n ei ddweud, er enghraifft:

    “1. Mae’n dangos, i raddau o leiaf, o ble daw’r elfennau ac felly’n gwneud dysgu’n haws”

    Rwy’n dilyn fforwm trafod lle mae llawer o ddysgwyr yn gofyn cwestiynau ac mae llawer o’r cwestiynau sydd ganddyn nhw yn deillio o’r ffaith eu bod yn dysgu Cymraeg anffurfiol e.e. “naethon ni”, a “dw i ddim yn gallu ddeall e”

  21. Iestyn yn dweud:

    Wy hefyd yn cytuno gyda llawer o dy eiriau a dy syniadau Rhisiart. Yr hyn sydd yn fy mecso i yw – ble mae’r llinell i’w thynnu?

    Rwyt ti’n llygad eu lle, er enghraifft, taw iaith “siop gornel” sy’n cael ei dysgu gan gyrsiau fel arfer, er nad ydw i’n cytuno taw diffyg uchelais sydd wrth wraidd hyn – wedi’r cyfan yn siop y cornel bydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’u Cymraeg yn gyntaf. Daw’r ymrwymiad a’r hyder i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol o’i defnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd.

    Yn sicr, mae eisiau i ni arddel Cymraeg raenus a chywir gyda’n dysgwyr, ond a oes rhaid arddel Cymraeg lenyddol? Er enghraifft, ma ‘na ddadl dros ddysgu “Yr ydwyf i”. O hwn daw pob un o’r ymadroddion “Rydw i”, “Dw i”, “Wi”, “Wy i”, ac mae’n gwneud synnwyr o “(Ni..)..dydw i ddim”, atebion fel “Nag ydwyf” (=Nadw, Nagw, Nag ydw, Nachdw). Ond, ydyn ni wir am i’n dysgwyr mynd mas gyda’u calonnau’n curo, wedi dysgu digon am sgwrs a ffindio’u hunain mewn siop gornel yn gofyn “Yr ydwyf yn ymofyn prynnu…”?

    Wi’n sylweddoli taw sefyllfa eithafol yw hynny, ond ble mae’r ffin i’w gosod?

    Gyda llw, mae’n llawer well gyda fi glywed dysgwr yn siarad iaith hyderus na iaith gywir. Daw cywirdeb i rywun sydd yn hyderus eu Cymraeg llawer iawn yn haws nag y daw hyder i rywun sydd yn becso am gywirdeb drwy’r amser.

  22. Rhisiart yn dweud:

    Tynnu’r ffin yw craidd y broblem, ’rydych yn llygad dy le. Yn aml, nid oes dim yn gwbl foddhaol ond cyflwyno amrywiaeth o batrymau, ond gan ganolbwyntio yn llwyr ar un ohonynt yn y dosbarth. Yr hyn sydd yn peri pryder yw llwyr anwybyddu ffurfiau eraill:

    1. sydd ddim / nad yw’n
    2. dw i / ’rwyf yn
    3. bo fi ddim / nad wy’n / nad wyf yn
    4. ganddon nhw / ganddyn nhw / ganddynt
    5. ceson nhw / cawson nhw / cawsant
    6. cafoch chi / cawsoch chi

    1. y naill neu’r llall – ond gwybodaeth oddefol o’r llall
    2. y cyntaf wrth sgwrsio – ond gwybodaeth oddefol o’r llall
    3. yr ail ond gwybodaeth oddefol o’r ddau ddewis arall
    4. yr ail, ond gwybodaeth oddefol o’r ddau ddewis arall
    4. yr ail, ond gwybodaeth oddefol o’r ddau ddewis arall
    5. yr ail, ond gwybodaeth oddefol o’r ddau ddewis arall
    etc. etc.

    Gan amlaf, bydd modd dewis rhywbeth i Gymru i gyd, fel y gwneid yn ôl yn y 70au pan oedd Cymraeg Byw’n ennill tir.

Gadael ymateb i Richard Diddymu ymateb